Cyflwyniad
Rydyn ni'n gyfrifol am gymeradwyo cymwysterau a allai gael eu defnyddio ar raglenni dysgu sydd wedi'u hariannu'n gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed.
Rydyn ni hefyd yn dynodi cymwysterau penodol i'w defnyddio yng Nghymru. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n rheoleiddio'r corff dyfarnu sy'n cynnig y cymhwyster a’n bod yn fodlon ei bod yn briodol i'r cymhwyster gael ei gynnig ar gyrsiau sydd wedi'u hariannu'n gyhoeddus i bobl ifanc.
Mae monitro safonau a phrosesau dyfarnu yn rhan allweddol arall o'n gweithgareddau rheoleiddio.
Cymwysterau blaenoriaethol
Gall Cymwysterau Cymru gymeradwyo cymwysterau sydd wedi'u cynllunio i fodloni anghenion dysgwyr yng Nghymru.
Mae'r Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol yn cael ei pharatoi ar y cyd rhwng Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru gan nodi cymwysterau y cytunwyd arnynt fel rhai blaenoriaethol i'w cymeradwyo ar adeg benodol.
Gall y rhain gynnwys cymwysterau y mae meini prawf cymeradwyo penodol wedi'u datblygu ar eu cyfer i fodloni anghenion dysgwyr Cymru. Gallai’r anghenion hynny, er enghraifft, fod yn gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru neu â gofynion penodol economi Cymru a chyflogwyr yng Nghymru.
Mae'r Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol hefyd yn ceisio nodi cymwysterau y gellir eu cynnwys ar y rhestr wrth symud ymlaen.
Mae hyn yn galluogi datblygiad cynnar y meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau hyn a gall roi gwybod i gyrff dyfarnu am flaenoriaethau'r dyfodol.
Cymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig
Mae gan Cymwysterau Cymru’r pŵer i gyfyngu cymhwyster sydd ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol.
Gallwn ni benderfynu y dylai rhai cymwysterau ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol gael eu cyfyngu i uchafswm o ffurfiau (neu 'fersiynau') y gellir eu cymeradwyo ar unrhyw adeg.
Er enghraifft, efallai y byddwn ni'n penderfynu mai dim ond un fersiwn o TGAU Saesneg Iaith rydyn ni'n bwriadu ei gymeradwyo. Yn yr achos hwn, byddem yn penderfynu ynglŷn â hyn a byddai'r cymhwyster hwn yn dod yn Gymhwyster Blaenoriaethol Cyfyngedig.
Ni allwn wneud penderfyniad o’r fath oni bai ein bod yn fodlon bod y cyfyngiad arfaethedig yn ddymunol o ystyried ein prif nodau, a’r amcanion canlynol:
- osgoi anghysondeb rhwng gwahanol fersiynau o gymhwyster
- ein galluogi i arfer dewis rhwng cyrff dyfarnu a all fod eisiau datblygu ffurf newydd ar y cymhwyster neu rhwng gwahanol fathau o gymwysterau a gyflwynir i'w cymeradwyo
Cyn penderfynu cyfyngu ar nifer y ffurfiau cymeradwy ar gymhwyster, rhaid i ni hysbysu pob corff dyfarnu cydnabyddedig ac unrhyw berson arall rydyn ni’n credu y gellid disgwyl iddyn nhw fod â diddordeb yn ein cynnig, ac rydyn ni’n ystyried unrhyw ymatebion rydyn ni’n eu derbyn.
Ceir rhagor o fanylion am ein dull o gymeradwyo cymwysterau blaenoriaethol, a’n rhesymeg a’n prosesau ar gyfer cyfyngu cymwysterau blaenoriaethol yn ein Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol a’n Polisi Cymwysterau Blaenoriaethol Cyfyngedig.
Mae modd gweld yr holl hysbysiadau diweddar isod.
