Ymgynghoriad Sgiliau Hanfodol Cymru
Y llynedd, cyhoeddwyd ein bwriad i ddiwygio tri maes pwnc yn dilyn adolygiad manwl o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru lle gwnaethom gynnal ymchwil helaeth a siarad â dysgwyr, darparwyr a chyflogwyr.
Ers hynny, rydym wedi parhau i ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid ac rydym bellach wedi cyhoeddi ein hadroddiad Siapio Dyfodol Sgiliau Hanfodol Cymru: Ymgynghoriad ar y Gofynion Dylunio ar gyfer Cymwysterau newydd Sgiliau Hanfodol Cymru
Ar 13 Tachwedd 2025 fe wnaethom hefyd lansio arolwg ar-lein i gael adborth pwysig ar ein cynigion. Bydd hyn yn cau ar 5 Chwefror 2026.
Rydym yn ymgynghori ar gynigion sy'n ymwneud â’r canlynol:
- pwrpas a nodau'r cymwysterau
- cynnwys (gwybodaeth a sgiliau)
- asesu
- teitlau’r cymwysterau
Rydym yn bwriadu dileu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ar lefel 3 ym mhob un o'r tri phwnc ac ar lefel Mynediad 1 a 2 mewn llythrennedd digidol. Ar gyfer pob pwnc, rydym yn gofyn cwestiwn am effeithiau dileu'r cymwysterau hyn.
Llenwi’r arolwg
Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn rhan annatod o raglenni dysgu a phrentisiaethau ôl-16 yng Nghymru ac rydym yn awyddus i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gymwysterau gwerthfawr a gwerth eu cael. Dysgu mwy am gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â SgiliauHanfodolCymru@Cymwysterau.cymru
Amserlen diwygio Sgiliau Hanfodol Cymru

Ein cyhoeddiadau Sgiliau Hanfodol Cymru diweddaraf
Ar 13 Tachwedd 2025, lansiwyd ein hymgynghoriad Sgiliau Hanfodol Cymru trwy gyhoeddi cynigion i ddiwygio'r tri maes pwnc. Roedd hyn yn cynnwys asesiadau effaith ar gyfer pob opsiwn. Mae'r ddogfen ymgynghori hefyd yn manylu ar y rhanddeiliaid yr ydym wedi ymgysylltu â nhw ers cyhoeddi canfyddiadau ein hadolygiad ym Medi 2024.
Cyhoeddwyd adroddiad yr adolygiad manwl ar 18 Medi 2024. Yn ystod yr adolygiad dwy flynedd, cynhaliodd tîm Cymwysterau Cymru waith ymchwil helaeth a siarad â dysgwyr, darparwyr a chyflogwyr – ac roedd y mwyafrif eisiau diwygio. Fe wnaethon nhw roi adborth am ba mor gyfredol a hydrin yw'r cymwysterau a'u hasesiadau.
Y camau nesaf
Byddwn yn dadansoddi'r ymatebion ac yn cyhoeddi adroddiad sy'n crynhoi'r canfyddiadau ochr yn ochr â'n penderfyniadau yn ystod tymor yr haf 2026. Ochr yn ochr â'r adroddiadau hyn, byddwn yn cyhoeddi'r fersiynau terfynol o'r meini prawf cymeradwyo ar gyfer y gyfres ddiwygiedig o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru y bydd cyrff dyfarnu yn eu defnyddio i ddatblygu'r cymwysterau.
Ein nod yw cymeradwyo manylebau cymwysterau’r cyrff dyfarnu a deunyddiau asesu enghreifftiol erbyn mis Medi 2027. Bydd y cymwysterau newydd yn cael eu dysgu o fis Medi 2028.

