BLOG

Cyhoeddwyd:

08.11.21

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU

Creu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr astudio gwyddoniaeth yng Nghymru

Bob blwyddyn, mae miloedd o ddysgwyr 14-16 oed ledled Cymru yn astudio am gymwysterau mewn gwyddoniaeth ac yn mynd yn eu blaenau i gael gyrfaoedd fel meddygon, deintyddion, fferyllwyr ac ymchwilwyr gwyddoniaeth.

Nod y Cwricwlwm i Gymru yw rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr lwyddo trwy addysg eang a chytbwys.

Y rhai sydd bellach yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd fydd y dysgwyr cyntaf i brofi'r cwricwlwm newydd. Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi'r pynciau TGAU a fydd ar gael iddynt pan fyddant yn troi'n 14 oed.

Cadarnhau'r pynciau TGAU yw'r man cychwyn ar gyfer diwygio. Eleni, byddwn yn gweithio gyda dysgwyr, athrawon, prifysgolion, cyflogwyr ac eraill i gytuno ar gynnwys ac asesiad pob cymhwyster TGAU newydd. Byddwn hefyd yn cytuno pa gymwysterau eraill ddylai eistedd ochr yn ochr â'r TGAU newydd i gynnig rhywbeth i bawb.

Byddwn yn creu TGAU Gwyddoniaeth Cyfunol newydd i ddisodli'r 6 TGAU gwyddoniaeth gwahanol sydd ar gael ar hyn o bryd. Er i ni fynegi yn ein hadroddiad diweddar y bydd y TGAU Gwyddoniaeth Cyfunol newydd oddeutu maint dau TGAU, bydd y maint terfynol yn cael ei bennu yn ôl pa gynnwys ac asesiad sydd ei angen i sicrhau bod gan ddysgwyr yr un cyfleoedd, neu well cyfleoedd dilyniant, i addysg bellach ac addysg uwch fel sydd ganddyn nhw nawr.

Felly pam rydyn ni wedi penderfynu creu TGAU Gwyddoniaeth Cyfunol?

Sylfaen gref

Ni fu erioed yn bwysicach i bob dysgwr ennill sylfaen gadarn mewn gwyddoniaeth. Mae'r byd o'n cwmpas yn newid yn gyflymach nag erioed o'r blaen. Mae technoleg newydd yn dod â chyfleoedd a mewnwelediadau newydd, ond hefyd mwy o gymhlethdod a heriau newydd. Mae dyfodol ein hamgylchedd, ein cymdeithas a'n heconomi yn dibynnu ar ddysgwyr sy'n gallu meddwl yn wyddonol a chymhwyso eu gwybodaeth ar draws llawer o wahanol feysydd.

Bydd y TGAU Gwyddoniaeth Cyfunol newydd yn rhoi gafael gadarn i bob dysgwr ar wybodaeth a sgiliau gwyddonol ac yn annog mwy ohonynt i fynd ymlaen i astudio a gweithio ym maes gwyddoniaeth. Bydd TGAU gwyddoniaeth gyffredin yn cynyddu cyfleoedd i ddysgwyr ac yn cadw eu hopsiynau ar agor am gyfnod hirach. A bydd yn gwneud gwyddoniaeth yn fwy hygyrch, yn fwy perthnasol, ac yn fwy cyffrous i bob dysgwr.

Bydd yn rhoi cyfle i bob dysgwr astudio gwahanol ddisgyblaethau Bioleg, Cemeg a Ffiseg, tra bydd hefyd yn archwilio'r cysylltiadau rhyngddynt. Byddant hefyd yn cael archwilio'r themâu trawsbynciol sy'n adlewyrchu heriau mawr ein hoes, megis newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd a chynnydd deallusrwydd artiffisial. Bydd y TGAU newydd yn helpu dysgwyr i integreiddio a chymhwyso eu dysgu, gan ei wneud yn berthnasol ac yn ddiddorol.

