Ymgynghoriad ar feini prawf cydnabod Cymwysterau Cenedlaethol 14-16
Mae Cymwysterau Cymru wedi lansio ymgynghoriad er mwyn i gyrff dyfarnu a rhanddeiliaid eraill rannu eu barn ar feini prawf cydnabod drafft i ddyfarnu amrywiaeth o Gymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd.
Fel y rheoleiddiwr annibynnol, mae Cymwysterau Cymru yn nodi'r rheolau a'r rheoliadau y mae'n rhaid i bob corff dyfarnu eu bodloni wrth gynnig cymwysterau.
Mae cyfres newydd o Gymwysterau Cenedlaethol wedi'i datblygu i gyd-fynd â chymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru. Gyda’i gilydd, erbyn 2027, bydd y rhain yn disodli’r rhan fwyaf o’r cymwysterau presennol sy’n gymwys ar gyfer cyllid cyhoeddus ar gyfer dysgwyr 14–16 oed.
Mae'r cymwysterau newydd hyn yn cefnogi nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru, ac yn cynnwys:
- Cymwysterau TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd)
- Cymwysterau Sylfaen
- Cymwysterau Sgiliau Gwaith a Sgiliau Bywyd
- Cymwysterau Prosiect
Rhaid i bob corff dyfarnu cydnabyddedig fodloni rhai amodau, ond gall Cymwysterau Cymru osod meini prawf ychwanegol ar gyfer sefydliadau sy'n darparu cymwysterau penodol.
Mae meini prawf cydnabod sy’n benodol i’r cymhwyster eisoes ar waith ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch. Wrth i Cymwysterau Cymru baratoi ar gyfer cyflwyno'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol llawn, mae wedi datblygu meini prawf cydnabod cymwysterau penodol ar gyfer cyrff dyfarnu sy'n cynnig cymwysterau TAAU, Sylfaen, Sgiliau a Phrosiect.
Pwrpas y meini prawf drafft yw sicrhau bod gan gyrff dyfarnu sy'n cynnig y cymwysterau yr adnoddau a'r gweithdrefnau angenrheidiol ar waith i wneud hynny. Mae rhagor o wybodaeth am waith rheoleiddio Cymwysterau Cymru ar gael yma.
Mae'r ymgynghoriad yn caniatáu i randdeiliaid gynnig barn ar y meini prawf cydnabod drafft, yn ogystal â'r dystiolaeth awgrymedig y byddai angen i gyrff dyfarnu ei darparu i fodloni'r meini prawf.
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 22 Tachwedd 2024, a gallwch ddweud eich dweud yma.