NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

14.03.23

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Creu cymwysterau ar gyfer dyfodol dysgwyr

Dweud Eich Dweud am y Cynnig Cymwysterau 14-16 Llawn

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad cenedlaethol ar y Cynnig Cymwysterau 14 i 16 Llawn yng Nghymru, gyda digwyddiad lansio yn Ysgol Glan Clwyd. 

Gyda'r nod o greu cymwysterau newydd o gwmpas dyfodol dysgwyr - i roi'r sgiliau y bydd eu hangen arnynt fel gweithlu dyodol Cymru - mae'n dilyn ymgynghoriad TGAU helaeth yn 2022, a fu'n archwilio cynigion ar gyfer cyd-greu cymwysterau TGAU wedi’u Gwneud-i-Gymru. Bydd rhagor o fanylion am ddiwygiadau i gymwysterau TGAU yn cael eu cyhoeddi'r haf hwn. 

Mae ymgynghoriad y Cynnig Llawn yn cynnwys tri chynnig ar gyfer dewislen gynhwysol o gymwysterau dwyieithog ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed, a fydd yn cyd-fynd â chymwysterau TGAU yng Nghymru, ac fe'ch gwahoddir i ‘Ddweud Eich Dweud'. 

Mae’r cynigion yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer cyfle cyfartal drwy gymwysterau sy’n galluogi pob dysgwr i gyflawni, wneud cynnydd a mwynhau eu haddysg, beth bynnag fo’u llwybr dysgu. Mae’r ymgynghoriad yn archwilio ailgynllunio’r ‘ddewislen’ lawn o gymwysterau 14 i 16 i ymgorffori ystod o sgiliau, pynciau, dulliau asesu, lefelau cymhwyster, ac arddulliau dysgu. Mae'n cynnwys pynciau allweddol a themâu megis cynaliadwyedd, cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a lles. Bydd yn caniatáu i ddysgwyr wireddu eu potensial drwy lunio eu haddysg yn y ffordd sy'n gweddu orau iddynt.  

Mae cynigion y Cynnig Llawn yn cynnwys: 

  • cyfres Sgiliau gyda chymhwyster Prosiect Sgiliau Cyfannol ac unedau/cymwysterau mewn Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith 
  • cymwysterau cyn-alwedigaethol mewn meysydd galwedigaethol eang 
  • cymwysterau Sylfaen i gefnogi’r cymwysterau TGAU newydd 

Gallwch ddysgu mwy am beth mae'r cynigion hyn yn ei olygu, a rhannu eich meddyliau, drwy'r wefan Dweud Eich Dweud. Mae'n hawdd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Yn syml, cofrestrwch, darllenwch am y tri chynnig yn fwy manwl, a chwblhewch yr arolwg ar-lein i helpu i lunio cymwysterau 14 i 16 y dyfodol yng Nghymru. 

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a sicrhau eich bod yn cael dweud eich dweud, ewch i: dweudeichdweud.cymwysterau.cymru. 

 Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Mercher 14 Mehefin 2023. 

Am ragor o fanylion neu i ofyn cwestiynau am y tri chynnig, ymunwch â gweminar byw Cymwysterau Cymru ddydd Mercher 29 Mawrth am 4pm. Cofrestrwch nawr 

Dywedodd Huw Wilkinson, Rheolwr Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, Partneriaeth Sgiliau - Prifddinas Caerdydd: 

"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle pwerus i gyflogwyr Cymru, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, rhieni, gofalwyr, a dysgwyr lywio cymwysterau yng Nghymru - felly rwy'n eich annog i gymryd rhan. Ein pobl ifanc fydd gweithlu Cymru yn y dyfodol. Mae'n hanfodol eu bod yn gallu dewis o ystod eang o gymwysterau sy'n darparu ar gyfer eu gwahanol anghenion dysgu ac sy’n rhoi'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.  Mae cymryd rhan a helpu i lunio'r cymwysterau hyn yn fuddsoddiad yn nyfodol economi Cymru. Mae'n gyfle i rannu ein meddyliau ar roi'r cyfle i ddysgwyr ddatblygu seiliau cadarn i ffynnu ym myd gwaith.” 

