Manylu ar y TGAU Daearyddiaeth newydd
Mae Oliver Stacey, Uwch Reolwr Cymwysterau, yn rhoi sylw i rai o'r newidiadau allweddol i'r TGAU Daearyddiaeth i helpu athrawon a dysgwyr i baratoi ar gyfer cyflwyno'r cymhwyster newydd hwn ym mis Medi 2025.
Mae Daearyddiaeth yn bwnc sy’n berthnasol i ddysgwyr ledled Cymru. Mae tirwedd ffisegol a dynol amrywiol ein cenedl yn cynnig cyd-destunau cyfoethog i ddysgwyr ystyried a defnyddio cysyniadau a phrosesau daearyddol, ar lefel leol a chenedlaethol.
Mae Daearyddiaeth yn galluogi dysgwyr i archwilio ac ymchwilio i rai o'r materion mwyaf sy'n wynebu'r byd heddiw, fel newid hinsawdd, globaleiddio a datblygu cynaliadwy, a'u hystyried ar ystod o raddfeydd o'r lleol i’r byd-eang.
Fel pwnc, mae hefyd yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu a defnyddio sgiliau trosglwyddadwy fel dadansoddi ac ymholi ochr yn ochr â sgiliau sy’n fwy penodol i’r ddisgyblaeth fel defnyddio mapiau a systemau gwybodaeth ddaearyddol.
Beth sy'n newid yn y cymhwyster TGAU Daearyddiaeth newydd?
Mae'r TGAU newydd yn adeiladu ar y cymhwyster presennol a'r hyn sy'n gweithio'n dda ynddo. Fodd bynnag, mewn ymateb i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru ac adborth gan randdeiliaid mae nifer o newidiadau wedi'u hymgorffori yn y cymhwyster newydd.
Cyfran uwch o asesiadau di-arholiad
Mae'r TGAU newydd yn cynnwys dau asesiad di-arholiad (NEA) sy'n cyfrannu 40% o'r radd gyffredinol. Er bod ychwanegu ail dasg asesu di-arholiad yn cynyddu'r amser asesu cyffredinol o'i gymharu â'r cymhwyster presennol, mae manteision clir i gynyddu cyfran yr asesiadau di-arholiad.
Er enghraifft, ochr yn ochr ag asesiad di-arholiad a gaiff ei asesu yn allanol ar ddatblygu sgiliau gwaith maes, bydd uned gydag asesiad di-arholiad ymarfer gwneud penderfyniadau ar atebion cynaliadwy. Bydd yr uned hon yn galluogi dysgwyr i ganolbwyntio ar archwilio materion daearyddol ac atebion cynaliadwy a chael eu hasesu'n fanylach nag a fyddai'n bosibl trwy arholiad ysgrifenedig wedi'i amseru.
Mae mwy o wybodaeth am asesiadau di-arholiad yn y gyfres newydd o TGAU ar gael yma.
Cynnwys wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu themâu yn y Cwricwlwm i Gymru
Bydd y TGAU newydd yn parhau i roi sylfaen gref mewn cysyniadau a sgiliau daearyddol craidd. Fodd bynnag, er mwyn adlewyrchu'r Cwricwlwm i Gymru a'i themâu trawsgwricwlaidd yn well, mae'r TGAU newydd yn gofyn am fwy o ystyriaeth i bynciau fel effeithiau mudo, integreiddio ac arwahanu a hefyd dyfodol cynaliadwy. Mae CBAC wedi adlewyrchu hyn yng nghynnwys y cymhwyster, er enghraifft trwy ystyried achosion, effeithiau a rheolaeth mudo ar ystod o raddfeydd.
Cyflwyno asesiadau ar y sgrin yn raddol
Mae technoleg ddigidol yn chwarae rhan bwysig mewn daearyddiaeth, er enghraifft trwy ddefnyddio mapiau digidol, delweddau lloeren a systemau gwybodaeth ddaearyddol. Gyda hyn mewn golwg, rydyn ni’n ei gwneud yn ofynnol i CBAC sicrhau bod un o'r asesiadau ar gael ar y sgrin o fewn pum mlynedd i gyflwyno'r cymhwyster.
Mae hyn yn galluogi i fanteision asesu ar y sgrin gael eu gwireddu, ac ar yr un pryd yn rhoi amser i ganolfannau baratoi ar gyfer ei gyflwyno.
Asesu unedol
Yn dilyn adborth gan randdeiliaid, bydd y cymhwyster newydd yn unedol. Bydd hyn yn galluogi canolfannau i rannu'r llwyth asesu ar draws y ddwy flynedd, gyda chyfleoedd ar gyfer arholiadau yn haf Blwyddyn 10, yn hytrach na llwytho’r arholiadau yn haf Blwyddyn 11.
Cefnogi canolfannau trwy newid
Rydyn ni’n ymwybodol bod hwn yn gyfnod prysur i athrawon wrth iddyn nhw baratoi i gyflwyno'r TGAU newydd. Er mwyn eu helpu gyda hyn, mae CBAC wedi dechrau cyhoeddi amrywiaeth o adnoddau TGAU Daearyddiaeth dwyieithog digidol i gefnogi addysgu a dysgu llawer o'r pynciau o fewn y TGAU newydd. Bydd mwy o adnoddau yn cael eu hychwanegu yn ystod tymhorau'r gwanwyn a'r haf.
Hefyd. Mae CBAC yn cynnig amrywiaeth o ddysgu proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb i gefnogi athrawon a chanolfannau i baratoi ar gyfer cyflwyno'r cymhwyster newydd arloesol hwn.