Cyflwyniad

Rydyn ni'n gyfrifol am gymeradwyo cymwysterau a allai gael eu defnyddio ar raglenni dysgu sydd wedi'u hariannu'n gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed.

Rydyn ni hefyd yn dynodi cymwysterau penodol i'w defnyddio yng Nghymru. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n rheoleiddio'r corff dyfarnu sy'n cynnig y cymhwyster a’n bod yn fodlon ei bod yn briodol i'r cymhwyster gael ei gynnig ar gyrsiau sydd wedi'u hariannu'n gyhoeddus i bobl ifanc.

Mae monitro safonau a phrosesau dyfarnu yn rhan allweddol arall o'n gweithgareddau rheoleiddio.

Cymwysterau blaenoriaethol

Gall Cymwysterau Cymru gymeradwyo cymwysterau sydd wedi'u cynllunio i fodloni anghenion dysgwyr yng Nghymru.

Mae'r Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol yn cael ei pharatoi ar y cyd rhwng Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru gan nodi cymwysterau y cytunwyd arnynt fel rhai blaenoriaethol i'w cymeradwyo ar adeg benodol.

Gall y rhain gynnwys cymwysterau y mae meini prawf cymeradwyo penodol wedi'u datblygu ar eu cyfer i fodloni anghenion dysgwyr Cymru. Gallai’r anghenion hynny, er enghraifft, fod yn gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru neu â gofynion penodol economi Cymru a chyflogwyr yng Nghymru.

Mae'r Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol hefyd yn ceisio nodi cymwysterau y gellir eu cynnwys ar y rhestr wrth symud ymlaen.

Mae hyn yn galluogi datblygiad cynnar y meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau hyn a gall roi gwybod i gyrff dyfarnu am flaenoriaethau'r dyfodol.

Cymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig

Mae gan Cymwysterau Cymru’r pŵer i gyfyngu cymhwyster sydd ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol.

Gallwn ni benderfynu y dylai rhai cymwysterau ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol gael eu cyfyngu i uchafswm o ffurfiau (neu 'fersiynau') y gellir eu cymeradwyo ar unrhyw adeg.

Er enghraifft, efallai y byddwn ni'n penderfynu mai dim ond un fersiwn o TGAU Saesneg Iaith rydyn ni'n bwriadu ei gymeradwyo. Yn yr achos hwn, byddem yn penderfynu ynglŷn â hyn a byddai'r cymhwyster hwn yn dod yn Gymhwyster Blaenoriaethol Cyfyngedig.

Ni allwn wneud penderfyniad o’r fath oni bai ein bod yn fodlon bod y cyfyngiad arfaethedig yn ddymunol o ystyried ein prif nodau, a’r amcanion canlynol:  

  • osgoi anghysondeb rhwng gwahanol fersiynau o gymhwyster 
  • ein galluogi i arfer dewis rhwng cyrff dyfarnu a all fod eisiau datblygu ffurf newydd ar y cymhwyster neu rhwng gwahanol fathau o gymwysterau a gyflwynir i'w cymeradwyo

Cyn penderfynu cyfyngu ar nifer y ffurfiau cymeradwy ar gymhwyster, rhaid i ni hysbysu pob corff dyfarnu cydnabyddedig ac unrhyw berson arall rydyn ni’n credu y gellid disgwyl iddyn nhw fod â diddordeb yn ein cynnig, ac rydyn ni’n ystyried unrhyw ymatebion rydyn ni’n eu derbyn.

Ceir rhagor o fanylion am ein dull o gymeradwyo cymwysterau blaenoriaethol, a’n rhesymeg a’n prosesau ar gyfer cyfyngu cymwysterau blaenoriaethol yn ein Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol a’n Polisi Cymwysterau Blaenoriaethol Cyfyngedig.

Mae modd gweld yr holl hysbysiadau diweddar isod.

