Adolygiad o Sgiliau Hanfodol Cymru

Nod yr adolygiad oedd casglu tystiolaeth gan ein rhanddeiliaid allweddol a derbyn adborth ar ba mor addas i'r diben yw cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru. Y nod hefyd oedd nodi unrhyw faterion neu awgrymiadau oedd yn codi o'r adborth a'r dystiolaeth, ac ystyried pa newidiadau neu ddiwygiadau y gallai fod eu hangen i sicrhau bod cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn parhau i ddiwallu ein prif nodau.   

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn rhan annatod o raglenni dysgu a phrentisiaethau ôl-16 yng Nghymru ac rydyn ni’n awyddus i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gymwysterau gwerthfawr a gwerth eu cael. Dysgwch fwy am gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.  

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â SgiliauHanfodolCymru@cymwysterau.cymru   

Llinell Amser Adolygiad Sgiliau Hanfodol Cymru

Sgiliau Hanfodol Cymru

 

 

Yr Adroddiad

Cyhoeddwyd adroddiad yr adolygiad manwl ar 18 Medi 2024. Yn ystod yr adolygiad dwy flynedd, cynhaliodd tîm Cymwysterau Cymru waith ymchwil helaeth a siarad â dysgwyr, darparwyr a chyflogwyr – ac roedd y mwyafrif eisiau diwygio. Fe wnaethon nhw roi adborth am ba mor gyfredol a hydrin yw'r cymwysterau a'u hasesiadau. 

Darllenwch yr adroddiad yma.

Adolygiad o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru

Y camau nesaf

Rydyn ni eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â materion penodol o fewn cyfyngiadau'r cymwysterau presennol.  Darllenwch yr adroddiad i weld manylion y camau rydyn ni eisoes wedi'u cymryd. 

Rydyn ni hefyd wedi datblygu cynllun gweithredu tymor hwy sy'n amlinellu'r hyn rydyn ni’n bwriadu ei wneud i fynd i'r afael yn llawnach â'r materion a nodwyd gan yr adolygiad.  Rydyn ni bellach yn bwriadu diwygio tri o bedwar maes pwnc Sgiliau Hanfodol Cymru:    

  • Cymhwyso Rhif 

  • Llythrennedd Digidol 

  • Cyfathrebu 

Bydd y cymwysterau diwygiedig ar gael i ganolfannau o 2028.