Cymwysterau Cenedlaethol: TGAU

Mae beth a sut mae pobl ifanc yng Nghymru yn dysgu yn newid gyda chyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru newydd. O ganlyniad, mae cymwysterau TGAU yng Nghymru yn newid hefyd. 

 

Beth yw'r pynciau TGAU newydd yng Nghymru? 

Mae'r cymwysterau TGAU newydd yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau ar Lefel 1 a Lefel 2 o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Llywodraeth Cymru, ac yn cefnogi'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad fel yr amlinellir yn y cwricwlwm newydd: 

    • y celfyddydau mynegiannol
    • iechyd a lles
    • y dyniaethau
    • ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
    • mathemateg a rhifedd
    • gwyddoniaeth a thechnoleg

Mae'r pynciau, yn ogystal â'r testunau a'r themâu a drafodir ym mhob pwnc, wedi'u llunio yn dilyn cyfnod o gydweithio â rhanddeiliaid ac arbenigwyr yng Nghymru. Yn ogystal ag adlewyrchu'r cwricwlwm newydd, bydd y cymwysterau TGAU: 

    • ar gael yn Gymraeg a Saesneg
    • yn cynnwys amrywiaeth gynyddol o ddulliau asesu
    • yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol lle bo hynny’n berthnasol
    • yn adlewyrchu amrywiaeth y dysgwyr a'r byd maen nhw'n byw ynddo
    • yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr a phrifysgolion o fewn ffiniau Cymru a thu hwnt

Mae'r cymwysterau TGAU diwygiedig yn cael eu cyflwyno mewn dwy don ym mis Medi 2025 a mis Medi 2026.

Pan gyflwynir y cymwysterau TGAU newydd, byddant yn disodli'r cymwysterau TGAU presennol yn y pynciau hynny, ac eithrio gwyddoniaeth. Ar gyfer y pwnc hwn, bydd y TGAU presennol mewn bioleg, cemeg a ffiseg hefyd ar gael ochr yn ochr â'r opsiynau dwyradd a gradd unigol newydd  am o leiaf dair blynedd.  

 

TGAU a chymwysterau Lefel 2 sy'n rhan o Don 1

Addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025:

*Y rhaglen astudio fwyaf priodol ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr

 

TGAU a chymwysterau Lefel 2 sy'n rhan o Don 2

Addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026:

*Gweler y canllawiau ar ddysgu 14 i 16 gan Lywodraeth Cymru
**Bydd y cymwysterau TGAU presennol mewn bioleg, cemeg a ffiseg hefyd yn cael eu cynnig

Beth yw'r newidiadau allweddol i'r cymwysterau TGAU newydd?

Mae newidiadau i'r cymwysterau TGAU newydd wedi'u gwneud fesul pwnc. Fel y rheoleiddiwr cymwysterau yng Nghymru, efallai y byddwn yn gwneud addasiadau i gymwysterau TGAU y tu allan i unrhyw ddiwygiad eang er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n gywir ac yn berthnasol i ddysgwyr a'r byd rydyn ni’n byw ynddo. O ganlyniad, mae rhai cymwysterau TGAU wedi gweld llai o newid nag eraill.

Gall athrawon a dysgwyr ddisgwyl gweld y newidiadau canlynol ar draws y cymwysterau TGAU:

      • symud o asesiadau llinol i asesiadau unedol, neu i'r gwrthwyneb
      • cynnydd mewn asesiadau di-arholiad mewn rhai pynciau
      • symud i arholiad digidol neu asesiad ar-sgrin lle bo hynny'n berthnasol
      • newid yn nifer yr unedau o fewn y cymhwyster TGAU

Darllenwch am y newidiadau ar gyfer TGAU unigol yn ein meini prawf cymeradwyo lefel pwnc

Llinell amser cyflwyno prosiectau

 

Darllenwch am yr holl ymchwil, ymgynghoriadau a phenderfyniadau sy'n ymwneud â'r Cymwysterau Cenedlaethol yn ein llinell amser ar gyfer cyflawni’r prosiect.