Mae hyn yn golygu gweithio gyda’r llywodraeth, cyflogwyr, cyrff sector a darparwyr addysg i ystyried anghenion cyfredol yn ogystal ag anghenion y dyfodol. Rydyn ni hefyd yn olrhain tueddiadau tymor hwy sy’n effeithio ar gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd i adnabod cyfleoedd sydd â dylanwad cadarnhaol. Mae hyn yn gallu arwain at newid i ddyluniad, cynnwys neu asesiad cymwysterau, ynghyd ag ymdrechion cysylltiedig i helpu rheoli’r gweithrediad.

Ochr yn ochr â’n hymrwymiad i ddarparu cynnig cymwysterau cynhwysol, rydyn ni’n ymwybodol o lesiant dysgwyr a phwysigrwydd cymwysterau cludadwy. Rydyn ni’n cydnabod bod cynnwys pobl yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw yn arwain at ddull cynaliadwy, sy’n gallu diwallu’n llwyddiannus eu hanghenion nhw, yn ogystal ag anghenion Cymru. Dyna pam rydyn ni’n ymgysylltu’n rheolaidd â defnyddwyr cymwysterau, gan gynnwys dysgwyr, ysgolion, colegau, prifysgolion a chyflogwyr. Wrth wneud hynny, rydyn ni’n sicrhau bod gan ganlyniadau cymwysterau werth hirdymor.

Rydyn ni’n falch o fod yn arwain y ffordd o ran darparu cymwysterau sy’n fwy cynhwysol a chynrychioliadol, gan adlewyrchu diwylliannau a threftadaeth amrywiol dysgwyr, a chaniatáu iddyn nhw archwilio themâu cyfoes, megis cydraddoldeb a chynaliadwyedd.

Mae cydweithio yn ystod ein gwaith diwygio, a thrwy gydol cyfnod gweithredu cymwysterau newydd, yn hollbwysig. Rydyn ni felly yn parhau i integreiddio ein gwaith gydag eraill yn y system addysg, gan gynnwys cyrff dyfarnu, Llywodraeth Cymru, Medr, Estyn, Adnodd, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.

Cymwysterau Cenedlaethol

Ar ddechrau blwyddyn academaidd 2024-25, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr hawl i ddysgu 14 i 16 oed. Mae hyn yn amlinellu y dylai dysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 ddilyn cynnig cwricwlwm sy’n cynnwys:
• cymwysterau mewn llythrennedd a rhifedd
• cymwysterau i annog ehangder gwybodaeth
• dysgu a phrofiadau ehangach ar draws y cwricwlwm
• myfyrio ar ddysgu a chynnydd, a chynllunio ôl-16

Mae Cymwysterau Cymru yn chwarae ei ran i sicrhau bod dysgwyr bellach yn gallu dewis o ystod o gymwysterau newydd, cyffrous, gwneud-i-Gymru wrth wneud eu dewisiadau ar gyfer Blynyddoedd 10 ac 11.

Mae’r Cymwysterau Cenedlaethol yn cefnogi nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru. Cyfres gynhwysfawr, berthnasol a chyfartal o gymwysterau ydyn nhw, sy’n amrywio o gymwysterau TGAU gradd unigol a dwyradd mewn pynciau fel Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, 

i’r cymwysterau TAAU newydd seiliedig ar waith mewn pynciau fel gwasanaethau cyhoeddus a pheirianneg. Mae hefyd gyfres o gymwysterau sgiliau – Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith a Phrosiect Personol – a chymwysterau Sylfaen newydd.

Yn ogystal â rhoi cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ar draws ystod amrywiol o feysydd pwnc a sector, mae’r Cymwysterau Cenedlaethol:
• yn cefnogi datblygiad sgiliau y mae cyflogwyr yng Nghymru yn galw amdanyn nhw
• yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu ymarferol
• yn cynnig mwy o gymysgedd o ran dulliau asesu
• â gwerth o fewn a thu allan i Gymru
• yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol

Bydd y Cymwysterau Cenedlaethol yn darparu cyfleoedd asesu ar lefel mynediad, lefel 1 a lefel 2.

Cymwysterau TAAU, Sgiliau a Sylfaen

Cymwysterau TAAU
O fis Medi 2027 ymlaen, bydd dysgwyr 14 i 16 oed yn gallu astudio cymhwyster newydd – TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) – mewn amrywiaeth o bynciau seiliedig ar waith. 

