Yn yr adran hon...
Cyflwyniad
Yn yr ad-drefnu mwyaf ers cenhedlaeth, mae marchnad gymhleth gyda channoedd o gymwysterau wedi'i symleiddio - yn cael ei disodli gan gyfres newydd o gymwysterau a fydd yn helpu i ail-lunio addysg a hyfforddiant ar gyfer y diwydiant yng Nghymru.
Bydd y cymwysterau newydd yn cynnig gwell llwybrau dilyniant i ddysgwyr i gyflogaeth. Bydd yr asesu yn syml ac yn gadarn, ac yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i fwrw ymlaen â'u gyrfaoedd.
Mae'r cam hwn yn dilyn adolygiad Cymwysterau Cymru o’r sector o'r enw Adeiladu'r Dyfodol, a oedd yn edrych ar yr ystod gyfredol o gymwysterau gan gynnwys darparwyr dysgu a chyflogwyr, mawr a bach.
Yn hydref 2022, fe wnaethom ni gynnal ‘adolygiad cyflym’ o gymwysterau lefel 2 newydd yn y sector hwn. Mae'r ddogfen hon yn crynhoi canfyddiadau'r adolygiad, gan gynnwys yr arferion da sydd wedi datblygu a'r heriau y mae canolfannau wedi'u profi wrth eu gweithredu. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau rydyn ni’n eu cymryd i fynd i’r afael â’r heriau.
Cyrff dyfarnu
Mae contractau wedi’u dyfarnu i gonsortiwm o City & Guilds ac EAL, cyrff dyfarnu profiadol yn y sector, sydd wedi gweithio gyda Cymwysterau Cymru i gynllunio a chyflwyno cymwysterau Sylfaen, Craidd a Dilyniant ôl-16 yn ogystal â chymwysterau i’w defnyddio ar fframweithiau prentisiaeth. Mae eu gwefan, Sgiliau i Gymru, yn cynnwys yr holl wybodaeth ddiweddaraf am y cymwysterau hyn.
Mae'r cymwysterau newydd yn diwallu anghenion cyfnewidiol y diwydiant ar gyfer yr oes fodern. Byddan nhw’n galluogi gweithwyr i ddangos y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau galwedigaethol sydd eu hangen ar ddiwydiant, yn ogystal ag archwilio amrywiaeth yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru a’r ffordd y mae’r sector yn parhau i newid a datblygu.
Meini Prawf Cymeradwyo
Mae ein gwaith diwygio ym maes adeiladu a’r amgylchedd adeiledig wedi arwain at gyflwyno 22 o gymwysterau newydd. Mae'r gyfres hon yn cynnwys cymwysterau ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion, lleoliadau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Yn dilyn cyflwyno’r cymwysterau newydd YMA, rydym hefyd bellach wedi cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymhwyster ychwanegol, sef Dilyniant Estynedig mewn Gosod Cyfarpar Electrodechnegol (Lefel 3).
Buom yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddylunio meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau hyn, a oedd yn gosod cynnwys y pwnc a gofynion asesu ar eu cyfer. Dyma’r meini prawf a ddatblygwyd gennym:
Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2)
Cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2)
Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2)
Dilyniant mewn Adeiladu (Lefel 2)
Cymwysterau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3)
Cymwysterau Adeiladu (Lefel 3)
Dilyniant Estynedig mewn Gosod Cyfarpar Electrodechnegol (Lefel 3)
Cymwysterau
Mae'r cymwysterau newydd yn cael eu datblygu i ddiwallu anghenion cyfnewidiol y diwydiant ar gyfer yr oes fodern. Byddan nhw’n galluogi gweithwyr i ddangos y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau galwedigaethol sydd eu hangen ar ddiwydiant, yn ogystal ag archwilio amrywiaeth yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru a’r ffordd y mae’r sector yn parhau i newid a datblygu.
Mae'r cymwysterau ôl-16 yn cynnwys cymwysterau Sylfaen a Chraidd cyffredinol mewn Adeiladu ac Peirianneg Gwasanaethau, cymwysterau Dilyniant a mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu neu Adeiladu, a chymwysterau crefft-benodol i’w defnyddio ar fframweithiau prentisiaeth. Bydd y cymwysterau Sylfaen, Craidd a Dilyniant ar gael o fis Medi 2021, a bydd y cymwysterau prentisiaeth Lefel 3 yn cael eu cyflwyno ym mis Medi 2022.