Cymwysterau Blaenoriaethol Cyfyngedig - Hysbysiadau sydd wedi'u Cyhoeddi
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3):
- Bwriad i Gyfyngu - Chwefror 2021
- Penderfyniad i Gyfyngu - Mehefin 2021
Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
- Bwriad i Gyfyngu - Tachwedd 2016
- Penderfyniad i Gyfyngu - Mawrth 2017
- Amrywio Penderfyniad i Gyfyngu - Ebrill 2019
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig:
- Bwriad i Gyfyngu - Gorffennaf 2018
- Penderfyniad i Gyfyngu - Ebrill 2019
Cymeradwyo cymwysterau
Rhaid i gymwysterau cymeradwy fodloni meini prawf cymeradwyo sy'n benodol i gymhwyster sy'n sicrhau eu bod yn bodloni anghenion dysgwyr yng Nghymru.
Proses Gymeradwyo Cymwysterau Cymru
Er mwyn sicrhau bod cymwysterau'n addas i'r diben ac yn bodloni anghenion dysgwyr a chyflogwyr, caiff cymwysterau eu hadolygu gan arbenigwyr yn erbyn ein Hamodau Cydnabod Safonol a’n meini prawf cymeradwyo penodol.
Dyma'r broses gymeradwyo:
- mae arbenigwyr pwnc yn cael eu recriwtio a'u hyfforddi gan Cymwysterau Cymru
- mae corff dyfarnu yn cyflwyno deunyddiau’r cymhwyster i'w gymeradwyo - y fanyleb, y sail resymegol ac unrhyw ddeunyddiau asesu enghreifftiol
- mae arbenigwyr pwnc yn adolygu'r deunyddiau yn erbyn y meini prawf cymeradwyo, yn llunio adroddiad adborth ac yna’n cyfarfod â Cymwysterau Cymru i gytuno ar unrhyw feysydd lle nad ydyn nhw’n cydymffurfio
- mae Cymwysterau Cymru yn llunio adroddiad adborth rheoleiddio i’r corff dyfarnu a nodir statws y cymhwyster fel un sy’n 'cydymffurfio' neu un 'nad yw’n cydymffurfio’
- gall corff dyfarnu ailgyflwyno cymhwyster ‘nad yw'n cydymffurfio’ i gael ei ailystyried gan ymateb i'r adroddiad adborth - gellir ailadrodd y broses hon nes bod y cymhwyster yn cael ei ystyried yn un sy’n 'cydymffurfio'
Proses Gymeradwyo ar gyfer Arbenigwyr Pwnc
Dynodi cymwysterau
Gall Cymwysterau Cymru hefyd ddynodi cymhwyster fel cymhwyster sy’n gymwys i’w ddefnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed.
Mae dynodi’n golygu ein bod ni’n rheoleiddio'r corff dyfarnu sy'n cynnig y cymhwyster a’n bod yn fodlon ei bod yn briodol i'r cymhwyster gael ei gynnig ar gyrsiau sydd wedi'u hariannu'n gyhoeddus i bobl ifanc.
O fis Medi 2025, bydd cymwysterau 14-16 Cenedlaethol newydd yn cael eu cyflwyno i ddysgwyr yng Nghymru, gan ddechrau gyda chymwysterau TGAU newydd wedi'u Gwneud i Gymru. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y cymwysterau 14-16 Cenedlaethol newydd.
Gwneud cais i gymeradwyo neu ddynodi cymhwyster
Gall corff dyfarnu cydnabyddedig wneud cais i gymeradwyo neu ddynodi cymwysterau yng Nghymru. I wneud hynny, rhaid iddo greu a chyflwyno cymhwyster ar QiW (bas-data Cymwysterau yng Nghymru).
Byddwn ni’n ystyried cymeradwyo cymhwyster os bydd ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol, neu os yw'n cyd-fynd â'r polisi ar gymeradwyo cymwysterau nad ydyn nhw’n flaenoriaethol; fel arall, byddwn ni’n ystyried ei ddynodi.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i greu a chyflwyno cymwysterau i QiW, cliciwch yma.
Rheolau a pholisi dynodi
I ddarllen y rheolau am geisiadau i ddynodi cymwysterau, cliciwch yma. Mae ein polisi dynodi cyfredol i'w weld yma hefyd.
Yn ystod 2024, byddwn yn diweddaru ein polisi dynodi i adlewyrchu cyflwyniad y cymwysterau 14-16 Cenedlaethol newydd:
-
Ym mis Chwefror, rydym wedi lansio ymgynghoriad ar y polisi diwygiedig.