Bydd cyflwyno’r teitl hwn yn darparu cydlyniad i’r ystod eang o bynciau galwedigaethol sy’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd i ddysgwyr cyn-16 oed, a gyda hynny fwy o gydnabyddiaeth i ddysgu galwedigaethol.

Mae cymwysterau TAAU wedi cael eu dylunio i allu cael eu cyflawni o fewn yr adnoddau a’r arbenigedd rhesymol sydd ar gael i ysgolion. 

Bydd y cymwysterau hyn yn cwmpasu lefel 1 a lefel 2 – yr un fath â chymwysterau TGAU – gan ychwanegu ehangder at gynnig cwricwlaidd ysgol a galluogi dysgwyr i ddysgu am feysydd galwedigaethol trwy ddull ymarferol o ddysgu ac asesu. Mae hefyd modd eu cyflawni trwy bartneriaethau ysgolion a cholegau a thrwy ddarpariaeth amgen.

Ni fydd cymwysterau TAAU yn gymwysterau cymhwysedd ac felly ni fydd angen athrawon arbenigol. Bydd yn ofynnol i gyrff dyfarnu ddarparu canllawiau a hyfforddiant i athrawon i’w helpu nhw i baratoi i addysgu’r pynciau TAAU newydd yn hyderus.

Pynciau TAAU

TAAU Adfer Natur
TAAU Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth
TAAU Amgylchedd Adeiledig
TAAU Busnes, Cyfrifeg a Chyllid
TAAU Cynhyrchu Creadigol a’r Cyfryngau, a Thechnoleg
TAAU Cynnal a Chadw Cerbydau Modur
TAAU Chwaraeon a Hamdden    
TAAU Gofal Anifeiliaid
TAAU Gwallt a Harddwch
TAAU Gwasanaethau Cyhoeddus
TAAU Lletygarwch ac Arlwyo
TAAU Manwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid
TAAU Peirianneg
TAAU Teithio a Thwristiaeth
TAAU Y Celfyddydau Perfformio

Cymwysterau sgiliau
Hefyd bydd cyfres newydd o gymwysterau sgiliau, sy’n cynnwys Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith a Phrosiect Personol, yn cael eu cyflwyno i’w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027 ymlaen. Mae’r cymwysterau hyn ar gael o lefel mynediad i lefel 2, ac yn caniatáu dewis o ystod o bynciau cynhwysol i ddatblygu sgiliau gwaith a bywyd effeithiol a pherthnasol.

Mae cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith yn cefnogi dysgwyr trwy gwmpasu’r sgiliau sy’n hanfodol i bedwar diben y Cwricwlwm a’i themâu trawsbynciol – yn enwedig dinasyddiaeth, gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith.

Mae’r cymwysterau hyn yn cwmpasu ystod o sgiliau y mae cyflogwyr a rhieni yn gofyn amdanyn nhw.

Unedau Sgiliau Bywyd

Celf a Chrefft
Cerddoriaeth, Dawns a Drama
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Cyfranogiad Cymunedol
Cymorth Cyntaf Sylfaenol
Cynaliadwyedd Ar Waith
Cynllunio a Pharatoi Bwyd
Deall Eich Hun ac Eraill
Democratiaeth Ar Waith
Dewisiadau Moesegol 
Diogelwch Ar-lein
Diogelwch Personol
Ffilm a Chyfryngau Digidol
Ffordd Iach o Fyw
Ffydd a Chred yn y Gymuned    
Garddio Ymarferol
Gofalu am Eraill
Gwaith Tîm
Gwerthoedd ar Gyfer Bywyd
Gwyddoniaeth a Thechnoleg mewn Bywyd Bob Dydd
Iaith Arwyddion Prydain
Iechyd Meddwl a Lles

Llythrennedd Ariannol
Perthnasoedd Iach
Rheoli a Chynnal a Chadw Cartref
Sgiliau yn yr Amgylchedd Naturiol
Y Gyfraith Bob Dydd
Ymarfer Corff i Bawb
 
Unedau Sgiliau Gwaith

Archwilio Llwybrau Gyrfa
Creadigrwydd Gyrfa
Cyllid Busnes
Cynllunio Datblygiad Personol
Datblygu Economaidd Cynaliadwy
Deall y Farchnad Swyddi Sy’n Newid
Defnyddio TG yn y Gweithle
Goresgyn Rhwystrau
Gwasanaeth Cwsmeriaid
Gweithio yng Nghymru    
Gwneud Cais am Swyddi
Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle
Lles a Gwaith
Meithrin Meddylfryd Twf
Menter
Profiad Gwaith
Swyddi’r Dyfodol
Technegau Cyfweld a Hyder
Tegwch a Chynhwysiant yn y Gweithle

Cymwysterau Sylfaen
Bydd cyfres o gymwysterau Sylfaen newydd hefyd yn cael eu cyflwyno ym mis Medi 2027. Maen nhw ar gael mewn amrywiaeth o bynciau cyffredinol a phynciau seiliedig ar waith, gan roi mwy o ddewis a hyblygrwydd i ddysgwyr.

