Rydyn ni am i ddysgwyr yng Nghymru ddilyn cymwysterau sy'n eu hysbrydoli ac yn eu paratoi ar gyfer bywyd, dysgu pellach a gwaith – gan gynnwys gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol.
Gall asesiadau digidol fod yn hynod fuddiol i ddysgwyr a'r system gymwysterau ehangach. Gallant wella dilysrwydd (asesu'r pethau cywir yn y ffyrdd cywir), cynyddu diddordeb dysgwyr a gwneud asesiadau yn fwy cynhwysol.
Asesu digidol yn y Cymwysterau Cenedlaethol
Mae cymhwysedd digidol wedi'i wreiddio ym mhob rhan o’r Cwricwlwm i Gymru, gan lywio pam, beth a sut mae pobl ifanc yn dysgu.
Mae'r Cymwysterau Cenedlaethol, sy'n cael eu cyflwyno o fis Medi 2025, Medi 2026 a Medi 2027, yn adlewyrchu amlygrwydd technolegau digidol o fewn y cwricwlwm. Byddant yn caniatáu i ysgolion a dysgwyr wneud y defnydd gorau o'u hoffer digidol.
Bydd technolegau digidol yn cael eu defnyddio fwyfwy wrth asesu'r cymwysterau newydd hyn.
Mewn llawer o bynciau, bydd technolegau digidol hefyd yn cael eu defnyddio i alluogi profiadau dysgwyr, fel cael mynediad at ddeunydd adnoddau hanesyddol neu fynd ar deithiau rhithwir o amgylcheddau naturiol neu fannau gwaith.
Canllawiau parodrwydd digidol
Rydyn ni wedi datblygu canllawiau gyda CBAC a Llywodraeth Cymru i helpu canolfannau gyda'u gwaith paratoi ar gyfer asesiadau digidol yn y Cymwysterau Cenedlaethol.
Gallwch lawrlwytho'r dogfennau canllaw isod.
Canllawiau digidol ar lefel canolfan Canllawiau arholiadau digidol yn unig
Asesiadau digidol yn y TGAU newydd
Rydyn ni’n cyflwyno asesiadau digidol mewn pynciau TGAU a fydd yn galluogi amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
-
-
- Gwella dilysrwydd: Mewn rhai pynciau, fel addysg gorfforol ac iechyd, neu fwyd a maeth, gall arholiadau digidol-yn-unig ganiatáu i ddysgwyr lusgo, gollwng a dilyniannu delweddau a thestun i'w categoreiddio a chreu diagramau prosesau. Gall cynnwys fideos o arddangosiadau ymarferol ganiatáu i ddysgwyr werthuso'r modd y mae eraill yn defnyddio ac yn perfformio eu sgiliau yn y pynciau hyn.
- Defnyddio ysgogiadau sain a gweledol: Mewn pynciau fel drama a cherddoriaeth, bydd dysgwyr yn gallu adolygu ac ymateb i amrywiaeth o ysgogiadau sain a fideo, gyda swyddogaethau fel seibio, sgwrio ac ailchwarae'r deunydd sydd ar gael i helpu i hyrwyddo eu hymgysylltiad â'r arholiad. Bydd y deunyddiau hefyd yn gyffredin i bob dysgwr, gan hyrwyddo sail asesu deg i bob dysgwr.
- Asesiadau di-arholiad: Bydd athrawon a dysgwyr hefyd yn gallu defnyddio technoleg ddigidol wrth gwblhau a chyflwyno asesiadau di-arholiad. Mewn pynciau fel technoleg ddigidol, gall hyn ganiatáu i ddysgwyr ddefnyddio meddalwedd arbenigol i greu amrywiaeth o gynhyrchion digidol. Mewn hanes, bydd y dull hwn yn hwyluso’r broses o ddarparu a chyflwyno'r asesiad.
-
Camau cyflwyno asesiadau digidol
Ar gyfer rhai pynciau, bydd asesiadau digidol-yn-unig ar gael o'r cychwyn cyntaf. I eraill, bydd asesiadau digidol-yn-unig yn cael eu cyflwyno’n ddiweddarach.
Bydd cyflwyno'r asesiadau digidol hyn yn cefnogi ysgolion yn eu paratoadau ac yn caniatáu amser i ddulliau asesu digidol gael eu harchwilio ymhellach a'u treialu mewn rhai pynciau. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, CBAC ac eraill i gefnogi gweithrediad effeithiol asesiadau digidol yn y cymwysterau newydd cyffrous hyn.
Haf 2026 | Haf 2027 | Haf 2028 |
|
|
|
I'w gyflwyno o fewn y pum mlynedd cyntaf o addysgu |
|
Ein meysydd cydweithio, ymchwil a datblygu
Mae gennym dîm moderneiddio asesu pwrpasol sy'n gweithio gydag eraill ar draws y gymuned cymwysterau ac asesu i archwilio'r manteision y gall technolegau digidol eu cynnig.
Deallusrwydd artiffisial
Mae modelau deallusrwydd artiffisial yn dod yn fwy datblygedig ac, er ein bod yn ffyddiog y gall AI ddod â manteision posibl i addysgu, dysgu ac asesu, gallwn hefyd weld eu bod yn cyflwyno heriau i sut rydyn ni’n asesu dysgwyr yn deg ar eu gwybodaeth a'u sgiliau.
Rydyn ni am sicrhau bod dilysrwydd ymatebion dysgwyr, ac felly uniondeb asesiadau, yn cael ei ddiogelu.
Asesiadau ar y sgrin
Rydyn ni’n gweithio gyda darparwyr platfform asesu ar y sgrin, gan gynnwys RM, Surpass, a TCS iON, i gynnal gweithdai gydag athrawon o bob cwr o Gymru i archwilio'r cyfleoedd a'r heriau y gall asesu digidol eu cynnig. Darllenwch ein cyfres blog sy'n archwilio tair thema allweddol:
Dylunio asesiadau digidol: adborth athrawon
Goruchwylio o bell
Mae technolegau goruchwylio o bell yn caniatáu i ddysgwyr sefyll asesiadau mewn lleoliad o'u dewis, gan sicrhau eu bod yn cael eu cymryd o dan amodau rheoledig.
Rydyn ni’n archwilio sut mae'r technolegau hyn yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, ac a allent ddod â manteision ychwanegol i'r system gymwysterau yng Nghymru. Gall dysgwyr rannu eu profiadau o sefyll asesiad o bell ar ein platfform Dweud Eich Dweud.
Asesu ffurfiannol
Rydyn ni’n ymgysylltu ag ysgolion i ddeall sut maen nhw’n defnyddio technolegau digidol i wella arferion asesu ffurfiannol.
Mae ysgolion wedi rhoi enghreifftiau o sut maen nhw wedi defnyddio technolegau digidol mewn asesu ffurfiannol, er enghraifft i gael mynediad at ddeunydd adolygu, rhoi cynnig ar gwestiynau ac ymarferion, ac i roi adborth i ddysgwyr.
Gall ysgolion rannu eu profiadau trwy ein platfform Dweud Eich Dweud.