Mwy o ddewis a chadw opsiynau ar agor

Mae cyrff dysgedig, gan gynnwys y Gymdeithas Fioleg Frenhinol, y Gymdeithas Cemeg Frenhinol, a'r Sefydliad Ffiseg, i gyd yn cefnogi un llwybr ar gyfer gwyddoniaeth ar lefel TGAU[1]. Maen nhw'n dadlau bod y gymysgedd gyfredol o TGAU yn rhoi rhith o ddewis, yn creu cyfleoedd anghyfartal ac yn atal mwy o ddysgwyr rhag mynd ymlaen i astudio gwyddoniaeth ar lefel uwch. Mae cynnig gwahanol gymwysterau TGAU gwyddoniaeth yn golygu bod yn rhaid i ddysgwyr benderfynu pa lwybr i'w ddilyn yn 13 oed. Weithiau mae gan ddysgwr ddewis, weithiau mae'r dewis yn cael ei wneud ar eu cyfer. Gall y penderfyniadau cynnar hyn roi'r syniad ffug i rai dysgwyr nad yw gwyddoniaeth ar eu cyfer nhw. Gall hefyd rwystro symudedd cymdeithasol: mae ymchwil yn Lloegr yn dangos bod dysgwyr o gefndir mwy difreintiedig yn llai tebygol o astudio TGAU gwyddoniaeth ar wahân[2].

Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r cyrff dysgedig hyn ac eraill yn y maes wrth inni ddatblygu cynnwys ac asesiad ar gyfer y TGAU newydd.

Dilyniant i wyddoniaeth Safon Uwch

Bydd y TGAU Gwyddoniaeth Cyfunol newydd yn cefnogi dysgwyr sydd eisiau astudio gwyddoniaeth at Safon Uwch a thu hwnt. Rydyn ni'n gwybod hyn oherwydd dyna beth sy'n digwydd ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae tua dwy ran o dair o'r holl ddysgwyr yng Nghymru yn ennill TGAU Gwyddoniaeth Dwyradd gyfun. Mae llawer ohonynt yn symud ymlaen i Safon Uwch a chymwysterau lefel 3 eraill mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg ac yn mynd ymlaen i fod yn feddygon, gwyddonwyr, peirianwyr ac amgylcheddwyr yn y dyfodol.

Mynediad i'r brifysgol

Camsyniad cyffredin yw bod yn rhaid i ddysgwyr sy'n gwneud cais am gyrsiau prifysgol mwy cystadleuol, fel meddygaeth, astudio TGAU gwyddoniaeth ar wahân. Nid felly y mae. Mae rhai prifysgolion yn gofyn am TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, ond nid ydyn nhw'n ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr astudio cymhwyster TGAU gwyddoniaeth penodol, ac maen nhw i gyd yn derbyn myfyrwyr sydd wedi ennill TGAU Gwyddoniaeth Dwyradd.

Yr hyn y mae prifysgolion yn ei werthfawrogi yw dysgwyr sydd ag ystod eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau. Dyna pam, ochr yn ochr â'r TGAU Gwyddoniaeth Cyfunol newydd, rydym hefyd yn creu TGAU newydd mewn Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gweithgynhyrchu, Dylunio a Thechnoleg, yr Amgylchedd Adeiledig, a Thechnoleg Ddigidol.

Gweithio gyda'n gilydd

Rydym bellach yn canolbwyntio ar gytuno ar gynnwys ac asesiad y cymwysterau TGAU newydd hyn. Mae yna lawer o gwestiynau i'w hateb. Beth yw'r cydbwysedd cywir rhwng gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau? Faint o waith ymarferol ddylai fod yn gysylltiedig? Beth fydd yn ymestyn y dysgwyr mwyaf galluog wrth gadw'r cymhwyster cyffredinol yn hygyrch? Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio gyda dysgwyr, athrawon, darlithwyr, cyflogwyr a rhieni i helpu i ateb y cwestiynau hyn.

Rydym am gael cymaint o bobl ag sy'n bosibl i gymryd rhan yn y drafodaeth hon. I gofrestru ar gyfer digwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â ni ar  diwygio@cymwysteraucymru.org .

Gan Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau 

[1]   score_sciences_at_ks4_final.pdf (rsb.org.uk)  

[2] https://discovery.ucl.ac.uk/id/eprint/10080169/1/aspires_2_triple_science_policy_briefing.pdf