Mae cymwysterau Sylfaen wedi cael eu creu ar gyfer dysgwyr nad ydyn nhw efallai’n teimlo’n barod ar gyfer astudio cymwysterau TGAU neu TAAU, a bydd y cymwysterau’n cwmpasu lefel mynediad i lefel 1. Byddan nhw’n cwmpasu naw o bynciau cyffredinol, sy’n gysylltiedig â meysydd dysgu a phrofiad y Cwricwlwm, a 15 pwnc sy’n seiliedig ar waith i gefnogi dilyniant uniongyrchol i gymwysterau TAAU.

Rydyn ni’n cydnabod y bydd y cyfle i ddatblygu sgiliau Cymraeg ar ystod o lefelau yn helpu cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd yn eu sgiliau Cymraeg ac yn cyfrannu at yr uchelgais genedlaethol o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Yn dilyn trafodaethau gyda rhanddeiliaid, rydyn ni wedi penderfynu mai dim ond ar lefel mynediad y bydd y cymwysterau Cymraeg Sylfaen a Cymraeg Craidd Sylfaen ar gael, ac nid ar lefel 1.

Prosiect personol
Mae’r cymhwyster Prosiect Personol yn galluogi dysgwyr i ddangos eu sgiliau dysgu annibynnol drwy gwblhau prosiect ar bwnc o’u dewis. 

Ar ôl cwblhau eu prosiect, bydd dysgwyr yn cael eu hasesu ar eu defnydd o’r pedwar sgìl cyfannol sydd wedi eu hamlinellu yn y Cwricwlwm i Gymru, sef:
• cynllunio a threfnu
• creadigrwydd ac arloesedd
• meddwl yn feirniadol a datrys problemau
• effeithiolrwydd personol

Pynciau cyffredinol

Cymraeg
Cymraeg Craidd
Dylunio a Thechnoleg
Mathemateg a Rhifedd
Saesneg    
Technoleg Ddigidol
Celfyddydau Mynegiannol
Y Dyniaethau
Y Gwyddorau

Pynciau seiliedig ar waith

Adfer Natur
Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth
Amgylchedd Adeiledig
Busnes, Cyfrifeg a Chyllid
Cynhyrchu Creadigol a’r Cyfryngau, a Thechnoleg
Cynnal a Chadw Cerbydau Modur
Chwaraeon a Hamdden
Gofal Anifeiliaid
Gwallt a Harddwch
Gwasanaethau Cyhoeddus
Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
Lletygarwch ac Arlwyo
Manwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid
Peirianneg
Teithio a Thwristiaeth
Yr Amgylchedd Adeiledig

Paratoi’r canolfannau

Fe wnaethon ni gwblhau ein proses gymeradwyo ar gyfer cam cyntaf y cymwysterau TGAU Cenedlaethol newydd yn ystod haf 2024. Roedd hyn yn cynnwys adolygu a chymeradwyo manylebau pwnc ar gyfer pob cymhwyster TGAU a oedd wedi eu trefnu i’w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025.

Mae manylebau’n diffinio’r nod, y deilliannau dysgu, y cynnwys a’r meini prawf asesu ar gyfer pwnc penodol. Cafodd rhain eu cyhoeddi gan CBAC fel eu bod ar gael i ganolfannau (darparwyr cymwysterau sy’n darparu cymwysterau rheoleiddiedig, gan gynnwys ysgolion, colegau addysg bellach, sefydliadau dysgu seiliedig ar waith ac unedau cyfeirio disgyblion) ym mis Medi 2024 – flwyddyn cyn iddyn nhw gael eu haddysgu am y tro cyntaf ar gyfer y pynciau canlynol:
• TGAU Almaeneg 
• TGAU Astudiaethau Crefyddol 
• TGAU Busnes 
• TGAU Bwyd a Maeth 
• TGAU Cerddoriaeth 
• TGAU Celf a Dylunio 
• TGAU Cymraeg Craidd 
• TGAU Cyfrifiadureg 
• TGAU Daearyddiaeth 
• TGAU Drama 
• TGAU Ffrangeg 
• TGAU Hanes* 
• TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (gradd unigol a dwyradd) 
• TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (gradd unigol a dwyradd)
• TGAU Mathemateg a Rhifedd (dwyradd) 
• TGAU Sbaeneg
• Lefel 2 Cymraeg Craidd Ychwanegol 
*Bydd TGAU Hanes bellach yn dechrau ym mis Medi 2026.

