NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

05.04.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Ein Cynllun Busnes ar gyfer 2023 – 2024

Mae ein Cynllun Busnes yn nodi ein blaenoriaethau gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24.

Mae ein Cynllun Busnes yn nodi ein blaenoriaethau gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24, sef rhwng mis Ebrill a mis Mawrth. Mae’r cynllun wedi’i lunio o amgylch ein Blaenoriaethau Strategol ar gyfer pum mlynedd ac mae’n rhoi ffocws i ni ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. 

 Mae ein blaenoriaethau strategol ar gyfer pum mlynedd yn amlinellu ein dull o sicrhau bod cymwysterau a'r system gymwysterau yn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr ac yn hybu hyder y cyhoedd. 

 Mae gennym ni ffocws Gwneud-i-Gymru yn Cymwysterau Cymru, mae hyn yn cynnwys sicrhau cynnig cynaliadwy o gymwysterau dwyieithog o ansawdd uchel. Rydym hefyd yn mabwysiadu ymagwedd esblygiadol ddeinamig at gymwysterau fel eu bod yn parhau i fod yn gyfredol ac yn berthnasol i gymdeithas fodern. Rydym yn rheoli newid yn ofalus ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i gadw mewn cysylltiad â’n rhanddeiliaid a chyflawni diwygiadau llwyddiannus. Rydym yn defnyddio ein dylanwad i hyrwyddo dulliau asesu modern ac arloesol yn ogystal â gwneud yn siŵr bod lles dysgwyr yn ganolog i’n penderfyniadau. 

Am fwy o wybodaeth, cymerwch olwg ar ein cynllun busnes yma.