Cyflwyniad

Ein nod yw sicrhau bod ein gweithgareddau monitro yn dryloyw, yn atebol, yn gymesur ac yn gyson, ac wedi'u targedu at gyrff dyfarnu sy'n peri'r risg uchaf i'r system gymwysterau yng Nghymru.  Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau monitro i fonitro cyrff dyfarnu yn erbyn yr Amodau Cydnabod Safonol, gan gynnwys:  

  • cyfarfodydd diweddaru rheoleiddio 
  • datganiad cydymffurfiaeth 
  • gweithgareddau monitro  
  • gweithgareddau monitro dilynol y datganiad cydymffurfiaeth  
  • archwiliadau rheoleiddiol.

Datganiad cydymffurfiaeth 

Mae’r datganiad cydymffurfiaeth yn arf monitro allweddol sy’n cefnogi ein dull o reoleiddio sy’n seiliedig ar wybodaeth ac sy’n seiliedig ar risg.  Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth a’r dystiolaeth a gasglwyd o ddatganiadau cydymffurfiaeth, ynghyd â gwybodaeth a thystiolaeth arall, i fonitro cydymffurfiaeth cyrff dyfarnu â’n Hamodau Cydnabod Safonol 

Mae'n ofynnol i bob corff dyfarnu a reoleiddir gennym gwblhau datganiad cydymffurfiaeth bob blwyddyn.  Gofynnwn i gyrff dyfarnu ddatgan a ydynt yn cydymffurfio â'n Hamodau Cydnabod Safonol ai peidio ac a ydynt yn debygol o gydymffurfio am y 12 mis nesaf. 

Os bydd corff dyfarnu yn datgan nad ydynt yn cydymffurfio a/neu'n debygol o beidio â chydymffurfio yn ystod y 12 mis nesaf, yna gofynnwn iddynt gyflwyno cynllun gweithredu yn amlinellu'r camau y maent yn eu cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth.  Rydyn ni hefyd yn targedu trywyddau ymholi ac yn gofyn i gyrff dyfarnu ddarparu tystiolaeth i ni o gydymffurfio â rhai Amodau Cydnabod Safonol.  

Diffyg cydymffurfiaeth

Mae’r datganiad cydymffurfiaeth yn seiliedig ar hunanwerthusiad y corff dyfarnu o’i statws cydymffurfio yn erbyn yr holl Amodau Cydnabod Safonol.  Disgwyliwn i gyrff dyfarnu fod â phroses effeithiol ar waith i fonitro eu cydymffurfiaeth yn barhaus. 

Gall cyrff dyfarnu sydd â phrosesau hunanwerthuso effeithiol ar waith nodi unrhyw achos o ddiffyg cydymffurfiaeth ar hyn o bryd neu achos sy’n debygol o godi yn y dyfodol.  Disgwyliwn i bob corff dyfarnu sy'n datgan achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth cyfredol a / neu achosion sy’n debygol o godi yn y dyfodol amlinellu'r camau y maent yn eu cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth. 

Yn dibynnu ar natur y diffyg cydymffurfiaeth, efallai na fydd hyn yn achos pryder sylweddol os oes ganddynt gynllun clir ar waith i fynd i'r afael â'r mater a dychwelyd i statws cydymffurfiaeth lawn.  Rydyn ni’n monitro cynnydd cyrff dyfarnu yn erbyn y camau gweithredu yn eu cynllun gweithredu.  

Datganiad cydymffurfiaeth 2022

Crynodeb thematig lefel uchel o ganfyddiadau i gefnogi cydymffurfiaeth sefydliadau dyfarnu ag Amodau C1 ac C2.

Datganiad cydymffurfiaeth 2023

Amlinellir llythyrau at Swyddogion Cyfrifol ynglyn â Datganiad Cydymffurfiaeth 2023 isod. 

Datganiad cydymffurfiaeth 2024

Amlinellir llythyrau at Swyddogion Cyfrifol ynglyn â Datganiad Cydymffurfiaeth 2024 isod. 

Cosbau a gorfodi

Byddwn yn defnyddio cosbau a chamau gorfodi lle y bo angen er mwyn diogelu buddiannau dysgwyr, ond fel arfer byddwn yn ceisio canfod ffyrdd eraill o ddatrys problemau cyn cymryd y camau hyn.  

Mae ein canllawiau Cymryd Camau Pan Aiff Pethau o Chwith yn nodi ein hymagwedd at orfodi ac yn egluro:  

  • y camau y gallwn eu cymryd er mwyn atal y broblem rhag digwydd eto ac er mwyn unioni'r sefyllfa 
  • ffactorau y gwnawn eu hystyried wrth benderfynu pa gamau i'w cymryd.

Mae ein Polisi Apeliadau Rheoleiddiol yn egluro sut y gall unrhyw un yr effeithiwyd arno gan benderfyniadau rheoleiddio penodol a wnaed gan Cymwysterau Cymru apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.   

Os byddwn yn rhoi Hysbysiad Cosb Ariannol neu Hysbysiad Adennill Costau i gorff dyfarnu cydnabyddedig, gall y corff dyfarnu hwnnw apelio i dribiwnlys y Siambr Reoleiddio Gyffredinol yn erbyn y penderfyniad hwnnw.   

Camau rheoleiddiol

Amlinellir ein camau rheoleiddiol diweddar isod:

Camau gweithredu sydd wedi dod i ben: