Cyflwyniad
Rydyn ni’n diweddaru cymwysterau er mwyn sicrhau eu bod yn cyfateb i nodau’r Cwricwlwm newydd – y dechreuwyd ei addysgu mewn nifer o ysgolion ar ddechrau blwyddyn academaidd 2022-2023. Mae hyn yn cynnwys cymwysterau TGAU, y Dystysgrif Her Sgiliau a chymwysterau eraill fel BTEC, rydyn ni’n cyfeirio atyn nhw fel y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16.
Rydyn ni am i’r cymwysterau hyn fodloni pedwar diben y Cwricwlwm, sy’n galluogi dysgwyr i fod yn:
- ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- cyfranwyr mentrus a chreadigol, sy’n barod i chwarae rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
- dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd
- unigolion iach a hyderus, sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Cymwysterau TGAU newydd
Gwnaethom gynnal ymgynghoriad helaeth ar ein cynigion diweddaraf ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd ddiwedd 2022, ar ein platfform Dweud Eich Dweud. Mae'r cynigion hyn yn cynnig disgrifiad lefel uchel o sut allai’r cymwysterau newydd hyn edrych - ond nid ydyn nhw’n fersiynau drafft o'r cymwysterau eu hunain.
Yn gyfan gwbl, gwnaethom ymgynghori ar gynigion ar gyfer 26 o gymwysterau gwahanol, yn cwmpasu ystod o bynciau. Roedd y cynigion yn gynigion wedi’i grwpio o amgylch chwe maes dysgu a phrofiad y Cwricwlwm i Gymru:
- celfyddydau mynegiannol
- dyniaethau
- gwyddoniaeth a thechnoleg
- iechyd a lles
- ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
- mathemateg a rhifedd
Cymwysterau Gwneud-i-Gymru
Mae ein penderfyniadau diwygio TGAU - a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023 - yn dilyn gwaith manwl a chyd-greu gyda rhanddeiliaid - gan gynnwys athrawon, darlithwyr, arholwyr, rhieni, cyflogwyr, cyrff dysgedig a phroffesiynol, arbenigwyr pwnc a grwpiau diddordeb, prifysgolion a cholegau - dros nifer o flynyddoedd.
Mae'r cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd hyn yn gam cyntaf pwysig yn y gwaith ehangach o ddiwygio'r cynnig llawn o gymwysterau 14-16, a bydd pob elfen ohono ar waith erbyn mis Medi 2027.
Er mwyn adlewyrchu uchelgais a phwrpas y Cwricwlwm, rhaid i bob TGAU gynnwys cyfleoedd i ddysgwyr:
- ystyried, trafod ac ymdrin â’r themâu trawsgwricwlaidd canlynol:
-
- addysg cydberthynas a rhywioldeb
- addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith
- amrywiaeth
- cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
- hawliau dynol
- datblygu eu sgiliau trawsgwricwlaidd o lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
- datblygu'r sgiliau sy'n hanfodol i bedwar diben y Cwricwlwm
- ymdrin â'r thema o gynaliadwyedd
Adroddiadau penderfyniadau
Isod ceir crynodeb manwl o'n hadroddiad sy'n esbonio'r penderfyniadau rydym wedi'u gwneud ar y gofynion dylunio (meini prawf cymeradwyo) ar gyfer cyfres newydd o gymwysterau TGAU wedi'u Gwneud-i-Gymru.
Ochr yn ochr â'r crynodeb hwn, gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar yr ymgynghoriad, ynghyd â chyfres o adroddiadau manylach yn esbonio'r gofynion yr ydym wedi'u gosod ar gyfer pob pwnc TGAU, ynghyd â chrynodeb a dadansoddiad o'r adborth i'r ymgynghoriad.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu adroddiad ar gyfer bobl ifanc sy'n crynhoi ac yn egluro'r penderfyniadau allweddol yr ydym wedi'u gwneud ar draws pynciau.
Gallwch hefyd edrych ar set gyflawn o feini prawf cymeradwyo ar gyfer y holl cymwysterau TGAU hyn.
Dogfennau cynorthwyol
Isod fe welwch nifer o ddogfennau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r penderfyniadau hyn.
- TGAU Gwneud-i-Gymru - themâu cwmpasog
- Cymwys ar gyfer y Dyfodol - cyd-greu gweledigaeth
- TGAU Gwneud-i-Gymru - methodoleg ymgynghoriad
- TGAU Gwneud-i-Gymru - dadansoddiad o ganlyniadau dysgwyr mewn cymwysterau TGAU gwyddoniaeth
- TGAU Gwneud-i-Gymru - asesiad effaith integredig
- TGAU Gwneud-i-Gymru - dull rheoleiddio
- TGAU Gwneud-i-Gymru - datganiad sefyllfa polisi - themâu trawsbynciol y Cwricwlwm i Gymru
Camau nesaf
Byddwn ni nawr yn gweithio'n agos gyda CBAC a Llywodraeth Cymru i ddatblygu manylion y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd hyn, a fydd yn cael eu cymeradwyo erbyn mis Medi 2024.
