Drwy gydol yr adolygiad, byddwn ni’n ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys cyrff dyfarnu, cyflogwyr a darparwyr dysgu (Colegau Addysg Bellach, Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ac Ysgolion Chweched Dosbarth).

Byddwn yn cynnal cyfweliadau manwl gyda rhanddeiliaid i archwilio a yw cymwysterau yn y sector yn diwallu anghenion dysgwyr, darparwyr dysgu a chyflogwyr yng Nghymru.

Ymdrinnir ag amcanion yr adolygiad hefyd drwy ddadansoddi data a gwybodaeth arall sydd ar gael, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach yn y sector.

Bydd dysgwyr yn cael eu gwahodd i rannu eu barn drwy arolwg dysgwyr a fydd yn cael ei anfon at ddarparwyr dysgu a'i hyrwyddo drwy ein gwefan a'n ffrydiau cyfryngau cymdeithasol.

Ar ddiwedd yr adolygiad, byddwn ni’n cyhoeddi adroddiad cryno o'n canfyddiadau.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech fod yn rhan o'r adolygiad, cysylltwch â ni yn: adolygiadausectorcam2@cymwysterau.cymru

 

Adolygiad Sector Cam 2 Gwallt a Harddwch | dweudeichdweud.cymwysterau.cymru