Cyflwyniad
Cyflawnir ein diben pan fo dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr addysg yn ymddiried mewn cymwysterau a gaiff eu sefyll yng Nghymru ac yn eu gwerthfawrogi, a chânt eu cydnabod ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Byddwn yn gwybod pan fyddwn wedi cyflawni ein gweledigaeth pan:
- mae cymwysterau rheoleiddiedig a'r system gymwysterau yn ymateb i anghenion ac amgylchiadau cyfnewidiol, yn enwedig o ran y budd hirdymor i Gymru a'i myfyrwyr
- mae cymwysterau rheoleiddiedig yng Nghymru yn gynhwysol ac yn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i fyfyrwyr
- mae cymwysterau rheoleiddiedig a gaiff eu sefyll gan fyfyrwyr yng Nghymru yn ddilys, yn ddibynadwy a chânt eu dyfarnu i safon briodol
mae trefn lywodraethu briodol ar waith i sicrhau atebolrwydd a chydymffurfiaeth reoleiddiol - mae'r wybodaeth sydd ei hangen yn rhesymol i sicrhau cymwysterau rheoleiddiedig cyson o ansawdd sicr ar gael ac yn hygyrch
- mae rheoleiddio yn gymesur, yn dryloyw, yn gyson ac wedi'i dargedu i gefnogi system gymwysterau sydd yn gynaliadwy yn yr hirdymor
Fframwaith Rheoleiddiol a'n Dull Gweithredu
Rydym yn edrych tuag at allan, felly rydym yn ymgysylltu, yn cyfathrebu ac yn cydweithredu er mwyn atgyfnerthu ein gallu i roi hwb i hyder y cyhoedd yn y system gymwysterau yng Nghymru ac i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru.
Wrth gyflawni ein dyletswyddau rheoleiddio ein nod yw sicrhau ein bod yn:
- rydym yn gwahodd dysgwyr i roi eu safbwyntiau, yn gwrando arnynt ac yn ymateb iddynt
- rydym yn gwrando ar adborth, safbwyntiau a phryderon rhanddeiliaid ac yn ymateb iddynt yn briodol
- mae'r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau rheoleiddio ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn gymesur ag effaith bosibl y camau gweithredu rheoleiddio
- mae ymgynghoriadau yn dryloyw ac ystyrlon
- rydym yn cydweithredu ac yn defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd rhanddeiliaid fel sy'n briodol
- rydym yn ceisio meithrin a chynnal cydberthnasau effeithiol â rhanddeiliaid allweddol
- mae ein gwaith cyfathrebu'n glir, yn amserol, yn llawn gwybodaeth ac wedi'i dargedu rydym yn adolygu effaith ein gwaith cyfathrebu ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o wella'r ffordd rydym yn gwneud hynny
- rydym yn gweithio gyda rheoleiddwyr eraill lle bynnag y bo'n bosibl gan ystyried yr effaith ar gyrff dyfarnu a reoleiddir gan fwy nag un rheoleiddiwr
- rydym yn cynnal asesiadau effaith rheoleiddio os ydynt yn briodol er mwyn asesu'r gost, y manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â pholisi neu gam gweithredu
Mae ein Fframwaith Rheoleiddiol a'n Dull Gweithredu yn nodi'n fanwl sut rydym yn ymgymryd â'n gwaith rheoleiddio. Caiff ein dull rheoleiddio ei lywio gan bum egwyddor rheoleiddio da, sef:
Tryloywder
- dylai ein dull rheoleiddio fod yn syml ac yn hawdd ei ddeall, a – thrwy fod mor agored â phosibl ynghylch ein prosesau a'n cofnodion – dylem sicrhau bod pobl yn deall y penderfyniadau rydym wedi'u gwneud a pham
Atebolrwydd
- dylem allu cyfiawnhau ein penderfyniadau i gyd, a'u hegluro yn wyneb craffu cyhoeddus
- rydym yn gweithredu hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru ac mae Senedd Cymru yn craffu ar ein gwaith ar ran pobl Cymru
- rydym hefyd yn paratoi adroddiad blynyddol sy'n nodi sut rydym wedi cyflawni ein swyddogaethau a sut rydym yn bwriadu eu cyflawni yn y dyfodol
Cymesuredd
- dim ond pan fydd angen gwneud hynny y byddwn yn ymyrryd
- dylai unrhyw atebion a gynigiwn fod yn briodol i'r risg a wynebir
- dylem nodi unrhyw gostau sy'n deillio o'n penderfyniadau, a chadw'r rhain mor isel â phosibl
Cysondeb
- rydym yn sicrhau bod ein rheolau a'n hamodau yn gydlynol ac yn cael eu rhoi ar waith yn deg, fel ein bod yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i'r sefydliadau rydym yn eu rheoleiddio
Targedu
- drwy sicrhau bod ein gweithgareddau rheoleiddio yn canolbwyntio ar y broblem, a thrwy bennu targedau clir, diamwys, rydym yn osgoi cymaint o ganlyniadau anfwriadol â phosibl
- mae gennym sianeli cyfathrebu agored â rheoleiddwyr cymwysterau eraill ledled y DU ac rydym yn cydweithio â nhw lle y bo'n briodol
- mae cydberthnasau gwaith da yn ein helpu i reoli baich rheoleiddio posibl ac osgoi dyblygu diangen
Mae pedwar prif gategori o ddogfennau rheoleiddio sy'n sail i'n gwaith yn cydnabod, rheoleiddio, monitro a gorfodi cymwysterau a chyrff dyfarnu. Gallwch weld rhestr lawn ohonynt yma.
Mae ein Rhestr Term Rheoleiddio yn esbonio termau a ddefnyddir yn gyffredin yn ein dogfennau rheoleiddio a chefnogol.