Cymwysterau Blaenoriaethol Cyfyngedig - Hysbysiadau sydd wedi'u Cyhoeddi

Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3):

  • Bwriad i Gyfyngu - Chwefror 2021
  • Penderfyniad i Gyfyngu - Mehefin 2021

Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

  • Bwriad i Gyfyngu - Tachwedd 2016
  • Penderfyniad i Gyfyngu - Mawrth 2017
  • Amrywio Penderfyniad i Gyfyngu - Ebrill 2019

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig: 

  • Bwriad i Gyfyngu - Gorffennaf 2018
  • Penderfyniad i Gyfyngu - Ebrill 2019

Cymeradwyo cymwysterau

Rhaid i gymwysterau cymeradwy fodloni meini prawf cymeradwyo sy'n benodol i gymhwyster sy'n sicrhau eu bod yn bodloni anghenion dysgwyr yng Nghymru.

Proses Gymeradwyo Cymwysterau Cymru

Er mwyn sicrhau bod cymwysterau'n addas i'r diben ac yn bodloni anghenion dysgwyr a chyflogwyr, caiff cymwysterau eu hadolygu gan arbenigwyr yn erbyn ein Hamodau Cydnabod Safonol a’n meini prawf cymeradwyo penodol.

Dyma'r broses gymeradwyo: 

  • mae arbenigwyr pwnc yn cael eu recriwtio a'u hyfforddi gan Cymwysterau Cymru 
  • mae corff dyfarnu yn cyflwyno deunyddiau’r cymhwyster i'w gymeradwyo - y fanyleb, y sail resymegol ac unrhyw ddeunyddiau asesu enghreifftiol 
  • mae arbenigwyr pwnc yn adolygu'r deunyddiau yn erbyn y meini prawf cymeradwyo, yn llunio adroddiad adborth ac yna’n cyfarfod â Cymwysterau Cymru i gytuno ar unrhyw feysydd lle nad ydyn nhw’n cydymffurfio 
  • mae Cymwysterau Cymru yn llunio adroddiad adborth rheoleiddio i’r corff dyfarnu a nodir statws y cymhwyster fel un sy’n 'cydymffurfio' neu un 'nad yw’n cydymffurfio’ 
  • gall corff dyfarnu ailgyflwyno cymhwyster ‘nad yw'n cydymffurfio’ i gael ei ailystyried gan ymateb i'r adroddiad adborth - gellir ailadrodd y broses hon nes bod y cymhwyster yn cael ei ystyried yn un sy’n 'cydymffurfio'

Proses Gymeradwyo ar gyfer Arbenigwyr Pwnc

Dynodi cymwysterau

Gall Cymwysterau Cymru hefyd ddynodi cymhwyster fel cymhwyster sy’n gymwys i’w ddefnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed.

Mae dynodi’n golygu ein bod ni’n rheoleiddio'r corff dyfarnu sy'n cynnig y cymhwyster a’n bod yn fodlon ei bod yn briodol i'r cymhwyster gael ei gynnig ar gyrsiau sydd wedi'u hariannu'n gyhoeddus i bobl ifanc.

O fis Medi 2025, bydd cymwysterau 14-16 Cenedlaethol newydd yn cael eu cyflwyno i ddysgwyr yng Nghymru, gan ddechrau gyda chymwysterau TGAU newydd wedi'u Gwneud i GymruCliciwch yma am fwy o wybodaeth am y cymwysterau 14-16 Cenedlaethol newydd.  

Gwneud cais i gymeradwyo neu ddynodi cymhwyster

Gall corff dyfarnu cydnabyddedig wneud cais i gymeradwyo neu ddynodi cymwysterau yng Nghymru. I wneud hynny, rhaid iddo greu a chyflwyno cymhwyster ar QiW (bas-data Cymwysterau yng Nghymru).

Byddwn ni’n ystyried cymeradwyo cymhwyster os bydd ar y Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol, neu os yw'n cyd-fynd â'r polisi ar gymeradwyo cymwysterau nad ydyn nhw’n flaenoriaethol; fel arall, byddwn ni’n ystyried ei ddynodi.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i greu a chyflwyno cymwysterau i QiW, cliciwch yma.

Rheolau a pholisi dynodi  

I ddarllen y rheolau am geisiadau i ddynodi cymwysterau, cliciwch yma.  Mae ein polisi dynodi cyfredol i'w weld yma hefyd. 

