NEWYDDION

Cyhoeddwyd:

16.09.25

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CANOLFANNAU

Ymgynghoriad pellach wedi ei gynllunio ar TGAU gwyddoniaeth

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi y bydd ymgynghoriad pellach ar gymwysterau TGAU gwyddoniaeth yn cael ei gynnal yn 2028, gyda TGAU cyfredol mewn bioleg, cemeg a ffiseg yn parhau i fod ar gael wrth i gymwysterau TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) a TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) newydd gael eu cyflwyno mewn ysgolion.

Ers cyhoeddi ein penderfyniad i symleiddio'r cynnig TGAU gwyddoniaeth, rydyn ni wedi parhau i wrando ar ysgolion, colegau, a sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb ynglŷn â chynnwys a gofynion y cymwysterau newydd - yn ogystal â dileu cymwysterau gwyddoniaeth ar wahân (TGAU mewn bioleg, cemeg a ffiseg).  

Mae amrywiaeth barn yn parhau ymhlith rhanddeiliaid ynglŷn â’r math a’r nifer o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth ddylai fod ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed a sut y gellir rhoi'r sylfaen orau mewn astudiaeth wyddonol i ddysgwyr a fydd yn eu paratoi ar gyfer bywyd, dysgu pellach a gwaith.

Mae angen ymgynghori pellach

Ar ôl ystyried yn ofalus, mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu mai'r ffordd orau o weithredu ar hyn o bryd yw cynnal ymgynghoriad ychwanegol ar yr ystod o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth ddylai fod ar gael yng Nghymru yn y dyfodol.

Bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n cael ei gynnal yn hydref 2028. Mae hyn yn caniatáu amser i'r cymwysterau TGAU newydd sef TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) a  TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) ymsefydlu mewn ysgolion a cholegau a chael eu dyfarnu am y tro cyntaf (yn haf 2028).  

Yn dilyn yr ymgynghoriad, byddwn yn cadarnhau'r ystod o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth ar gyfer y dyfodol yng ngwanwyn 2029. Bydd unrhyw newidiadau i'r ystod o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn yn dod i rym i’w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2031.

Parhau â’r cymwysterau TGAU gwyddoniaeth presennol sydd ar wahân

Fel mesur interim, bydd cymwysterau TGAU cyfredol CBAC mewn bioleg, cemeg a ffisegyn parhau i fod ar gael hyd nes y bydd canlyniad ymgynghoriad 2028.

Bydd CBAC yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod yr wythnosau nesaf i ddeall yr awydd am ddiweddariadau i'r TGAU gwyddoniaeth ar wahân sydd ar gael ar hyn o bryd. Bydd unrhyw ddiwygiadau i'r cymwysterau TGAU yn cael eu hystyried yn ofalus yng nghyd-destun hydrinedd ar gyfer canolfannau a dysgwyr.

Rydyn ni’n cyhoeddi'r penderfyniad hwn nawr gan y bydd y cymwysterau TGAU gwyddoniaeth newydd ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2026 ac mae hyn yn rhoi blwyddyn lawn i ganolfannau baratoi eu cynnig gwyddoniaeth newydd ar gyfer eu dysgwyr.

Rydyn ni’n deall bod rhai canolfannau sydd wedi cynnig TGAU gwyddoniaeth ar wahân yn y gorffennol eisoes wedi dechrau trosglwyddo i'r dyfarniad dwyradd newydd fel y cymhwyster gwyddoniaeth sylfaenol. Rydyn ni am fanteisio ar y cyfle i bwysleisio y dylai canolfannau barhau i gynnig cwrs gwyddoniaeth sy'n gweithio orau iddyn nhw a'u dysgwyr.

Gallwch ddarllen datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yma.

Gweithredu cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd

Mae'r cymhwyster TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) newydd wedi'i gynllunio i gefnogi dilyniant hwylus i gymwysterau TAG UG a Safon Uwch mewn bioleg, cemeg a ffiseg. Mae TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) wedi'i gynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr a fydd yn elwa o astudio TGAU gwyddoniaeth gyda llai o gynnwys na dyfarniad dwyradd. Nid yw'r cymhwyster gradd unigol wedi'i gynllunio i gefnogi dilyniant i gymwysterau TAG UG a Safon Uwch yn y gwyddorau.