-
Yn ystod tymor yr Hydref 2024, byddwn yn diweddaru ac yn cyhoeddi'r polisi diwygiedig gyda rheolau a chanllawiau wedi'u diweddaru.
Canllawiau dynodi
Canllaw Dynodi – Cyrff Dyfarnu
Canllaw QiW – Cais Corff Dyfarnu i ddiwygio cymwysterau Dynodedig
Cymwysterau sydd wedi’u cymeradwyo neu eu dynodi
Mae rhestr o gymwysterau sydd wedi eu cymeradwyo neu eu dynodi i'w gweld ar QiW.
Rheolau a pholisi dynodi
I ddarllen y rheolau am geisiadau i ddynodi cymwysterau, cliciwch yma. Mae ein polisi dynodi i'w weld yma hefyd.
Canllawiau dynodi
Canllaw Dynodi – Cyrff Dyfarnu
Canllaw QiW – Cais Corff Dyfarnu i ddiwygio cymwysterau Dynodedig
Canllaw Canolfannau i QiW
Cymwysterau sydd wedi’u cymeradwyo neu eu dynodi
Mae rhestr o gymwysterau sydd wedi eu cymeradwyo neu eu dynodi i'w gweld ar QiW.
Cymwysterau TGAU a Safon Uwch Dynodedig
Mewn pynciau lle rydyn ni wedi diwygio cymhwyster TGAU neu Safon Uwch yn benodol i Gymru, dim ond y cymhwyster hwnnw fydd yn gymwys i gael arian cyhoeddus yng Nghymru. Mewn pynciau lle nad oes cymhwyster TGAU neu Safon Uwch penodol i Gymru ar gael, bydd dysgwyr a ariennir gan y wladwriaeth yn gallu dewis o blith y cymwysterau TGAU a Safon Uwch sydd wedi’u diwygio yn Lloegr – cyn belled â’n bod ni wedi eu dynodi’r cymwysterau hynny’n gymwysterau sy’n gymwys i’w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir gan arian cyhoeddus yng Nghymru.
Mae cymwysterau TGAU a Safon Uwch sydd wedi'u diwygio yn Lloegr wedi'u cynllunio i fodloni'r gofynion sydd wedi’u gosod gan Ofqual. Maen nhw’n wahanol mewn sawl ffordd bwysig i'r cymwysterau TGAU a Safon Uwch sydd wedi'u datblygu'n benodol ar gyfer Cymru. Er enghraifft, caiff cymwysterau TGAU newydd a ddiwygiwyd ar gyfer Lloegr eu graddio ar raddfa o 9 i 1, nid A* i G; ac mae'r UG a'r Safon Uwch newydd a ddiwygiwyd ar gyfer Lloegr yn cael eu datgysylltu, felly nid yw'r canlyniadau UG yn cyfrannu at y radd gyffredinol a ddyfernir ar gyfer Safon Uwch. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y tebygrwydd a'r gwahaniaethau allweddol rhwng cymwysterau TGAU a Safon Uwch diwygiedig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yma.
Dim ond ar ôl iddo gael ei achredu gan Ofqual y byddwn yn dynodi TGAU neu Safon Uwch mewn pwnc sydd wedi'i ddiwygio ar gyfer Lloegr.
Fe welwch hefyd restr lawn o'r pynciau TGAU a Safon Uwch dynodedig a fydd ar gael yng Nghymru yma.
Mater i’r cyrff dyfarnu sy’n cynnig y cymwysterau hyn yn Lloegr yw penderfynu a ydyn nhw am wneud cais i’w dynodi yng Nghymru. Er mwyn annog cyrff dyfarnu i sicrhau bod yr ystod ehangaf bosibl o bynciau ar gael i ddysgwyr yng Nghymru, nid ydym yn mynnu eu bod yn sicrhau bod y cymwysterau hyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, mae'n ofynnol iddyn nhw gyhoeddi datganiad ar gyfer pob cymhwyster yn cadarnhau a fydd ar gael yn Gymraeg ac, os felly, yn egluro sut i ofyn am asesiad cyfrwng Cymraeg.