Yn ystod 2024, byddwn yn diweddaru ein polisi dynodi i adlewyrchu cyflwyniad y cymwysterau 14-16 Cenedlaethol newydd: 

  • ym mis Chwefror, rydym wedi lansio ymgynghoriad ar y polisi diwygiedig 

  • yn ystod tymor yr Hydref 2024, byddwn yn diweddaru ac yn cyhoeddi'r polisi diwygiedig gyda rheolau a chanllawiau wedi'u diweddaru

Canllawiau dynodi 

Canllaw Dynodi – Cyrff Dyfarnu 

Canllaw QiW – Cais Corff Dyfarnu i ddiwygio cymwysterau Dynodedig 

Canllaw Canolfannau i QiW 

Cymwysterau sydd wedi’u cymeradwyo neu eu dynodi 

Mae rhestr o gymwysterau sydd wedi eu cymeradwyo neu eu dynodi i'w gweld ar QiW. 

Monitro cymwysterau cyffredinol

Rydyn ni’n cynnal rhaglen helaeth o fonitro’r cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch diwygiedig i sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n effeithiol, eu hasesu’n deg a’u dyfarnu i’r safon gywir. Mae'r rhaglen yn cael ei chynllunio'n flynyddol ac yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yng Nghymru yn sefyll cymwysterau cyffredinol a ddarperir gan CBAC, felly dyma lle mae ein ffocws.

Fel rhan arferol o'n gwaith monitro, rydyn ni’n arsylwi cyfarfodydd a gaiff eu trefnu gan CBAC. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cyfarfodydd gwerthuso papurau cwestiynau – sy'n ystyried fersiynau drafft o bapurau cwestiynau a chynlluniau marcio 
  • cynadleddau safoni arholwyr a chymedrolwyr – sy’n ystyried newidiadau y gallai fod eu hangen i gynllun marcio ac yn sicrhau bod gan arholwyr ddealltwriaeth drylwyr o sut i roi pob cynllun marcio ar waith 
  • cyfarfodydd dyfarnu – lle mae uwch-arholwyr yn ystyried sampl o waith dysgwyr ochr yn ochr â dangosyddion ystadegol i gynnig ffiniau graddau ar gyfer pob papur 
  • digwyddiadau datblygiad proffesiynol parhaus – sy’n rhoi’r hyfforddiant a’r arweiniad diweddaraf i athrawon

Rydyn ni’n penderfynu pa gymwysterau sy'n cael eu monitro ar ba lefel drwy ddull sy'n seiliedig ar risg.

Rydyn ni hefyd yn cynnal arolwg blynyddol ar gyfres arholiadau ac asesiadau’r haf, sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr ac athrawon rannu eu barn a’u profiadau. Mae'r wybodaeth a gesglir yn helpu i lywio ein harolygiad o'r dyfarniadau ac i nodi agweddau ar y cymwysterau newydd y byddwn yn edrych arnynt yn fanylach fel rhan o'n gwaith monitro parhaus.

Rydyn ni’n cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda CBAC i sicrhau bod systemau effeithiol ar waith mewn perthynas â recriwtio arholwyr, diogelwch asesiadau, cwblhau'r marcio a darparu'r gwasanaeth ôl-ganlyniadau.

Mae prosesau sy'n ymwneud â gosod heriau, asesu a dyfarnu'r Tystysgrifau Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru) yn cael eu monitro drwy gydol y flwyddyn.

Monitro cymwysterau galwedigaethol

Rydyn ni’n monitro cymwysterau galwedigaethol yn fanwl ac yn canolbwyntio ar gymwysterau a grwpiau cymwysterau nad ydyn nhw’n cael eu targedu gan yr adolygiadau sector. 

