Meini prawf cydnabod Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 yn cael eu cyhoeddi heddiw
Heddiw mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei benderfyniadau ar feini prawf cydnabod i gyrff dyfarnu sy'n datblygu Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
Pwrpas y meini prawf yw sicrhau bod gan sefydliadau sy'n datblygu'r cymwysterau newydd, a fydd ar gael o 2027 ymlaen, yr adnoddau a'r gweithdrefnau angenrheidiol yn eu lle i wneud hynny.
Bydd y gyfres newydd o gymwysterau yn cynnwys:
- TAAU
- https://cymwysterau.cymru/rheoleiddio-a-diwygio/diwygio/cymwysterau-cenedlaethol-14-16/cymwysterau-cenedlaethol-sylfaen/cymwysterau Sylfaen (mewn pynciau cyffredinol a chysylltiedig â gwaith)
- y Gyfres Sgiliau, yn cynnwys Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith a’r Prosiect Personol
Bydd y rhain yn cael eu haddysgu ochr yn ochr â chymwysterau TGAU fel rhan o gymwysterau diwygiedig Cymru ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed.
Datblygwyd y meini prawf yn dilyn trafodaethau â rhanddeiliaid ac ymgynghoriad ffurfiol rhwng 14 Hydref a 22 Tachwedd 2024.
Ochr yn ochr â chyhoeddi ei benderfyniadau, mae Cymwysterau Cymru hefyd wedi cyhoeddi fersiwn derfynol o’r meini prawf cydnabod a chanllawiau ategol.
Dylai cyrff dyfarnu sydd â diddordeb mewn datblygu'r cymwysterau newydd hyn gadarnhau eu bwriad i wneud cais am gydnabyddiaeth drwy anfon e-bost at vqmonitoring@qualifications.wales. Ar ôl hynny, bydd cyfarfod gyda Cymwysterau Cymru yn cael ei drefnu i drafod y broses yn fanylach.