Bydd gan ysgolion flwyddyn academaidd lawn i baratoi ar gyfer addysgu’r cymwysterau am y tro cyntaf ym mis Medi 2025, gydag adnoddau addysgu a dysgu ar gael i gefnogi'r cyfnod pontio. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cyhoeddi adroddiad i'r gwaith rheoli newid sydd ei angen i ddarparu'r cymwysterau newydd hyn.
Gweminarau
I gael gwybod rhagor am ganlyniadau'r ymgynghoriad a phenderfyniadau lefel pwnc, edrychwch ar ein cyfres o weminarau ategol:
- Yr Adroddiad Ymgynghori – Gwyliwch a Chyflwyniad
- Penderfyniadau'r Dyniaethau - Gwyliwch a Chyflwyniad
- Penderfyniadau Mathemateg a Rhifedd - Gwyliwch a Chyflwyniad
- Penderfyniadau Gwyddoniaeth a Thechnoleg - Gwyliwch a Chyflwyniad Atebion Holi ac Ateb
- Penderfyniadau Iechyd a Lles - Gwyliwch a Chyflwyniad
- Penderfyniadau Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu - Gwyliwch a Chyflwyniad
- Penderfyniadau'r Celfyddydau Mynegiannol - Gwyliwch a Chyflwyniad
Cwestiynau Cyffredin
Beth fydd yn newid?
Bydd y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd yn:
- paratoi dysgwyr ar gyfer heriau cymdeithas fodern ac yn adlewyrchu amrywiaeth a’r byd rydyn ni’n byw ynddo
- ymgorffori technolegau digidol er mwyn sicrhau bod cymwysterau’n addas ar gyfer y dyfodol
- cynnwys ystod o ddulliau asesu perthnasol, difyr ac amrywiol
- cefnogi iechyd meddwl a lles cadarnhaol ac yn hyrwyddo profiadau addysgu a dysgu cadarnhaol
- helpu dysgwyr i wneud cysylltiadau ystyrlon ar draws eu dysgu
Pryd fydd newidiadau'n cael eu gwneud?
Bydd y don gyntaf o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd ar gael i’w haddysgu o fis Medi 2025, gyda’r cymwysterau hyn yn cael eu dyfarnu i ddysgwyr am y tro cyntaf ym haf 2027. Bydd ail don lai o gymwysterau TGAU newydd yn cael eu cyflwyno i'w haddysgu yn 2026.
Ar bwy fydd y newidiadau hyn yn effeithio?
Dysgwyr sydd ym Mlwyddyn 7 fydd y garfan gyntaf i astudio tuag at y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd yn 2025.
Pam fod cymwysterau TGAU yn newid?
Gyda’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno, mae angen diweddaru cymwysterau er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cyd-fynd â beth mae dysgwr yn ei ddysgu a sut maen nhw’n cael eu haddysgu.
Datblygiad y prosiect
Mae'r cynigion hyn yn dilyn gwaith manwl dros nifer o flynyddoedd. Mae hyn wedi cynnwys cynnal gweithgorau a grwpiau rhanddeiliaid pwrpasol er mwyn arwain ar ddatblygu cynigion ar gyfer cymwysterau mewn pynciau unigol. Mae'r grwpiau hyn wedi cynnwys athrawon, darlithwyr, arholwyr, rhieni, cyflogwyr, cyrff dysgedig a phroffesiynol, grwpiau diddordeb pwnc, prifysgolion a cholegau addysg bellach.
2019-2020
Gwnaethom gynnal ein hymgynghoriad Cymwys ar Gyfer y dyfodol cychwynnol - rhwng Tachwedd 2019 a Chwefror 2020 - yn amlinellu set o egwyddorion arweiniol a ddylai lywio’r ystod o gymwysterau yn y dyfodol a gofynnwyd beth ddylai ddigwydd gyda chymwysterau TGAU a’r Dystysgrif Her Sgiliau.
Yn ein hadroddiad penderfyniadau dilynol, gwnaethom gytuno y dylai'r prif gymwysterau a ddilynnir gan bobl ifanc 14 i 16 oed gael eu galw'n TGAU o hyd, ond y dylai cynnwys ac asesiadau’r cymwysterau TGAU newid. Gwnaethom hefyd amlinellu ein cyngor i’r Gweinidog Addysg ynghylch y dull yr oeddem yn ei ystyried a chytuno ar sut y dylai cymwysterau newid yn y dyfodol.