Mae cyflogwyr wedi croesawu cyflwyno'r cymwysterau newydd arloesol hyn gan eu bod yn rhoi gwybodaeth ehangach i ddysgwyr o'r diwydiant yn gyffredinol. Mae arbenigwyr yn y sector eisoes wedi cyfrannu at ddatblygu'r cymwysterau newydd a maent yn parhau i gefnogi'r camau datblygu a gweithredu.
Yn ogystal â'r cymwysterau Sylfaen, Craidd, Dilyniant a phrentisiaeth, mae CBAC hefyd wedi datblygu cymwysterau TGAU newydd TGAU Amgylchedd Adeiledig a TAG UG/Safon Uwch Amgylchedd Adeiledig i'w haddysgu gyntaf o fis Medi 2021, a mis Medi 2022, yn y drefn honno.
Cardiau CSCS
Gwybodaeth am gymwysterau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig newydd a chardiau CSCS cysylltiedig.
Cymhwyster | Cardiau perthnasol |
Cymhwyster Craidd City & Guilds mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) gydag un o'r profiadau crefft canlynol:
|
Bydd dysgwyr sy'n ymgymryd ag un o'r profiadau crefft hyn pan fyddant wedi cofrestru ar y cymhwyster hwn fel rhan o fframwaith prentisiaeth yn gallu cyflawni cerdyn Prentis CSCS (yn amodol ar gwblhau prawf Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd (HS&E) CITB yn llwyddiannus, neu brawf cyfwerth cymeradwy). |
City & Guilds Dilyniant mewn Adeiladu (Lefel 2) |
Ar ôl cofrestru ar y cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn gallu cyflawni Cerdyn Lleoliad Diwydiant CSCS (yn amodol ar gwblhau prawf Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd (HS&E) CITB yn llwyddiannus, neu brawf cyfwerth cymeradwy). |
City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gwaith Coed Pensaernïol
City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gwaith Coed ar Safle
City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gosod Fframiau Pren
City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gosod Brics
City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Peintio ac Addurno
City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Plastro Solet
City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Teilsio Waliau a Lloriau
|
Bydd dysgwyr sy'n dilyn unrhyw un o'r cymwysterau hyn tra'u bod wedi cofrestru ar brentisiaeth yn gallu gwneud cais am gerdyn Prentis CSCS.
Bydd dysgwyr sy'n dilyn unrhyw un o'r cymwysterau hyn heb fod wedi cofrestru ar brentisiaeth yn gallu gwneud cais am gerdyn Hyfforddai CSCS (yn amodol ar gwblhau prawf Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd (HS&E) CITB yn llwyddiannus, neu brawf cyfwerth cymeradwy).
Ar ôl cwblhau unrhyw un o'r cymwysterau hyn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn gallu cael cerdyn Crefft Uwch CSCS. |
City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Leinio Sych
City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gweithrediadau Sifil: Gwaith Daear
City & Guilds Adeiladu (Lefel 3) – Gosod Llechi a Theils ar Doeau |
Bydd dysgwyr sy'n dilyn unrhyw un o'r cymwysterau hyn tra'u bod wedi cofrestru ar brentisiaeth yn gallu cael cerdyn Prentis CSCS.
Bydd dysgwyr sy’n dilyn unrhyw un o'r cymwysterau hyn heb fod wedi cofrestru ar brentisiaeth yn gallu gwneud cais am gerdyn Hyfforddai CSCS (yn amodol ar gwblhau prawf Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd (HS&E) CITB yn llwyddiannus, neu brawf cyfwerth cymeradwy).
Ar ôl cwblhau unrhyw un o'r cymwysterau hyn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn gallu cael cerdyn Crefftwr Medrus CSCS. |
Holiaduron
Dywedwch wrthym beth yw eich barn am gymwysterau adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu newydd.
Mae Cymwysterau Cymru yn gwahodd dysgwyr, athrawon ac aseswyr i rannu eu barn am gymwysterau adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu newydd yng Nghymru.
Rydym yn cynnal holiaduron byr ar-lein ar gyfer dysgwyr a chanolfannau ar y cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 newydd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu i Gymru, gan gynnwys:
- cymwysterau Lefel 2 - yn cael ei ddysgu o fis Medi 2021
- cymwysterau prentisiaeth Lefel 3 - yn cael ei ddysgu o fis Medi 2022
Dylent gymryd tua phum munud i'w cwblhau ac maent yn hollol ddienw.
Mae eich barn yn bwysig iawn i ni, a bydd yr adborth a roddwch yn helpu i lywio ein gwaith o fonitro'r cymwysterau hyn.
Cwblhewch trwy ein platfform Dweud Eich Dweud.