BLOG

Cyhoeddwyd:

12.10.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Gweithio gyda’n gilydd i ddod â chymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd yn fyw

Yn dilyn ein cyhoeddiad ym mis Mehefin 2023 am ganlyniadau ein hymgynghoriad ar gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru, mae Emyr George – Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau – yn edrych yn ôl ar y gwaith ar y cyd gyda rhanddeiliaid a arweiniodd at y penderfyniadau cyffrous hyn ac yn edrych ymlaen at gam nesaf ein gwaith o ddiwygio cymwysterau TGAU yng Nghymru, wrth i ni weithio mewn partneriaeth â CBAC a Llywodraeth Cymru.

Y daith TGAU hyd yn hyn

Rydyn ni’n adfywio cymwysterau i bobl ifanc yng Nghymru er mwyn adlewyrchu'r byd modern rydyn ni’n byw ynddo. Mae datblygiadau arloesol mewn technoleg a'n ffordd o fyw yn llywio marchnad swyddi'r dyfodol. Felly, mae pobl ifanc angen y wybodaeth a’r sgiliau diweddaraf er mwyn ffynnu yn eu gyrfaoedd, ac rydyn ni am arwain y ffordd gyda chymwysterau sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Rhoddodd yr ymateb i’n hymgynghoriad yn 2022 ar gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru gyfoeth o adborth i ni ar y diwygiadau arfaethedig, gan roi darlun manwl i ni o’ch barn ar gynigion ar gyfer cymwysterau TGAU newydd.

Mae'r wybodaeth gyfoethog hon wedi ein helpu i gwblhau'r gofynion dylunio ar gyfer cymwysterau TGAU newydd a fydd yn galluogi ysgolion i ddod â'r Cwricwlwm i Gymru yn fyw. Rydyn ni wedi llunio’r cymwysterau TGAU newydd i gefnogi dibenion ac egwyddorion y cwricwlwm ar gyfer cynnydd ac i adlewyrchu ei chwe maes dysgu a phrofiad.

Mae ein penderfyniadau’n adlewyrchu’r hyn y dywedodd dysgwyr wrthym eu bod nhw ei eisiau a’i angen o gymwysterau, gan gydnabod eu pwysigrwydd wrth symud ymlaen i addysg ôl-16 ac yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Bydd y cymwysterau TGAU newydd yn dod ag elfennau fel technoleg ddigidol, amrywiaeth a chynhwysiant, a chynefin – y gair Cymraeg am y man lle y teimlwn ein bod yn perthyn iddo – ac yn cynnwys cymysgedd ehangach o ddulliau asesu er mwyn sicrhau bod y cymwysterau yn darparu ar gyfer dysgwyr y dyfodol.

Amlygodd eich adborth themâu fel:

  • hyblygrwydd, dewis a phwyslais ar yr ardal leol
  • cynnwys cymwysterau a threfniadau asesu
  • yr effaith ar ymgeiswyr preifat
  • defnyddio technoleg ddigidol
  • cynnal safonau
  • hygyrchedd
  • cynnydd, lles a pharodrwydd dysgwyr
  • ymarferoldeb ac adnoddau
  • cymwysterau eraill 14-16 sydd ar gael
  • cwestiynau polisi addysgol ehangach

Drwy gydol y diwygiadau hyn, rydyn ni wedi ymgysylltu'n helaeth ag athrawon, dysgwyr, arbenigwyr pwnc, cymdeithasau dysgedig, cyflogwyr, rhieni a rhagor. Fe wnaeth barn pob un ohonoch chi helpu i lunio ein penderfyniadau terfynol, ac rydyn ni wedi cyffroi am beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer dyfodol cymwysterau 14-16 yng Nghymru.

Rydw i wedi fy nghyffroi’n arbennig gan sut y bydd y cymwysterau TGAU newydd hyn yn cynnwys ffocws ar y profiadau y bydd dysgwyr yn eu hennill wrth iddyn nhw ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, a’r cyfleoedd i ddysgwyr archwilio ac ymwneud â safbwyntiau a chyfraniadau amrywiol ar draws y gwahanol bynciau maen nhw’n eu hastudio. .

Pontio i gymwysterau TGAU newydd

Wrth i ni barhau â’r daith ddiwygio, byddwn yn parhau i ddefnyddio’r dystiolaeth gyfoethog a gafwyd o’ch adborth, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar yr hyn sydd bwysicaf. Bydd hyn yn arbennig o bwysig wrth i ni droi ein sylw at gefnogi ysgolion a dysgwyr i baratoi ar gyfer y newidiadau sydd o'n blaenau.

Rydyn ni’n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a CBAC ar gynlluniau ar y cyd i sicrhau bod gan ysgolion yr adnoddau dysgu proffesiynol ac addysgol dwyieithog sydd eu hangen arnyn nhw i helpu i bontio i'r cymwysterau TGAU newydd yn hyderus.

Bydd y dull cydweithredol o ddiwygio yn parhau dros y misoedd nesaf, a rhwng nawr a mis Tachwedd, bydd CBAC yn gofyn am eich barn chi ar amlinelliadau drafft o'r cymwysterau TGAU newydd. Bydd yr adborth a dderbynnir yn helpu i lunio manylion y cymwysterau newydd.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn cyd-greu canllawiau i ysgolion, i'w helpu i ddatblygu eu Cwricwlwm ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed. Mae ymgynghoriad ar ddrafft o'r canllawiau wedi'i gynllunio ar gyfer diwedd y flwyddyn.

Y darlun ehangach

Mae ein gwaith diwygio TGAU yn un elfen bwysig yn unig yn ein gwaith i ail-lunio cymwysterau 14-16 i helpu i ddod â’r cwricwlwm newydd yn fyw, ac i roi dewisiadau cynhwysol, cydlynol a chwbl ddwyieithog i bob dysgwyr a fydd yn diwallu eu hanghenion.

Byddwn yn dweud rhagor am y diwygiadau ehangach hyn yn gynnar yn 2024, pan fyddwn yn cyhoeddi canlyniadau ein hymgynghoriad diweddaraf.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru, a'r mis nesaf byddwn yn lansio adnodd newydd i ddod â'r holl newyddion diweddaraf ar ddiwygio cymwysterau ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed at ei gilydd, i'ch helpu i gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.