Trosolwg TGCh
Mae hyn wedi bod yn adolygiad sylweddol, a fu’n cynnwys ymchwil helaeth ledled Cymru. Mae’r adolygiad wedi cynnwys:
- ymgysylltu manwl â rhanddeiliaid;
- ymgysylltu â dysgwyr;
- arolwg ar-lein;
- astudiaeth gymharu ryngwladol; ac
- adolygiad technegol o gymwysterau.
Mae’r adroddiad, ‘Digidol i’r Dyfodol’, yn amlinellu ein canfyddiadau a’r camau gweithredu byddwn yn eu cymryd. Dyma rai o’r canfyddiadau allweddol:
- mae llawer o’r cymwysterau yn y sector yn hen ffasiwn, nid ydynt yn cynnwys topigau digidol datblygol, ac nid ydynt yn gyfredol â datblygiadau mewn technoleg;
- mae’r gofynion ar ddysgwyr i gasglu tystiolaeth ysgrifenedig a chipluniau fel tystiolaeth ar gyfer tasgau ymarferol yn cymryd amser ac yn anniddorol;
- yn y cymwysterau a adolygwyd gennym, roedd ychydig o enghreifftiau o dystiolaeth asesu a ddarpariwyd gan gyrff dyfarnu wedi’u hasesu’n anghywir a neu’n anghyson;
- mae’r pwnc yn aml yn cael ei addysgu gan athrawon nad ydynt yn arbenigwyr ac nid ydynt yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau na’r profiad technegol i addysgu’r pwnc yn effeithiol;
- roedd athrawon yn pryderu nad ydynt yn gallu cael gafael ar yr hyfforddiant na’r datblygiad proffesiynol parhaus sydd eu hangen i ddod i wybod am y datblygiadau diweddar mewn technoleg; ac
- mae caledwedd a meddalwedd hen ffasiwn gan ddarparwyr dysgu, sefyllfa sydd wedi’i gwaethygu oherwydd y cyllid cyfyngedig i fuddsoddi yn yr adnoddau hyn, yn her sylweddol wrth addysgu ac asesu cymwysterau technoleg gwybodaeth a digidol.
Mae adroddiad ‘Digidol i’r Dyfodol' yn argymell y dylid gwneud y canlynol:
- datblygu cymwysterau Technoleg Ddigidol TGAU a Safon Uwch newydd;
- sicrhau bod y cymwysterau newydd a ddatblygir i'w defnyddio yn y lefelau T Llwybr Digidol yn Lloegr ar gael i ddysgwyr yng Nghymru;
- adolygu unrhyw gymwysterau sy'n gysylltiedig â TGCh a gyflwynwyd gan gyrff dyfarnu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn berthnasol;
- monitro cymwysterau TGCh galwedigaethol newydd a ddefnyddir mewn fframweithiau prentisiaeth.
Gallwch lawrlwytho copi o’r adroddiad llawn yma.
Ein rhanddeiliaid TGCh
Mae Cymwysterau Cymru bellach wedi cyhoeddi ei adolygiad o gymwysterau a’r system gymwysterau yn y sector Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.
Mae hyn wedi bod yn brosiect sylweddol, a fu’n cynnwys ymchwil helaeth ledled Cymru dros cyfnod o 18 mis. Cymhaliwyd 150 o gyfweliadau, gan gynnwys a bron 60 o gyflogwyr, a gwrandawyd ar safbwyntiau mwy na 1,000 o ddysgwyr neu fe’u darllenwyd.
Dyma farn yr Athro Tom Crick a'r Athro Faron Moller o Brifysgol Abertawe a gynorthwyodd i gynhyrchu'r adroddiad. Ceir sylwadau hefyd gan athrawon Vicki Price ac Ian Meredith, sydd wedi cwblhau'r prosiect Technocamps a gynhelir gan y brifysgol. Mae Technocamps yn darparu hyfforddiant i athrawon wella eu dealltwriaeth o TGCh.
Gallwch lawrlwytho copi o’r adroddiad llawn yma.
Cliciwch ar y fideos isod i glywed barn rhai o'r bobl a gymerodd ran yn yr adolygiad, a'u barn ar yr adroddiad a gwblhawyd.
Technoleg Ddigidol: Datblygu Cymwysterau
Ym mis Rhagfyr 2018, fe wnaethom gyhoeddi Digidol i’r Dyfodol, ein hadolygiad o gymwysterau a’r system gymwysterau yn y sector technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Roedd yr adolygiad yn nodi cyfres o gamau gweithredu tymor byr a thymor hwy gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r materion a nodwyd ganddo. Roedd y rhain yn cynnwys gwahodd cyrff dyfarnu i ddatblygu dau gymhwyster newydd mewn Technoleg Ddigidol, sef cymhwyster TGAU a chymhwyster TAG UG/Safon Uwch, i fod ar gael i’w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2021 a mis Medi 2022.
Mae'r ddau gymhwyster newydd yma wedi cael eu datblygu ers hynny ac maen nhw bellach ar gael i ddysgwyr yng Nghymru. Mae TGAU Technoleg Ddigidol yn gymhwyster eang ac mae’n galluogi dysgwyr i ychwanegu at y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddigidol maen nhw’n ei defnyddio yn eu hysgol ac yn eu bywydau bob dydd. Mae UG/Safon Uwch Technoleg Ddigidol yn cynyddu dealltwriaeth dysgwyr o’r technolegau digidol a ddefnyddir gan unigolion a sefydliadau, ac yn datblygu eu sgiliau ymarferol ymhellach wrth ddatblygu cynhyrchion digidol creadigol ac atebion digidol i broblemau a wynebir gan sefydliadau.
Sut wnaethom ni ddatblygu'r cymwysterau hyn?
Ym mis Mawrth 2019, fe wnaethom ni gynnal cyfres o ddiwrnodau datblygu mewn lleoliadau ledled Cymru a fynychwyd gan athrawon ysgol a darlithwyr addysg bellach a helpodd i lunio cynnwys a threfniadau asesu ar gyfer y ddau gymhwyster. Yn dilyn y digwyddiadau hyn, gwnaethom gyhoeddi dogfennau meini prawf cymeradwyo drafft ochr yn ochr ag arolygon 'Dweud Eich Dweud' a oedd yn gwahodd y cyhoedd ehangach i fwrw golwg dros ein cynigion ac i rannu eu barn arnyn nhw.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gwnaethom ni ddatblygu'r cymwysterau hyn, gweler y dogfennau naratif isod.