Mewn ymateb i glywed am ymgynghoriad y Cynnig Cymwysterau 14-16 Llawn, dywedodd Jess sy’n ddysgwr: 

“I ddysgwyr, nod yr ymgynghoriad ar y Cynnig Llawn yw diwygio system addysg Cymru er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau allweddol i symud ymlaen yn effeithiol yn yr ysgol, ac ar eu pennod nesaf. Dylai pobl ifanc gymryd rhan a dweud eu dweud oherwydd, fel myfyrwyr presennol, mae gennym gipolwg ar y ffyrdd y gellid gwella addysg. Mae'n ffordd wych i'ch llais gael ei glywed a'i wrando arno." 

Dywedodd dysgwyr eraill: 

"Dylai ysgolion ddysgu sgiliau bywyd fel rheoli arian a dyled, ysgrifennu CV ac ati, i'n cefnogi ni nawr a phan fydd gennym ni deuluoedd ein hunain." 

"Mae'r ffaith bod Cymwysterau Cymru  yn cymryd yr amser  i holi  sut mae myfyrwyr yn teimlo am yr ysgol ac am addysg yn cynhesu'r galon yn fawr." 

Dywedodd Sian Alwen, Pennaeth Ysgol Glan Clwyd: 

“Yn Ysgol Glan Clwyd ‘rydym yn gwbl gyffrous ein bod yn cyflwyno’r Cwricwlwm Newydd i flwyddyn 7 ers Medi 2022, gyda’r nod creiddiol hwnnw o feithrin Cymry blaengar sy’n ymgorffori’r pedwar diben yn gyflawn.  Yn naturiol, mae sicrhau eu bod yn fedrus eu sgiliau i ateb anghenion y gweithlu lleol yn allweddol ac felly roedd hi’n gwneud perffaith synnwyr i ni hwyluso’r lansiad hwn yn Ysgol Glan Clwyd.  

Mae ymgynghoriad Y Cynnig Llawn yn palmentu’r ffordd i ni gynnig y ddarpariaeth orau ar gyfer ein pobl ifanc a’r trawstoriad eang o’r profiadau a’r sgiliau maen nhw yn eu haeddu eu caffael cyn camu’n hyderus i’r byd mawr. Llais y dyfodol yw llais ein dysgwyr, llais dyhead yw llais pob rhiant a llais arbenigol yw llais y gweithlu amryddawn o athrawon fydd yn cyflwyno’r amrediad newydd o gymwysterau. Mae  hi’n allweddol bwysig fod y lleisiau hyn oll yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn fel ein bod yn grediniol ein bod yn cynnig y cymwysterau gorau posib i bob Cymro a Chymraes ifanc pa bynnag lwybr maen nhw’n dewis ei ddilyn.  

Mae’r ddeialog yn bwysig ac mae’r newid sydd ar y gorwel yn arwyddocaol -  mae angen i ni fanteisio ar y cyfle yma i gydweithio a rhannu barn er mwyn ei gael yn iawn y tro cyntaf.” 

Wrth lansio’r ymgynghoriad hwn ar yr ystod lawn a chynhwysol o gymwysterau ar gyfer dysgwyr yng Nghymru, esboniodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau yn Cymwysterau Cymru 

“Bydd y Cynnig Llawn yn darparu dewis ysbrydoledig o bynciau a sgiliau ar wahanol lefelau i ddiwallu anghenion pob person ifanc, gan gydnabod nad oes dau ddysgwr yr un peth. Nod yr ystod gyffrous hon o gymwysterau yw helpu dysgwyr wrth iddynt symud ymlaen trwy fywyd, dysgu a gwaith. Rwy'n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn edrych ar ein cynigion, yn rhoi gwybod i ni beth maen nhw'n ei feddwl, ac yn ein helpu i lywio dyfodol pobl ifanc yng Nghymru."