NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

17.10.23

CANOLFANNAU
CYRFF DYFARNU
ADDYSGWYR
DYSGWYR
RHANDDEILIAID

Penderfyniad ar gymhwyster TGAU dyfarniad sengl newydd yn y gwyddorau

Gallwch ddysgu rhagor am ein penderfyniadau ar gyfer cymwysterau TGAU newydd Gwneud-i-Gymru

Ym mis Mehefin 2023, fe wnaethom gyhoeddi ein penderfyniad i ddatblygu TGAU dyfarniad sengl integredig newydd yn y gwyddorau, i gyd-fynd â TGAU newydd yn y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl). 

Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddylunio’r cymhwyster dyfarniad sengl newydd. Mae'n cael ei gynllunio ar gyfer dysgwyr a fydd yn elwa o astudio swm llai o gynnwys na'r cymhwyster dyfarniad dwbl, all fel arall ddatgysylltu â gwyddoniaeth. Disgwyliwn y bydd mwyafrif y dysgwyr yn astudio'r TGAU dyfarniad dwbl newydd. 

Bydd y dyfarniad TGAU sengl newydd yn y gwyddorau yn: 

  • yn defnyddio ymagwedd thematig wrth addysgu a dysgu i ddwyn ynghyd elfennau o fioleg, cemeg, ffiseg a chwilfrydedd gwyddonol 
  • rhoi cyfle i ddysgwyr ennill TGAU gwyddoniaeth a datblygu eu dealltwriaeth o wyddoniaeth yng nghyd-destun bywyd bob dydd 
  • cynnig yr un lefel o her â phob TGAU arall ac asesu dysgwyr ar lefel 1 a 2 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru 
  • ddim wedi ei gynllunio i gefnogi dilyniant i UG a Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg neu Ffiseg 

Ein nod yw cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymhwyster TGAU dyfarniad sengl newydd hwn yn gynnar yn 2024. Bydd y cymhwyster ei hun yn barod i’w addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2026 – flwyddyn ar ôl i’r cymhwyster dyfarniad dwbl newydd fod ar gael yn 2025. 

Yn y cyfamser, i ddiwallu anghenion pob dysgwr yn 2025-2026, bydd CBAC yn ymestyn y cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol presennol (Gradd Unigol) tan fis Medi 2026. Mae hyn yn golygu y bydd ysgolion yn gallu parhau i addysgu'r cymhwyster hwn i ddysgwyr sy'n dechrau yn y Flwyddyn 10 ym mis Medi 2025. Rydym yn hyderus y bydd ysgolion yn gallu cyflwyno'r cymhwyster hwn yn unol â fframwaith Cwricwlwm i Gymru. 

Dysgwch fwy am ein penderfyniadau ar gyfer cymwysterau TGAU newydd Gwneud-i-Gymru yma. 

Ers i ni gyhoeddi'r stori newyddion hon, rydym wedi diweddaru'r llinell amser ar gyfer TGAU y Gwyddorau (Gwobr Dwbl) a fydd nawr yn cael ei chyflwyno i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.