Oherwydd nifer ac amrywiaeth y cymwysterau galwedigaethol a gynigir yng Nghymru a nifer y cyrff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, rydyn ni’n mynd ati i fonitro cymwysterau galwedigaethol mewn modd cymesur a phenodol. Rydyn ni’n ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu pa gymwysterau i'w monitro. Rydyn ni’n canolbwyntio ein monitro ar gymwysterau sy'n bodloni un neu fwy o'r disgrifiadau canlynol: 

  • yn gymwys i gael arian cyhoeddus 
  • cofrestriadau ac ardystiadau cymharol uchel 
  • ddim yn cael eu targedu gan adolygiadau sector 
  • yn asesu meysydd gwaith lle mae diogelwch yn hanfodol 
  • yn bodloni gofyniad i ymarfer neu drwydded i ymarfer 

Ar gyfer pob gweithgaredd monitro rydyn ni’n cymharu a chyferbynnu gwybodaeth a thystiolaeth gan wahanol gyrff dyfarnu ac yn canolbwyntio ar: 

  • y safonau asesu mae cyrff dyfarnu yn eu gosod 
  • eu prosesau sicrhau ansawdd allanol 
  • y canllawiau maen nhw'n eu darparu i ddarparwyr dysgu 

Rydyn ni hefyd yn casglu adborth gan ddysgwyr, canolfannau a rhanddeiliaid allweddol eraill. 

Rydyn ni’n adrodd ar ein canfyddiadau ac, os byddwn yn nodi diffygion gyda chyrff dyfarnu unigol, byddwn yn ysgrifennu atynt i dynnu sylw at ein pryderon ac yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gymryd camau priodol. 

Safonau a dyfarnu

Mae'r broses o osod safonau yn digwydd yn y cyfarfodydd dyfarnu ac yn cael ei monitro'n agos gennym ni. 

Caiff dangosyddion ystadegol eu defnyddio i gynhyrchu rhagfynegiadau ar gyfer TGAU, Safon Uwch a'r Dystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru) ar gyfer pob cyfres. 

Mae'r rhain yn seiliedig ar gyrhaeddiad blaenorol carfan o gymharu â pherfformiad carfannau tebyg yn y gorffennol. Caiff y broses hon ei hamlinellu yn ein dogfennau cyfnewid data a’n dogfennau rheoleiddio ‘Requirements for setting specified levels of attainment for GCE and GCSE qualifications’ (Saesneg yn unig) (Safon Uwch a TGAU) a ‘Gofynion ar gyfer pennu lefelau cyrhaeddiad penodedig ar gyfer cymwysterau Tystysgrif Her Sgiliau’ (Bagloriaeth Cymru). 

Ar gyfer cymwysterau TAG a TGAU nad ydyn nhw wedi cael eu diwygio, rydyn ni’n gweithio gyda’n cyd-reoleiddwyr, Ofqual a CCEA, i sicrhau bod y safon yn cael ei chynnal rhwng cymwysterau. 

I gael rhagor o wybodaeth am gyfresi arholiadau a chanlyniadau, gweler ein hadran ar gyfer cymwysterau TGAU a Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru). 

Cymwysterau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg

Mae Amod D9 o'n Hamodau Cydnabod Safonol yn amlinellu ein Hamodau a'n gofynion ar gyfer cyrff dyfarnu cydnabyddedig ynghylch cymwysterau cyfrwng Cymraeg. 

Yn benodol: 

  • rhaid i gorff dyfarnu sicrhau bod cymwysterau Cymeradwy ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg 
  • rhaid i gorff dyfarnu sicrhau bod cymwysterau Dynodedig i ddysgwyr cyn-16 fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â'n Polisi Dynodi, o fis Medi 2027 (neu unrhyw ddyddiad a gaiff ei osod gennym ni)  
  • mae'n ofynnol i bob corff dyfarnu gyhoeddi datganiad polisi sy'n nodi i ba raddau maen nhw’n sicrhau bod cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg 
  • pan fo corff dyfarnu yn sicrhau bod cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iddo hyrwyddo argaeledd y cymwysterau hynny a hwyluso mynediad atyn nhw 

Er mwyn cefnogi cydymffurfiaeth â’r gofynion rheoleiddio hyn, rydyn ni wedi cyhoeddi Canllawiau i gyrff dyfarnu ar Amod D9: cymwysterau cyfrwng Cymraeg.