Mae’r cyrff dyfarnu sy’n cynnig y cymwysterau hyn yn Lloegr wedi cadarnhau eu dull o gynnig y cymwysterau hyn ar gyrsiau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru fel a ganlyn.
- bydd AQA yn cynnig ei gymwysterau TGAU a Safon Uwch diwygiedig ar gyrsiau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru – nid yw’n bwriadu cynnig unrhyw un o’i gymwysterau TGAU neu Safon Uwch diwygiedig drwy gyfrwng y Gymraeg
- bydd OCR yn cynnig ei gymwysterau TGAU a Safon Uwch diwygiedig ar gyrsiau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru – nid yw’n bwriadu cynnig unrhyw un o’i gymwysterau TGAU neu Safon Uwch diwygiedig drwy gyfrwng y Gymraeg
- bydd Pearson yn cynnig ei gymwysterau TGAU a Safon Uwch diwygiedig ar gyrsiau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru - bydd yn cynnig asesiadau cyfrwng Cymraeg ar gyfer pynciau y mae galw wedi bod amdanyn nhw yn y gorffennol ac y bernir ei bod yn ymarferol yn weithredol cynnig y ddarpariaeth hon yn y dyfodol
- o dan ei frand Eduqas, mae CBAC yn cynnig llawer o'r cymwysterau TGAU a Safon Uwch a restrir yn Lloegr - bydd hefyd yn sicrhau bod yr holl gymwysterau rhestredig y mae'n eu cynnig yn y modd hwn ar gael ar gyrsiau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru ac yn darparu asesiadau cyfrwng Cymraeg ym mhob un ohonynt ar gais
Monitro cymwysterau cyffredinol
Rydyn ni’n cynnal rhaglen helaeth o fonitro’r cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch diwygiedig i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n effeithiol, eu hasesu’n deg a’u dyfarnu i’r safon gywir. Mae'r rhaglen yn cael ei chynllunio'n flynyddol ac yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.
Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yng Nghymru yn sefyll cymwysterau cyffredinol a ddarperir gan CBAC, felly dyma lle mae ein ffocws.
Fel rhan arferol o'n gwaith monitro, rydyn ni’n arsylwi cyfarfodydd a gaiff eu trefnu gan CBAC. Mae’r rhain yn cynnwys:
- cyfarfodydd gwerthuso papurau cwestiynau – sy'n ystyried fersiynau drafft o bapurau cwestiynau a chynlluniau marcio
- cynadleddau safoni arholwyr a chymedrolwyr – sy’n ystyried newidiadau y gallai fod eu hangen i gynllun marcio ac yn sicrhau bod gan arholwyr ddealltwriaeth drylwyr o sut i roi pob cynllun marcio ar waith
- cyfarfodydd dyfarnu – lle mae uwch-arholwyr yn ystyried sampl o waith dysgwyr ochr yn ochr â dangosyddion ystadegol i gynnig ffiniau graddau ar gyfer pob papur
- digwyddiadau datblygiad proffesiynol parhaus – sy’n rhoi’r hyfforddiant a’r arweiniad diweddaraf i athrawon
Rydyn ni’n penderfynu pa gymwysterau sy'n cael eu monitro ar ba lefel drwy ddull sy'n seiliedig ar risg.
Rydyn ni hefyd yn cynnal holiadur blynyddol ar gyfres arholiadau ac asesiadau’r haf, sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr ac athrawon rannu eu barn a’u profiadau. Mae'r wybodaeth a gesglir yn helpu i lywio ein harolygiad o'r dyfarniadau ac i nodi agweddau ar y cymwysterau newydd y byddwn yn edrych arnynt yn fanylach fel rhan o'n gwaith monitro parhaus.
Rydyn ni’n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda CBAC i sicrhau bod systemau effeithiol ar waith mewn perthynas â recriwtio arholwyr, diogelwch asesiadau, cwblhau'r marcio a darparu'r gwasanaeth ôl-ganlyniadau.
Mae prosesau sy'n ymwneud â gosod heriau, asesu a dyfarnu'r Tystysgrifau Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru) yn cael eu monitro drwy gydol y flwyddyn.
Monitro cymwysterau galwedigaethol
Rydyn ni’n monitro cymwysterau galwedigaethol yn fanwl ac yn canolbwyntio ar gymwysterau a grwpiau cymwysterau nad ydyn nhw’n cael eu targedu gan yr adolygiadau sectoraidd.
Oherwydd nifer ac amrywiaeth y cymwysterau galwedigaethol a gynigir yng Nghymru a nifer y cyrff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, rydyn ni’n mynd ati i fonitro cymwysterau galwedigaethol mewn modd cymesur a phenodol. Rydyn ni’n ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu pa gymwysterau i'w monitro. Rydyn ni’n canolbwyntio ein monitro ar gymwysterau sy'n bodloni un neu fwy o'r disgrifiadau canlynol:
- yn gymwys i gael arian cyhoeddus
- cofrestriadau ac ardystiadau cymharol uchel
- ddim yn cael eu targedu gan adolygiadau sector
- yn asesu meysydd gwaith lle mae diogelwch yn hanfodol
- yn bodloni gofyniad i ymarfer neu drwydded i ymarfer
Ar gyfer pob gweithgaredd monitro rydyn ni’n cymharu a chyferbynnu gwybodaeth a thystiolaeth gan wahanol gyrff dyfarnu ac yn canolbwyntio ar:
- y safonau asesu mae cyrff dyfarnu yn eu gosod
- eu prosesau sicrhau ansawdd allanol
- y canllawiau maen nhw'n eu darparu i ddarparwyr dysgu
Rydyn ni hefyd yn casglu adborth gan ddysgwyr, canolfannau a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Rydyn ni’n adrodd ar ein canfyddiadau ac, os byddwn yn nodi diffygion gyda chyrff dyfarnu unigol, byddwn yn ysgrifennu atynt i dynnu sylw at ein pryderon ac yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gymryd camau priodol.
Safonau a dyfarnu
Mae'r broses o osod safonau yn digwydd yn y cyfarfodydd dyfarnu ac yn cael ei monitro'n agos gennym ni.
Caiff dangosyddion ystadegol eu defnyddio i gynhyrchu rhagfynegiadau ar gyfer TGAU, Safon Uwch a'r Dystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru) ar gyfer pob cyfres.
Mae'r rhain yn seiliedig ar gyrhaeddiad blaenorol carfan o gymharu â pherfformiad carfannau tebyg yn y gorffennol. Caiff y broses hon ei hamlinellu yn ein dogfennau cyfnewid data a’n dogfennau rheoleiddio ‘Requirements for setting specified levels of attainment for GCE and GCSE qualifications’ (Saesneg yn unig) (Safon Uwch a TGAU) a ‘Gofynion ar gyfer pennu lefelau cyrhaeddiad penodedig ar gyfer cymwysterau Tystysgrif Her Sgiliau’ (Bagloriaeth Cymru).
Ar gyfer cymwysterau TAG a TGAU nad ydyn nhw wedi cael eu diwygio, rydyn ni’n gweithio gyda’n cyd-reoleiddwyr, Ofqual a CCEA, i sicrhau bod y safon yn cael ei chynnal rhwng cymwysterau.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfresi arholiadau a chanlyniadau, gweler ein hadran ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru).
Cymwysterau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg
Mae Amod D9 o'n Hamodau Cydnabod Safonol yn amlinellu ein Hamodau a'n gofynion ar gyfer cyrff dyfarnu cydnabyddedig ynghylch cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Yn benodol:
- rhaid i gorff dyfarnu sicrhau bod cymwysterau Cymeradwy ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- rhaid i gorff dyfarnu sicrhau bod cymwysterau Dynodedig i ddysgwyr cyn-16 fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â'n Polisi Dynodi, o fis Medi 2027 (neu unrhyw ddyddiad a gaiff ei osod gennym ni)
- mae'n ofynnol i bob corff dyfarnu gyhoeddi datganiad polisi sy'n nodi i ba raddau maen nhw’n sicrhau bod cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- pan fo corff dyfarnu yn sicrhau bod cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iddo hyrwyddo argaeledd y cymwysterau hynny a hwyluso mynediad atyn nhw
Er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth â’r gofynion rheoleiddio hyn, rydyn ni wedi cyhoeddi Canllawiau i gyrff dyfarnu ar Amod D9: cymwysterau cyfrwng Cymraeg.