Cyflwyniad
Mae'r holl bolisïau hyn yn gymwys i gymwysterau yn gyffredinol a'r system gymwysterau yng Nghymru. Am restr lawn o'n holl bolisïau, gweler ein Rhestr o Ddogfennau Rheoleiddio.
Gorfodi
Cymryd camau pan aiff pethau o chwith
Mae hwn wedi'i anelu at gyrff dyfarnu cydnabyddedig ac aelodau o'r cyhoedd i'w galluogi i ddeall sut y gallem ddefnyddio ein pwerau gorfodi a chosbi.
Polisi capio ffioedd
Mae'r Polisi Capio Ffioedd yn egluro o dan ba amgylchiadau y gallwn osod terfyn ar y tâl y gall corff dyfarnu ei godi mewn perthynas â dyfarnu cymwysterau a ariennir yn gyhoeddus.
Polisi cosbau ariannol
Nod y polisi hwn yw nodi'r amgylchiadau lle rydym Cymwysterau Cymru yn debygol o osod cosb ariannol a y ffactorau yr ydym yn debygol o'u hystyried wrth bennu swm y gosb honno.
Polisi amodau trosglwyddo
Mae'r polisi hwn yn nodi'r amgylchiadau pan fo cydnabyddiaeth o gorff dyfarnu yn debygol o gael ei gwneud yn ddarostyngedig i Amod Trosglwyddo, a'r amgylchiadau lle rydym yn debygol o Gyfarwyddo corff dyfarnu i drosglwyddo cymhwyster.
Adolygiadau ac ymgynghoriadau
Polisi ymgynghori
Mae'r datganiad polisi hwn yn egluro o dan ba amgylchiadau ac ym mha ffordd rydym yn cynnig cynnal ymgynghoriadau.
Datganiad polisi ar gynnal adolygiadau o gymwysterau a'r system gymwysterau
Mae'r datganiad polisi hwn yn egluro sut rydym yn adolygu gweithgareddau cyrff dyfarnu cydnabyddedig a'u cydymffurfiaeth â'n gofynion rheoleiddio, yn ogystal â'r ffordd rydym yn adolygu'r system gymwysterau ehangach.
Adolygu datganiadau polisi yn gyson
Mae’r ddogfen hon yn ymwneud â sut rydym yn cadw datganiadau polisi dan adolygiad, gan gynnwys, pam rydym yn adolygu polisïau, sut rydym yn adolygu polisïau, a’n cylch adolygu polisi a’n proses gymeradwyo.
Cydnabod a chymeradwyo
Polisi cydnabod
Mae'r Polisi Cydnabod yn egluro ein gofynion ar gyfer cydnabod cyrff dyfarnu, pam ein bod yn llunio meini prawf a rheolau ar gyfer cydnabod cyrff dyfarnu ac o dan ba amgylchiadau y gellir ildio cydnabyddiaeth neu ei thynnu'n ôl.
Mae'r polisi hwn yn esbonio beth yw cymhwyster dynodedig a sut rydym yn arfer ein swyddogaethau mewn perthynas â dynodi cymwysterau. Pan fydd corff dyfarnu a gydnabyddir gennym yn awyddus i un o'i gymwysterau fod yn gymwys i'w ddefnyddio ar gyrsiau penodol a ariennir yn gyhoeddus, bydd y corff dyfarnu yn gwneud cais i ni i ddynodi'r cymhwyster.
Yn ogystal, mae’r polisi yn esbonio sut y mae cymhwyster dynodedig yn peidio â chael effaith bellach, pan fo cymhwyster cymeradwy sydd yr un fath neu’n debyg iddo yn dod i rym. Mae’r polisi yn amlinellu ein dull o ddirymu dynodiad yn ogystal â dynodi at ddiben neu ddibenion penodol.
Polisi rhestr cymwysterau blaenoriaethol a chymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig
Mae'r polisi Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol a Chymwysterau Blaenoriaethol Cyfyngedig yn nodi ein dull o gymeradwyo cymwysterau i'w dyfarnu yng Nghymru, ac yn amlinellu'r rhesymeg dros gyfyngu ar gymwysterau blaenoriaethol a'r prosesau cysylltiedig.
