Canfyddiadau'r adolygiad
Ashok Ahir, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, yn esbonio canlyniadau adolygiad y sector Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo:
Mae'r wybodaeth a'r dystiolaeth a gasglwyd gennym drwy'r adolygiad sector wedi llywio'r canfyddiadau sy'n cael eu cyflwyno yn yr adroddiad 'Ar Daith’.
Mae hwn ar gael fel adroddiad llawn, adroddiad gweithredol, adroddiad adolygiad rhyngwladol, ac adroddiad ymchwil ansoddol gyda dysgwyr:
Teithio a Thwristiaeth - Y Camau Nesaf
Fe wnaeth ein hadroddiad adolygiad sector ‘Ar Daith’ ddarganfod bod yr ystod bresennol o gymwysterau Teithio a Thwristiaeth ôl-16 a gaiff eu cynnig gan gyrff dyfarnu yng Nghymru ar y cyfan yn bodloni anghenion rhesymol dysgwyr. Roedd yr adolygiad hefyd yn tynnu sylw at feysydd yr oedd angen eu diweddaru, gan gynnwys:
- pa mor gyfredol oedd y cynnwys
- cyfeiriadau at y cyd-destun Cymreig
- mwy o ffocws ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid
Buom yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddylunio meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau hyn, a oedd yn gosod cynnwys y pwnc a gofynion asesu ar eu cyfer. Dyma’r meini prawf a ddatblygwyd gennym:
Meini Prawf Cymeradwyo Teithio a Thwristiaeth
Fel cymwysterau Gwneud-i-Gymru sydd wedi’u cymeradwyo, mae’n hanfodol bod cyrff dyfarnu’n cysylltu â rhanddeiliaid o Gymru ac yn datblygu cyfresi o gymwysterau sy’n parhau i roi dewis i ganolfannau. Er mwyn caniatáu digon o amser ar gyfer hyn, mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu ymestyn y cyfnod sydd ar gael i ddatblygu'r cymwysterau hyn.
Mae hyn yn golygu y bydd y gyfres newydd o gymwysterau Teithio a Thwristiaeth yn barod ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach ym mis Medi 2026 ac ar gyfer eu haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027.
Lletygarwch ac Arlwyo - Y Camau Nesaf
Nododd ein hadroddiad adolygu sector ‘Ar Daith’ rai problemau gyda strwythur ac amrywiaeth y cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo presennol sy'n cael eu cynnig yng Nghymru. Mae angen cyfres newydd a pherthnasol o gymwysterau sy'n mynd i'r afael â’r canlynol:
- strwythur cymhleth a dryslyd y cymwysterau
- cynnwys a ffocws hen ffasiwn
- hepgor cynnwys cyfoes pwysig
- asesiad beichus
- diffyg perthnasedd i'r cyd-destun Cymreig
Fe wnaethon ni ymgynghori ar ddau gynnig yng ngwanwyn 2023 ac yn dilyn adborth fe wnaethon ni edrych ar yr holl opsiynau ar gyfer sicrhau cymwysterau lletygarwch ac arlwyo newydd gyda rhanddeiliaid.
Fel rhan o hyn, buom yn ystyried yr argymhellion a gafodd eu gwneud yn yr adolygiad VQ a'r effaith y bydd yr oedi o ran Lefel T mewn Arlwyo yn Lloegr yn ei chael ar gyrff dyfarnu a chymwysterau.
Ar ôl ymgysylltu'n helaeth, byddwn yn:
- datblygu'r cymwysterau sy'n cael eu cynnig gan ddefnyddio dull marchnad agored, lle gall mwy nag un corff dyfarnu ddylunio a darparu'r cymwysterau
- sefydlu cyfres newydd, symlach o gyfleusterau lletygarwch ac arlwyo Gwneud-i-Gymru ar lefelau 1, 2 a 3 ar gyfer colegau addysg bellach a lleoliadau dysgu seiliedig ar waith
Darllenwch am ein penderfyniadau yn llawn drwy edrych ar yr adroddiadau isod. Mae ein penderfyniadau ar gael fel adroddiad llawn, crynodeb gweithredol yn ogystal ag Asesiad Effaith Integredig wedi'i ddiweddaru.
Asesiad Effaith Integredig wedi'i ddiweddaru
Cliciwch yma i weld y cyflwyniad o'n gweminar gyhoeddus.
Byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi meini prawf cymeradwyo y bydd cyrff dyfarnu yn eu defnyddio i ddylunio'r cymwysterau newydd. Bydd y rhain yn barod i ganolfannau ddechrau paratoi i gyflwyno'r cymwysterau o fis Medi 2026, gyda'r dysgu yn dechrau ym mis Medi 2027.
Dysgwch fwy am ein hymgynghoriad ar gymwysterau lletygarwch ac arlwyo - dweudeichdweud.cymwysterau.cymru