Dysgwyr yng Nghymru i astudio cymwysterau TGAU newydd Gwneud-i-Gymru o 2025
Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi y bydd 26 o gymwysterau TGAU newydd Gwneud-i-Gymru yn cael eu cyflwyno o fis Medi 2025
Heddiw, mae Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru, yn cyhoeddi y bydd 26 o gymwysterau TGAU newydd Gwneud-i-Gymru yn cael eu cyflwyno o fis Medi 2025.
Gyda’r Cwricwlwm newydd i Gymru bellach yn cael ei addysgu mewn ysgolion ledled y wlad, mae’n hollbwysig bod cymwysterau’n newid i adlewyrchu beth mae dysgwyr yn ei ddysgu a sut maen nhw’n cael eu haddysgu. Felly, yn dilyn ymgynghoriad helaeth, bydd y cymwysterau TGAU newydd hyn yn disodli’r cynnig TGAU presennol sydd ar gael i’r rhan fwyaf o ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru.
Bydd y cymwysterau’n cael eu cyflwyno i’w haddysgu gyntaf o fis Medi 2025, pan fydd y garfan gyntaf o ddysgwyr y Cwricwlwm i Gymru yn cyrraedd Blwyddyn 10, gyda’r cymwysterau TGAU newydd cyntaf yn cael eu dyfarnu yn 2027.
Mae Cymwysterau Cymru wedi cydweithio â channoedd o gyfranwyr dros y pedair blynedd diwethaf, i sicrhau bod lleisiau dysgwyr, arbenigwyr pwnc, rhieni, ysgolion, athrawon, colegau, darlithwyr, cyflogwyr, prifysgolion, a llawer, o rai eraill yn cael eu cofnodi ac yn helpu i gyd-greu’r cymwysterau pwysig hyn.
Bydd y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd hyn yn cyflawni nodau ac uchelgeisiau’r Cwricwlwm drwy:
- gynnig mwy o ddewis i alluogi ysgolion i gynllunio a chyflwyno eu cwricwla
- diweddaru cynnwys i gefnogi themâu trawsgwricwlaidd y Cwricwlwm a'i bedwar diben
- cynnwys ystod ehangach o ddulliau asesu i wneud y cymwysterau hyn yn fwy perthnasol a deniadol
- gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol i ddarparu asesiadau perthnasol a chefnogi addysgu a dysgu
Cafwyd dros 2,100 o ymatebion yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygio TGAU a gynhaliwyd o fis Hydref i fis Rhagfyr 2022. Cyflwynwyd cynigion ar gyfer 26 o gymwysterau, wedi'u grwpio o amgylch chwe maes y Cwricwlwm.
Denodd y cynigion ar gyfer TGAU Y Gwyddorau, TGAU Cymraeg, TGAU Saesneg, a TGAU Mathemateg a Rhifedd sylw arbennig, a ysgogodd ragor o waith ymgysylltu a dadansoddi i edrych eto ar y cynnig oedd ar gael yn y pynciau hyn.
Mae'r adborth ansoddol cyfoethog hwn - ochr yn ochr â gwaith cyd-greu ac ymgysylltu helaeth ag ystod eang o randdeiliaid - wedi llunio'r cymwysterau newydd hyn.
Y canlyniad yw cynnig cymwysterau TGAU cydlynol, cynhwysol a dwyieithog newydd a fydd yn adlewyrchu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a gaiff eu hennill gan ddysgwyr, fel y gallant symud ymlaen yn hyderus i gam nesaf eu bywydau.
Crynodeb o’r prif benderfyniadau:
- mae gofynion dylunio ar gyfer 26 o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd wedi’u cyhoeddi – gan adlewyrchu’r cynnwys diwygiedig a’r trefniadau asesu wedi’u diweddaru
- bydd TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg cyfun a TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg cyfun newydd ill dau yn gymwysterau TGAU dyfarniad dwbl - gyda graddau unigol hefyd ar gael i sicrhau cynwysoldeb i bob dysgwr
- bydd y TGAU Mathemateg a Rhifedd newydd yn gymhwyster dyfarniad dwbl – heb unrhyw ddyfarniad gradd unigol ar gael
- y TGAU dyfarniad dwbl newydd yn y Gwyddorau fydd y prif gymhwyster gwyddoniaeth a astudir gan y mwyafrif o ddysgwyr 14-16 oed yng Nghymru – bydd TGAU gradd unigol, cyfun newydd yn y gwyddorau yn cyd-fynd ag ef
- bydd y rhan fwyaf o'r cymwysterau TGAU newydd hyn yn cael eu cyflwyno yn 2025 - gyda’r dyfarniad cyntaf yn 2027 - bydd nifer fach yn cael eu cyflwyno flwyddyn yn ddiweddarach yn 2026
- bydd y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd hyn bellach yn rhan o gynnig llawn newydd o gymwysterau 14-16 – i gefnogi’r Cwricwlwm – y cyhoeddir y gweddill ohono ym mis Ionawr 2024.
Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau Cymru, Emyr George: “Mae’r cymwysterau newydd a phwrpasol Gwneud-i-Gymru, wedi’u cyd-greu i adlewyrchu’r Cwricwlwm newydd, i edrych a teimlo’n wahanol i’r cymwysterau TGAU y mae dysgwyr yng Nghymru yn eu hastudio ar hyn o bryd.
Er y gall cyhoeddiad heddiw fod yn benllanw proses barhaus o gydweithio, dim ond dechrau pennod newydd gyffrous i addysg Gymraeg yw’r penderfyniadau hyn.
Mae ceisio barn athrawon, cyflogwyr, cyrff dyfarnu, addysg bellach ac addysg uwch – ac wrth gwrs, yn bwysicaf oll, dysgwyr – wedi bod yn hollbwysig wrth lunio’r cymwysterau newydd hyn, er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni anghenion yr holl randdeiliaid o 2025 ymlaen.
Fel rheoleiddiwr, ein rôl ni yw sicrhau bod cymwysterau yn darparu mesurau cyrhaeddiad teg a dibynadwy, ac ar ôl cynnwys cymaint o bartneriaid a rhanddeiliaid ehangach yn y gwaith diwygio hwn, rwy’n hyderus y bydd y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd hyn yn cyflawni’n union hynny ar gyfer ein dysgwyr.
Rydw i am ddiolch yn ddiffuant i bawb a gymerodd ran yn y broses hon – p’un a wnaethoch chi ymuno â digwyddiad, ymateb i’r ymgynghoriad, gweithio gyda ni, rhoi sylwadau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, neu rannu eich barn â ni ar hyd y daith, diolch am ein helpu i lunio dyfodol cymwysterau yng Nghymru.”
Dywedodd Jess, dysgwr ac aelod o grŵp dysgwyr Cymwysterau Cymru:
"Rwy'n credu y bydd creu TGAU Gwneud-i-Gymru newydd yn fuddiol iawn i bob dysgwr yng Nghymru. Mae cymwysterau TGAU wedi'u moderneiddio i gyd-fynd yn well ag anghenion a dymuniadau disgyblion, gyda defnydd cynyddol o dechnoleg yn y cyrsiau a mwy o gymysgedd o asesiadau, gan gynnwys mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith cwrs. Fel aelod o'r Grŵp Dysgwyr, mae wedi bod yn wych gweld ein barn yn cael ei gwerthfawrogi gan Cymwysterau Cymru a chael ein syniadau wedi'u cynnwys yn y broses."
Dywedodd Marc Belli, Pennaeth Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Caerdydd, ac aelod o Grŵp Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymwysterau Cymru:
"Rwy'n falch fy mod wedi gallu cyfrannu at y gwaith diwygio yma. Bydd y cymwysterau y mae ein dysgwyr yn eu hastudio nawr yn cyd-fynd â'r ffordd y cânt eu haddysgu fel y nodir gan egwyddorion arweiniol ein Cwricwlwm i Gymru newydd.
Ymgysylltodd Cymwysterau Cymru â'r hyn oedd gennym ni, fel arweinwyr ysgolion, i'w ddweud am y diwygiadau hyn. Yn y pen draw, fel arweinwyr roedd gennym ystod o wahanol safbwyntiau ar ddylunio cymwysterau ac, yn arbennig, pynciau penodol. Fodd bynnag, rwy'n ddiolchgar ein bod wedi cymryd rhan yn y broses i helpu i ddeall effaith bosibl y cynigion ar fyfyrwyr. Ar ben hynny, roedd Cymwysterau Cymru yn barod i archwilio opsiynau amgen ar gyfer diwygio pynciau penodol.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld ein carfan gyntaf o ddysgwyr yn astudio ar gyfer y cymwysterau newydd hyn ymhen dwy flynedd. Mae hwn yn gyfle ar gyfer newid trawsnewidiol i fyfyrwyr yng Nghymru ac, o bosibl, i’n cymdeithas ehangach.”