Trosolwg o ganlyniadau mis Tachwedd 2023
Da iawn i ddysgwyr yng Nghymru sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw ar gyfer arholiadau y gwnaethon nhw eu sefyll fis Tachwedd diwethaf.
Yn ystod cyfres arholiadau mis Tachwedd 2023, cofrestrwyd dysgwyr i sefyll asesiadau mewn pedwar pwnc TGAU: Saesneg Iaith, Mathemateg, Mathemateg - Rhifedd, a Chymraeg Iaith. Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi ystadegau swyddogol ar y cofrestriadau - gallwch ddarganfod mwy a darllen yr adroddiad llawn yma.
Cafwyd 22,505 o gofrestriadau ym mis Tachwedd 2023, i fyny 10.3% o 20,410 yn 2022. Roedd cyfanswm y cofrestriadau ar gyfer mis Tachwedd 2023 yn debyg i gofrestriadau 2018 a 2019, ond roedden nhw’n sylweddol uwch na 2020 a 2021.
Mathemateg - Rhifedd oedd y pwnc gyda’r nifer mwyaf o gofrestriadau ym mis Tachwedd, sef 53.4% o gyfanswm y cofrestriadau yn 2023 o’i gymharu â 51.4% yn 2022. Roedd y mwyafrif (90.4%) o gofrestriadau TGAU Tachwedd 2023 ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 11, cyfran debyg i 2022.
Hon oedd y gyfres arholiadau gyntaf yn y flwyddyn academaidd 2023-24, lle byddwn yn goruchwylio’r broses o ddychwelyd i drefniadau asesu cyn y pandemig. Fe wnaethom ni fonitro sut y gwnaeth CBAC ddarparu’r gyfres hon, a'r dull a ddefnyddiwyd i ddyfarnu graddau yn fanwl. Rydyn ni’n hyderus bod egwyddorion cytûn a phrosesau addas wedi’u dilyn a bod y dyfarniadau mor deg â phosibl i ddysgwyr.
Mae CBAC wedi cyhoeddi canlyniadau ar gyfer y gyfres ar ei gwefan ac mae’r Cyd-gyngor Cymwysterau hefyd wedi cyhoeddi trosolwg o’r gyfres.