Mae cefnogi canolfannau ledled y wlad i baratoi ar gyfer Cymwysterau Cenedlaethol wedi bod yn ffocws canolog i’n hymdrechion ni, yn ogystal ag ymdrechion partneriaid allweddol yn y system addysg, drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Cam allweddol yn y broses hon oedd lansio dogfen Help Llaw yn arbennig ar gyfer canolfannau. Mae’r canllaw, sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, wedi cael ei gynllunio i helpu addysgwyr ddeall y newidiadau i ddarpariaeth cymwysterau ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed a’u cefnogi nhw wrth bontio i’r Cymwysterau Cenedlaethol newydd.

Mae’r canllaw yn tynnu sylw at ddeunyddiau ategol i gynorthwyo canolfannau wrth iddyn nhw baratoi, gan gynnwys:
• amserlen i ganolfannau sy’n paratoi
• canllawiau i baratoi ar gyfer arholiadau digidol yn unig
• pwyntiau trafod wrth ystyried llwyth gwaith dysgwyr

Mae’r canllawiau’n esbonio sut mae Cymwysterau Cenedlaethol yn cefnogi’r Cwricwlwm a hawl i ddysgu 14-16 Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn nodi sut mae gwahanol gymwysterau yn gallu darparu cyfleoedd i ddysgwyr ymgysylltu â meysydd dysgu a phrofiad y Cwricwlwm, themâu trawsbynciol, sgiliau trawsgwricwlaidd a sgiliau hanfodol.

Yn ystod yr un cyfnod, fe wnaethon ni lansio arolwg newydd i ganolfannau rannu eu barn ar y cymwysterau maen nhw’n ystyried eu cynnig yn y dyfodol. Bydd yr arolwg hwn yn cael ei ailgynnal bob hydref nes bod pob un o’r Cymwysterau Cenedlaethol wedi cael eu cyflwyno’n llawn ac ar gael i ganolfannau.

Cyflawni mewn partneriaeth

Wrth weithredu’r cymwysterau TGAU Cenedlaethol, rydyn ni wedi cytuno ar ddull o weithio ar y cyd gyda thri phartner strategol allweddol — Llywodraeth Cymru, CBAC ac Adnodd — sy’n bennaf gyfrifol am weithgareddau rheoli newid.

Mae siarter newid newydd yn nodi ein rolau a’n cyfrifoldebau penodol ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad ar y cyd i gefnogi cyflwyno’r cymwysterau TGAU newydd yn llwyddiannus yng Nghymru. Bydd y pedwar sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth agos â’i gilydd a gyda rhanddeiliaid allweddol eraill ar draws y sector addysg yng Nghymru. Mae’r cydweithrediad hwn yn hanfodol i fagu hyder yn y cymwysterau newydd a pharatoi athrawon i’w cyflwyno nhw i’w dysgwyr.

CBAC sydd â’r prif gyfrifoldeb am sicrhau bod canolfannau ac addysgwyr yn barod ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd. Yn gynnar yn 2025, dechreuodd y corff dyfarnu weithio gydag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a CYDAG ar gyfres ddysgu broffesiynol ar gyfer ton gyntaf y cymwysterau TGAU newydd.

Mae Adnodd, y corff sy’n gyfrifol am gomisiynu adnoddau addysgol newydd i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, wedi bod yn gweithio gyda CBAC, ac eraill, ar gyfres newydd o adnoddau dysgu ac addysgu dwyieithog ar gyfer y cymwysterau TGAU Cenedlaethol. Mae’r rhain bellach ar gael ar wefan adnoddau CBAC ac ar Hwb.

Asesu digidol

Rydyn ni eisiau i ddysgwyr yng Nghymru astudio cymwysterau sy’n eu hysbrydoli ac yn eu paratoi nhw ar gyfer bywyd, dysgu pellach a gwaith - mae hyn yn cynnwys gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol.

Gall asesiadau digidol fod o fudd mawr i ddysgwyr a’r system gymwysterau ehangach. Maen nhw’n gallu gwella dilysrwydd, cynyddu ymgysylltiad â dysgwyr a gwneud asesiadau’n fwy cynhwysol.