Cynllun a wneir o dan Adran 15 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015
Yn unol ag Adran 15 o Ddeddf Cymwysterau Cymru ("y Ddeddf"), mae'r ddogfen bresennol yn gwneud darpariaethau ar gyfer y ffordd y byddwn yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â datblygu cymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig.
Cynllun a wneir o dan Adran 17 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015
Yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Cymwysterau Cymru ("y Ddeddf"), mae'r ddogfen bresennol yn gwneud darpariaethau ar gyfer ceisiadau i'w cymeradwyo o dan Adran 17(2) o'r Ddeddf, a'n hystyriaeth o'r cymwysterau hynny.
Cynllun a wneir o dan Adran 19 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015
Yn unol ag Adran 19 o Ddeddf Cymwysterau Cymru ("y Ddeddf"), mae'r Cynllun hwn yn nodi'r ffactorau rydym yn debygol o'u hystyried wrth benderfynu a ddylid ystyried ceisiadau i gymeradwyo cymwysterau nad ydynt yn flaenoriaeth ai peidio. Mae'r Cynllun hefyd yn nodi ein gweithdrefn ar gyfer cymeradwyo cymwysterau o'r fath o dan adran 19(2) o'r Ddeddf.
Cwynion, adrodd, apeliadau a digwyddiadau
Cwynion am gyrff dyfarnu
Mae'r polisi hwn yn gymwys i unrhyw un sy'n awyddus i gwyno am gorff dyfarnu a gydnabyddir neu am un neu fwy o'r cymwysterau rheoleiddiedig a gynigir gan gorff dyfarnu o'r fath.
Polisi rheoleiddiol ar chwythu'r chwiban
Nod y polisi yw rhoi eglurder o ran pwy y gellir ei ystyried yn chwythwr chwiban; rhoi eglurder o ran y math o ddatgeliadau y gallwn eu hystyried ac na allwn eu hystyried; ac amlinellu'r broses y byddwn yn ei dilyn wrth ymdrin â datgeliadau chwythwr chwiban.
Polisi apeliadau rheoleiddio
Mae'r polisi hwn yn gymwys i unrhyw un yr effeithiwyd arno gan benderfyniad rheoliadol a wnaed gan Cymwysterau Cymru ac sy'n awyddus i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw.
Polisi rheoleiddiol ar reoli digwyddiadau
Mae'r polisi yn amlinellu ein prosesau mewnol ar gyfer rheoli digwyddiadau rheoleiddio. Lluniwyd y weithdrefn hon er mwyn sicrhau bod unrhyw un a hoffai ein hysbysu o ddigwyddiad rheoleiddio yn deall y weithdrefn ar gyfer rheoli'r broses hon.
Polisi camau annerbyniol gan achwynwyr
Weithiau, mae pobl yn ymddwyn mewn modd sy'n ei gwneud yn anodd i ni ddelio â'u cwyn yn effeithiol neu o gwbl. Yn yr achosion prin hyn lle mae ymddygiad achwynydd yn cael ei ystyried yn annerbyniol gennym ni, bydd y polisi hwn yn berthnasol.
Datganiadau polisi eraill
Datganiad Polisi ar Gydweithio - Mae'r datganiad hwn wedi'i anelu at unrhyw un sydd am gydweithio â ni mewn cysylltiad â'n swyddogaethau neu faterion eraill sy'n ymwneud â chymwysterau.
Datganiad Polisi ar Ddarparu Gwasanaethau - Mae'r datganiad hwn yn egluro o dan ba amgylchiadau y byddwn yn ystyried a ddylid cymryd rhan mewn gweithgareddau masnachol fel y'u diffinnir o dan adran 45 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.
Datganiad Polisi Codi Tâl am Wasanaethau Rheoleiddio - Mae'r polisi hwn yn esbonio o dan ba amgylchiadau y gallwn godi tâl ar gyrff dyfarnu o ran y costau yr eir iddynt wrth gyflawni ein swyddogaethau amrywiol.
Polisi Allbynnau Ystadegol - Mae'r ddogfen hon yn disgrifio'r ffordd y byddwn yn cyhoeddi allbynnau ystadegol sy'n ymwneud â'r data rydym yn eu casglu ar gymwysterau rheoleiddiedig. Mae hi hefyd yn disgrifio'r ffordd y gallwn ddiwygio ein datganiadau ystadegol rheolaidd.