2021
Yn 2021, gwnaethom gynnal ein hail ymgynghoriad lle'r oeddem yn gofyn am safbwyntiau ar sgiliau cyfannol o fewn y Dystysgrif Her Sgiliau, yr ystod o bynciau a ddylai fod ar gael fel TGAU a chymwysterau eraill Gwneud-i-Gymru. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Ionawr ac Ebrill 2021.
Cyhoeddwyd ein hadroddiad penderfyniadau ar yr ail ymgynghoriad hwnnw ym mis Hydref 2021. Yn dilyn hynny, gwnaethom gyhoeddi ein penderfyniad am gymwysterau Cymraeg lefel TGAU.
Ymchwil
Mae gan Cymwysterau Cymru dîm o ymchwilwyr ac ystadegwyr sy'n datblygu ac yn cyflwyno ymchwil ac ystadegau mewn perthynas â chymwysterau a'r system gymwysterau. Maen nhw wedi comisiynu a goruchwylio’r gwaith o ddatblygu prosiectau ymchwil annibynnol a mewnol i helpu i lywio ein penderfyniadau ar y cymwysterau a fydd yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r ymchwil sy’n llywio ein penderfyniadau i’w gweld isod.
Canfyddiadau a Phrofiad o Asesiadau Di-Arholiad
Cyfres o adroddiadau am ganfyddiadau pwnc-benodol a thrawsbynciol ymchwil a gynhaliwyd ar brofiadau a chanfyddiadau athrawon a dysgwyr o asesiadau di-arholiad mewn cymwysterau TGAU cymeradwy yng Nghymru, rhwng 2019 a 2020.
Systemau asesu addysgol rhyngwladol a'r modd y maent yn cynnwys athrawon.
Adroddiad yn disgrifio systemau asesu rhyngwladol a chyfranogiad athrawon mewn asesu.
Meini prawf cymeradwyo
Meini Prawf Cymeradwyo lefel pwnc
Cymerwch ran
Ydych chi'n barod i helpu i lunio dyfodol addysg yng Nghymru? Allech chi ddefnyddio'ch gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddylanwadu ar gymwysterau'r dyfodol?
Rydyn ni’n chwilio am unigolion sydd â gwybodaeth a phrofiad o bynciau ac asesu i weithio ochr yn ochr â'n tîm cymeradwyo i'n helpu i gymeradwyo cymwysterau Gwneud-i-Gymru newydd a chyffrous. Mae angen amrywiaeth o unigolion sydd â chyfoeth o brofiad ar draws pob pwnc ym mhob un o'r chwe maes dysgu a phrofiad (MDPh), sydd â dealltwriaeth fanwl o'r Cwricwlwm i Gymru a gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o asesu addysgol.
Fel arbenigwr pwnc, byddwch yn cydweithio'n agos â’n tîm cymeradwyo drwy gydol y broses gymeradwyo ac yn chwarae rhan ategol yn yr adolygiad o'r cymwysterau newydd Gwneud-i-Gymru a ddatblygwyd gan y corff dyfarnu. Mae hwn yn gyfle unigryw i gael effaith sylweddol ar gymwysterau yng Nghymru a chael profiad amhrisiadwy.
Mae’r cyfnod ymgeisio bellach ar agor, felly, os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r cyfle cyffrous hwn, ewch i GwerthwchiGymru i gael rhagor o wybodaeth ac i lenwi’r ffurflen gais. Y dyddiad cau ar gyfer y cyfle hwn yw dydd Gwener 3 Tachwedd 2023.
Sut i gofrestru fel cyflenwr ar GwerthwchiGymru
Os mai dyma'r tro cyntaf i chi ddefnyddio GwerthwchiGymru, cyn y gallwch gofnodi eich diddordeb yn ein hysbyseb, bydd angen i chi gofrestru fel cyflenwr.
Mae cofrestru am ddim, dim ond yn cymryd ychydig funudau ac nid yw'n eich ymrwymo i wneud cais am gontract. Gallwch ymateb fel unigolyn neu drwy sefydliad rydych yn gweithio iddo.
Mae'r wefan GwerthwchiGymru yn cynnwys llawer o ganllawiau defnyddwyr i'ch helpu i gofrestru ac ymateb. Os wnaethoch chi fethu ein gweminar, gallwch gymryd golwg ar y cyflwyniad i ddarganfod mwy am yr hyn mae’n ei olygu i fod yn arbenigwr pwnc a sut allwch chi ymgeisio.
Sylwch, nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fod â Rhif Dun & Bradstreet i wneud cais am y rôl hon. I gofrestru fel cyflenwr heb rif DUNs, gadewch y maes hwn yn wag ac yna cliciwch "chwilio". Bydd blwch ticio yn ymddangos sy'n eich galluogi i’w dicio ac i osgoi'r gofyniad hwn a chofrestru fel cyflenwr.