Beth yw gosod safonau?
Mae gosod safonau ar gymwysterau fel TGAU yn golygu gosod ffiniau graddau, sef y nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i ddangos y safon ar gyfer gradd.
Ein cyhoeddiadau blaenorol ar raddio a gosod safonau
Fe wnaethom gyhoeddi ym mis Mehefin 2023 y byddai cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru yn parhau i gael eu graddio o A* i G. Yn dilyn ein hymgynghoriad ar y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru, cyhoeddwyd ein penderfyniadau[1] a gosodwyd y safbwynt polisi cychwynnol a ganlyn sy'n gysylltiedig â safonau graddio TGAU:
Bydd safonau yn y set newydd o gymwysterau TGAU yn debyg yn fras i'r safonau yn y set bresennol o gymwysterau TGAU. Mae hyn yn golygu y bydd canlyniadau cenedlaethol cyffredinol yn gymharol debyg. Rydym wedi datblygu'r meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd i gefnogi'r nod hwn o sicrhau safonau a chanlyniadau cymharol debyg.
Diogelu buddiannau dysgwyr a sicrhau tegwch yw'r prif resymau dros sicrhau bod y safonau a’r canlyniadau ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd yn weddol debyg i'r hyn ydynt ar hyn o bryd. Heb fynd ati i ddilyn y nod hwn, mae'n fwy na thebyg y byddai'r carfannau cyntaf o ddysgwyr i ddilyn y cymwysterau newydd o dan anfantais annheg o’u cymharu â dysgwyr y gorffennol a'r dyfodol. Er enghraifft, bydd eu hathrawon yn llai cyfarwydd â’r cymwysterau newydd, ac ni fydd ganddynt fynediad at gynifer o adnoddau o’u cymharu â dysgwyr oedd yn dilyn yr hen gymhwyster, ac â darpar ddysgwyr a fydd yn dilyn y cymwysterau newydd yn y blynyddoedd i ddod. Mae anelu at safonau a chanlyniadau cymharol debyg yn golygu nad ydym yn disgwyl i ganlyniadau fod yn sylweddol uwch nac yn sylweddol is.
Mae’r newidiadau i ddyluniad y cymwysterau, er enghraifft y cynnydd mewn asesiadau di-arholiad mewn llawer o bynciau a strwythur unedol nifer o bynciau yn golygu na fydd yn realistig nac yn ddymunol cael yr un safonau a chanlyniadau yn union yn y set newydd o gymwysterau TGAU â'r rhai presennol. Bu newidiadau i gynnwys y cymwysterau hefyd i adlewyrchu'r Cwricwlwm. Yn ogystal, bu newid yn yr ystod o bynciau sydd ar gael a fydd yn effeithio ar broffil cyrhaeddiad y carfannau ar gyfer rhai pynciau.
Bydd sicrhau canlyniadau eithaf tebyg yn y set newydd o gymwysterau TGAU yn cefnogi cymaroldeb rhwng yr hen set a'r set newydd o gymwysterau TGAU ac yn helpu i gynnal cyfredoldeb a hygludedd y cymwysterau i ddysgwyr. Unwaith y bydd cymwysterau TGAU newydd wedi'u sefydlu, byddwn yn mabwysiadu dull o gynnal safonau dros amser a fydd yn golygu y bydd newidiadau dilys ym mherfformiad cyffredinol dysgwyr yn cael eu hadlewyrchu yng nghanlyniadau cymwysterau ar lefel genedlaethol. Yn ogystal â’n gwaith ar sicrhau cymaroldeb eang rhwng y cymwysterau TGAU presennol a’r rhai newydd, rydym hefyd yn ystyried cymaroldeb rhwng y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd a’r cymwysterau TGAU a gaiff eu hastudio mewn awdurdodaethau eraill.
Ein dull o osod safonau ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd
Mae’r adroddiad ymchwil gan OUCEA wedi bod yn werthfawr o ran ein galluogi i wirio ein safbwynt polisi cychwynnol y bydd safonau yn y set newydd o gymwysterau TGAU yn weddol debyg i’r safonau yn y set bresennol o gymwysterau TGAU cyn trosglwyddo. Dyma ein safbwynt polisi o hyd.
Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r dull safonau y cyfeirir ato yn yr ymchwil fel ‘asesu gan gyfeiro at gyrhaeddiad’. Mae'r dull hwn yn ei gwneud hi'n bosibl cynnal safon perfformio cyson flwyddyn ar ôl blwyddyn o fewn pwnc, trwy addasu ffiniau graddau ar gyfer pob cyfres asesu er mwyn sicrhau bod canlyniadau'n adlewyrchu lefel cyrhaeddiad cyfatebol dros amser. Er mwyn nodi sut mae lefelau cyrhaeddiad cyfatebol yn edrych, mae timau o arholwyr profiadol yn adolygu ac yn cymharu samplau o waith dysgwyr dros amser wedi'u hategu gan dystiolaeth ystadegol. Mae gan y dull hwn y fantais o ganiatáu i ganlyniadau TGAU amrywio dros amser, er enghraifft trwy ymateb i gynnydd neu ostyngiadau dilys ym mherfformiad dysgwyr mewn ffordd gadarn a chredadwy.
Bydd y dull o osod safonau yn ystod y cyfnod trosglwyddo i gymwysterau TGAU newydd yn cael ei gynllunio fel na ddylai dysgwyr sy'n sefyll y cymwysterau TGAU newydd fod dan anfantais o ran y canlyniadau a gânt dim ond oherwydd bod cynlluniau'r cymwysterau yn llai cyfarwydd iddyn nhw a'u hathrawon. Yn ymarferol gall hyn olygu gosod ffiniau graddau is dros dro fel nad yw dysgwyr sy'n dilyn cymwysterau newydd dan anfantais oherwydd y graddau y maent yn eu derbyn. Bydd hyn yn golygu y bydd dysgwyr, fel grŵp, yn derbyn canlyniadau tebyg i'r rhai y byddent wedi'u derbyn pe baent wedi dilyn y cwrs cyn diwygio ac wedi sefyll yr hen gymhwyster.
Rydym yn cytuno â chanfyddiadau'r ymchwil y bydd y dulliau o ddylunio’r cymwysterau TGAU newydd yn gwneud y broses hon yn heriol. Mae hyn nid yn unig yn gysylltiedig â chael cynlluniau mwy unedol, ond hefyd mwy o asesu digidol, mwy o asesu di-arholiad, cyfuno pynciau a chyflwyno pynciau newydd heb unrhyw ragflaenydd amlwg (fel Astudiaethau Cymdeithasol a Dawns).
Mae gennym raglen waith wedi'i chynllunio i lywio'r dull o ymdrin â safonau yn y gyfres newydd o gymwysterau TGAU. Un agwedd ar hyn yw sut y gellir enghreifftio'r berthynas rhwng perfformiad a chyrhaeddiad.
Ydy'r safbwynt polisi hwn yn berthnasol i gymwysterau eraill a fydd ar gael ochr yn ochr â chymwysterau TGAU?
Mae'r safbwynt polisi hwn yn berthnasol i gymwysterau TGAU yn unig. Byddwn yn cadarnhau ar yr adeg briodol sut y bydd safonau graddio yn gweithio mewn cymwysterau Gwneud-i-Gymru eraill a fydd ar gael.
[1] Tudalen 35/36 o'n hadroddiad penderfyniadau - https://cymwysteraucymru.org/media/vuncn5xm/tgau-gwneud-i-gymru-prif-adroddiad-ymgynghoriad.pdf