Dywedodd Jo Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi a Diwygio Cymwysterau: "Yn dilyn ein penderfyniad i gyflwyno'r ddau gymhwyster gwyddoniaeth newydd ar y cyd ym mis Medi 2026, mae’r gwaith o ddatblygu'r manylebau gwyddoniaeth newydd wedi mynd yn ei flaen yn dda. Rydyn ni bellach wedi cymeradwyo'r cymwysterau hyn a bydd CBAC yn cyhoeddi manylebau terfynol ddiwedd mis Medi 2025.

"Mae'r cymwysterau newydd hyn wedi'u dylunio'n benodol i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, ac mae'r cynnwys wedi'i ddatblygu i ennyn diddordeb dysgwyr ac i roi cyfleoedd i bob dysgwr ennill sylfaen gadarn mewn astudiaethau gwyddonol."

Cymorth i ganolfannau ac athrawon

Dros y flwyddyn i ddod, bydd CBAC yn cyflwyno pecyn cynhwysfawr o ddysgu proffesiynol ac adnoddau i gefnogi athrawon i baratoi i gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn o fis Medi 2026 ymlaen. Bydd y rhain yn cynnwys:

  • canllawiau i fanylebau
  • sesiynau briffio byw a holi ac ateb
  • digwyddiadau wyneb yn wyneb 'paratoi i addysgu'
  • canllawiau i arholiadau ac asesiadau di-arholiad
  • adnoddau digidol y bydd modd eu haddasu

Gallwch ddarganfod mwy am y cyfleoedd hyn ar wefan CBAC yma

Cwestiynau cyffredin

1. Pa gymwysterau TGAU gwyddoniaeth y bydd canolfannau yn gallu eu cynnig o fis Medi 2026 ymlaen?

O fis Medi 2026 ymlaen, bydd canolfannau’n gallu dewis o blith y cymwysterau TGAU gwyddoniaeth cymeradwy canlynol:

Byddwn yn ymgynghori eto ar yr ystod o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth ar gyfer y dyfodol yn hydref 2028. Byddwn yn cadarnhau'r ystod o TGAU gwyddoniaeth ar gyfer y dyfodol yng ngwanwyn 2029. Bydd unrhyw newidiadau i'r ystod o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn yn dod i rym i’w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2031.

2. A fydd unrhyw ddiwygiadau i TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) a TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) yn awr y bydd y TGAU gwyddoniaeth ar wahân yn parhau i fod ar gael fel mesur dros dro?

Na, mae TGAU Gwyddorau (Dwyradd) a TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol) wedi'u cymeradwyo. Bydd CBAC yn cyhoeddi manylebau terfynol ar gyfer y cymwysterau hyn ddiwedd mis Medi 2025. Nid yw argaeledd TGAU gwyddoniaeth ar wahân, fel mesur dros dro, yn golygu bod angen unrhyw newidiadau i'r cymwysterau hyn. Byddant yn parhau i fod ar gael ar gyfer addysgu cyntaf o fis Medi 2026.

3. Pam mae'r penderfyniad hwn i ymgynghori eto ar yr ystod o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth, ac ymestyn argaeledd TGAU gwyddoniaeth ar wahân fel mesur interim, wedi'i wneud nawr?

Rydyn ni’n gwybod bod barn wahanol ymhlith rhanddeiliaid ar argaeledd TGAU gwyddoniaeth ar wahân mewn bioleg, cemeg a ffiseg.


Ar ôl ystyried yn ofalus, rydyn ni wedi penderfynu mai'r ffordd orau o weithredu ar hyn o bryd yw cynnal ymgynghoriad ychwanegol ar yr ystod o TGAU gwyddoniaeth ddylai fod ar gael yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal yn hydref 2028 unwaith y bydd y cymhwyster TGAU gwyddoniaeth newydd wedi cael cyfle i ennill ei blwyf. Bydd unrhyw newidiadau i'r ystod o gymwysterau TGAU gwyddoniaeth o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn yn dod i rym i’w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2031.


