Cyflwyniad

O bryd i'w gilydd, efallai y bydd gan rai sy’n defnyddio’r system gymwysterau reswm i gwyno am gorff dyfarnu. Gan amlaf, y corff dyfarnu fydd yn ymdrin â’r gŵyn heb fod angen tynnu sylw Cymwysterau Cymru ati.

Os bydd cwyn am gymhwyster rheoleiddiedig wedi cael ei hystyried gan gorff dyfarnu, ond nad yw wedi'i datrys, yna gallwn ni ei hystyried.

Digwyddiadau

Rhaid i gyrff dyfarnu roi gwybod i ni’n syth pan fydd ganddyn nhw reswm i gredu bod unrhyw beth wedi digwydd, neu'n debygol o ddigwydd, a allai gael effaith andwyol.

Mathau o ddigwyddiadau

Mae enghreifftiau o'r mathau o ddigwyddiadau y dylech chi roi gwybod i ni amdanyn nhw wedi’u rhestru yma.

Bydden ni’n disgwyl cael gwybodaeth ynghylch a yw’r digwyddiad wedi effeithio ar ddysgwyr sy’n cael eu hasesu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, neu a allai’r digwyddiad effeithio ar y dysgwyr hynny. Os nad oes unrhyw ddysgwyr sy’n cael ei asesu’n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru y mae hyn effeithio arnyn nhw, neu y gallai hyn effeithio arnyn nhw o bosibl, yna nid oes angen rhoi gwybod i ni.

Rhoi gwybod i Cymwysterau Cymru

Rhowch y wybodaeth ganlynol pan fyddwch chi’n rhoi gwybod i ni am achos neu ddigwyddiad, os gwelwch yn dda:

  • y dyddiad y daethoch yn ymwybodol o'r digwyddiad
  • natur y digwyddiad
  • y cymwysterau yr effeithir arnyn nhw
  • nifer y canolfannau yng Nghymru yr effeithir arnyn nhw
  • nifer y dysgwyr yng Nghymru yr effeithir arnyn nhw
  • manylion unrhyw gamau gweithredu sydd wedi’u cymryd hyd yn hyn
  • manylion ac amserlen arfaethedig ar gyfer unrhyw gamau gweithredu sydd wedi’u trefnu at y dyfodol
  • cynnig ar gyfer rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad gyda Cymwysterau Cymru

Anfonwch eich hysbysiadau at incidents@qualifications.wales.

Gallwch chi hefyd anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r broses rhoi gwybod am ddigwyddiad, neu ynglŷn â digwyddiad penodol, i'r un cyfeiriad e-bost.

Cwynion am gyrff dyfarnu

Os oes gennych chi gŵyn am gorff dyfarnu neu gymhwyster rheoleiddiedig, dylech chi gysylltu â'r corff dyfarnu i ddechrau.

Fodd bynnag, os ydych chi wedi cwblhau proses gwyno'r corff dyfarnu ac yn dal i fod yn anfodlon, dylech dynnu ein sylw ni at y gŵyn.

Mae ein polisi Cwynion am Gyrff Dyfarnu yn egluro:

  • sut i wneud cwyn am gorff dyfarnu
  • pwy all wneud cwyn
  • o dan ba amgylchiadau y byddwn ni’n ymdrin â chwyn neu beidio
  • sut fyddwn ni'n ymdrin â chwyn
  • y camau nesaf y gallwch chi eu cymryd os nad ydych chi’n hapus â sut rydyn ni’n ymdrin â'ch cwyn

Cosbau a Gorfodi

Byddwn yn defnyddio cosbau a chamau gorfodi lle y bo angen er mwyn diogelu buddiannau dysgwyr, ond fel arfer byddwn yn ceisio canfod ffyrdd eraill o ddatrys problemau cyn cymryd y camau hyn. Gweler ein hadran Monitro Cyrff Dyfarnu am fwy o fanylion.