Mantoli - parhad a newid o fewn y TGAU Busnes newydd
Y Rheolwr Cymwysterau, Kate Russell, sy’n ymchwilio'n fanwl i'r cymhwyster TGAU Busnes newydd a'r newidiadau allweddol i athrawon a dysgwyr.
Mae'r byd y mae busnesau'n gweithredu ynddo yn newid yn gyson.
Mae busnesau’n gorfod ymateb i fwy o ddigwyddiadau economaidd, technolegol, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol nag erioed o'r blaen. O ganlyniad, mae'n bwysicach nag erioed bod dysgwyr wedi'u paratoi i ddeall cyd-destunau busnes yn y byd go iawn, deall busnes a'i werth i unigolion, cymuned a ffyniant, a theimlo eu bod wedi'u grymuso i fod yn fentrus.
Beth sydd wedi newid yn y cymhwyster TGAU Busnes newydd?
Mae newidiadau wedi’u gwneud i’r cymhwyster TGAU Busnes, o ran cynnwys ac asesu. Mae'r newidiadau hyn wedi'u gwneud mewn ymateb i'r Cwricwlwm i Gymru, adborth o'r ymgynghoriad a gwaith cyd-greu â rhanddeiliaid.
Mireinio'r cynnwys
Mae'r cymhwyster TGAU newydd mewn busnes yn adeiladu ar gryfderau'r cymhwyster presennol. Bydd dysgwyr yn parhau i gael y cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o hanfodion busnes, gan archwilio rhanddeiliaid, cadwyni cyflenwi, twf busnes a strategaethau marchnata. Fodd bynnag, mae rhai newidiadau pwysig yn y cynnwys er mwyn sicrhau bod y cymhwyster yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru, gyda mwy o ffocws ar fusnesau yn eu hardal leol. Er enghraifft, mae'n ofynnol i ddysgwyr ddeall prosesau busnes, cymhellion a chanlyniadau, o fewn eu cynefin, a sut y gall y rhain ddylanwadu ar gyfleoedd ar gyfer ffyniant.Mae'r cymhwyster TGAU newydd hefyd yn ystyried y cyfraniadau a wneir i fusnesau gan ystod o wahanol grwpiau o fewn cymdeithas, gan gynnwys cymunedau ac unigolion Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol.
Newidiadau i'r asesu
Yn gyson â chymwysterau TGAU eraill ym maes dysgu a phrofiad y dyniaethau, bydd y TGAU busnes newydd yn cynnwys dau asesiad di-arholiad (ODDA). Bydd asesu di-arholiad yn cyfrannu 40% o'r radd gyffredinol. Er y bydd hyn yn cynyddu'r amser asesu cyffredinol o'i gymharu â'r cymhwyster fel y mae ar hyn o bryd, mae manteision amlwg i’w cael o gynyddu cyfran yr asesiadau di-arholiad. Mae un o'r unedau asesu di-arholiad yn rhoi cyfle i ddysgwyr gynllunio gweithgaredd entrepreneuraidd, tra bod y llall yn eu galluogi i ymchwilio i fusnes sy'n gweithredu yn eu hardal leol. Bydd asesu di-arholiad yn galluogi ysgolion yn benodol i ystyried cyd-destunau lleol i raddau mwy nag y byddai'n bosibl mewn arholiad, gan helpu dysgwyr i ddeall y berthynas rhwng busnes a chymdeithas mewn ystyr fwy perthnasol a bywyd go iawn. Yn ogystal â galluogi mwy o leoleiddio o fewn y cymhwyster, mae'r tasgau asesu di-arholiad hefyd yn rhoi mwy o gyfle i asesu’r defnydd o sgiliau a thechnegau sy'n berthnasol i fusnes, megis dadansoddi data, a’u cymhwyso.
Cefnogi canolfannau trwy newid
Mae ystod eang o gymorth ar gael i athrawon wrth iddynt baratoi i gyflwyno'r cymhwyster busnes newydd o fis Medi 2025. Mae CBAC wedi cyhoeddi ystod o adnoddau digidol dwyieithog, pwrpasol ar gyfer y cymhwyster hwn ac wedi cynnal digwyddiadau 'paratoi i addysgu' wyneb yn wyneb y tymor diwethaf. Gallwch hefyd weld canllaw CBAC i’r fanyleb yma.