Rydyn ni’n cyhoeddi'r penderfyniad hwn nawr gan y bydd y cymwysterau TGAU gwyddoniaeth newydd yn cael eu haddysgu gyntaf ym mis Medi 2026 ac mae hyn yn rhoi blwyddyn lawn i ganolfannau baratoi eu cynnig gwyddoniaeth newydd i'w dysgwyr.

4. Beth fydd effaith y penderfyniad hwn ar ysgolion?

Yr ysgolion fydd yn penderfynu pa lwybr yw’r un gorau i'w dysgwyr. Yn hynny o beth, gall ysgolion barhau i ddewis pa gymwysterau TGAU gwyddoniaeth yr hoffen nhw eu cynnig i'w dysgwyr. Maen nhw wedi arfer gwneud penderfyniadau o'r fath i ddiwallu anghenion eu dysgwyr, eu cyd-destun lleol a'u cynlluniau cwricwlwm eu hunain.


Rydyn ni’n gwybod y gallai rhai ysgolion fod wedi dechrau cynllunio eu cynnig gwyddoniaeth ar gyfer mis Medi 2026 ymlaen yn barod. Rydyn ni’n cyhoeddi'r penderfyniad hwn nawr gan y bydd y cymwysterau TGAU gwyddoniaeth newydd yn cael eu haddysgu gyntaf ym mis Medi 2026 ac mae hyn yn rhoi blwyddyn lawn i ganolfannau baratoi eu cynnig gwyddoniaeth newydd i'w dysgwyr.

5. Pa gymwysterau TGAU gwyddoniaeth fydd yn darparu'r dilyniant gorau i UG a Safon Uwch mewn bioleg, cemeg a ffiseg?

Mae'r TGAU newydd yn Y Gwyddorau (Dwyradd) a'r cymwysterau TGAU gwyddoniaeth ar wahân presennol mewn bioleg, cemeg a ffiseg wedi'u dylunio i gefnogi dilyniant i UG a Safon Uwch mewn bioleg, cemeg a ffiseg. Bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i gymwysterau gwyddoniaeth UG a Safon Uwch ar ôl dilyn y naill neu'r llall o'r llwybrau gwyddoniaeth hyn ar gyfer TGAU.

6. A fydd CBAC yn diweddaru'r TGAU gwyddoniaeth ar wahân presennol i gyd-fynd â'r cwricwlwm?

Bydd CBAC yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod yr wythnosau nesaf i ddeall yr awydd am ddiweddariadau i'r TGAU gwyddoniaeth ar wahân sydd ar gael ar hyn o bryd. Bydd unrhyw ddiwygiadau i'r cymwysterau TGAU yn cael eu hystyried yn ofalus yng nghyd-destun hydrinedd ar gyfer canolfannau a dysgwyr.

7. Beth yw disgwyliadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â pha gymwysterau TGAU gwyddoniaeth ddylai ysgol eu cynnig?

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei chanllawiau statudol ar ddysgu 14 i 16 oed. Fel y dywed y canllawiau ar hyn o bryd, o dan y Cwricwlwm i Gymru ym Mlynyddoedd 10 ac 11, dylai ysgolion sicrhau bod pob dysgwr yn dilyn cwrs heriol, ymestynnol ac uchelgeisiol sy'n arwain at gymhwyster yn y gwyddorau. Yn unol â'r arfer presennol mewn ysgolion, i'r rhan fwyaf o ddysgwyr bydd hyn yn golygu naill ai TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) neu TGAU gwyddoniaeth ar wahân mewn bioleg, cemeg a ffiseg.

8. Beth yw barn darparwyr addysg uwch ar argaeledd TGAU gwyddoniaeth ar wahân?

Mae darparwyr addysg uwch, gan gynnwys prifysgolion gorau'r DU fel y rhai yng Ngrŵp Russell, wedi dweud wrthym yn gyson eu bod yn derbyn dysgwyr gydag ystod o wahanol gymwysterau TGAU gwyddoniaeth. Maen nhw wedi parhau i'n sicrhau y byddai dysgwyr sydd â TGAU Y Gwyddorau (Dwyradd) yn cael eu derbyn ar gyrsiau sydd yn gofyn am TGAU gwyddoniaeth.


Amserlen gyflwyno ar gyfer cymwysterau TGAU gwyddoniaeth