Rydyn ni wedi datblygu canllawiau gyda CBAC a Llywodraeth Cymru i helpu canolfannau gyda’u paratoadau ar gyfer asesiadau digidol yn y Cymwysterau Cenedlaethol.

Bydd cyflwyno’r asesiadau digidol hyn yn raddol yn cefnogi ysgolion yn ystod eu cyfnod paratoi ac yn caniatáu amser i ddulliau asesu digidol gael eu harchwilio, a’u treialu ymhellach mewn pynciau penodol.

Ar gyfer rhai pynciau, bydd asesiadau digidol yn unig ar gael o’r cychwyn cyntaf. Ar gyfer rhai eraill, bydd asesiadau digidol yn unig yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach. Bydd asesiad digidol yn cael ei gynnwys mewn un pwnc yn haf 2026.

Asesiadau di-arholiad

Mae rhai o’r Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 yn cynnwys defnydd ehangach o asesiadau di-arholiad. Mae asesiadau di-arholiad yn cynnwys ystod o weithgareddau asesu, megis asesiadau llafar, gwaith maes, gwaith portffolio ac asesiadau ymarferol.

Cyn cyhoeddi ein meini prawf cymeradwyo cyffredinol ar gyfer y cymwysterau TGAU Cenedlaethol newydd, fe wnaethon ni gynnal ymchwil helaeth gyda dysgwyr ac athrawon ynghylch eu canfyddiadau a’u profiad o asesiadau di-arholiad o fewn y cymwysterau TGAU presennol.

Nododd yr ymchwil hon lawer o fanteision i asesiadau di-arholiad. Y tair mantais y sonwyd amdanyn nhw amlaf oedd bod tasgau asesiadau di-arholiad:
• yn ffordd fwy dilys o asesu rhai agweddau ar bwnc nag arholiad ysgrifenedig wedi ei amseru
• yn fwy gafaelgar ac ysgogol nag arholiadau i rai dysgwyr 
• yn cynnig ffordd wahanol i ddysgwyr ddangos tystiolaeth o’r hyn maen nhw’n ei wybod, yn ei ddeall ac yn gallu ei wneud mewn pwnc o’i gymharu ag arholiad wedi ei amseru
Mae natur unedol Cymwysterau Cenedlaethol – gydag arholiadau neu asesiadau ar ddiwedd pob uned – yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i ganolfannau o ran pryd maen nhw’n cynnal asesiadau di-arholiad. 

Mae hyn yn caniatáu iddyn nhw reoli’r llwyth asesu ar ddysgwyr a’r llwyth gwaith ar gyfer athrawon lle mae’r asesiad di-arholiad yn cael ei asesu gan y ganolfan.

Mae hefyd yn meithrin rhywfaint o wydnwch o fewn y system gymwysterau. Er enghraifft, efallai bydd rhywfaint o dystiolaeth asesu ar gael pe bai digwyddiad cenedlaethol arall fel pandemig COVID-19.

Mae Cymwysterau Cymru yn deall bod rhai athrawon pwnc yn poeni am y llwyth gwaith sy’n gysylltiedig ag asesiadau di-arholiad a goblygiadau ymarferol asesu digidol cynyddol. Rydyn ni’n awyddus i barhau i weithio gyda CBAC i weld sut mae modd symleiddio gweinyddu’r asesiadau hyn, a hefyd parhau i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i drafod llwyth gwaith athrawon.

Ymchwil ffiniau gradd

Ein safbwynt polisi yw y bydd safonau yn y cymwysterau TGAU Cenedlaethol newydd yn weddol debyg i gyfres bresennol y cymwysterau. Yn 2024, cyhoeddwyd adroddiad gan Ganolfan Asesu Addysgol Prifysgol Rhydychen (OUCEA) ar sut mae ffiniau graddau TGAU yng Nghymru yn cael eu gosod, gan ddefnyddio dull cyfeirio at gyrhaeddiad.

Mae cyfeirio at gyrhaeddiad yn cyfuno tystiolaeth ystadegol â barn arbenigol ar sgriptiau arholiadau i bennu ffiniau graddau, a byddwn ni’n parhau i ddefnyddio’r dull hwn ar gyfer y cymwysterau TGAU Cenedlaethol newydd sy’n cael eu cyflwyno o fis Medi 2025.

Ym mis Mai 2025, cyhoeddwyd ail adroddiad OUCEA yn archwilio sut y gellid ymchwilio i gyfeirio at feini prawf ar gyfer cymwysterau TGAU. Mae cyfeirio at feini prawf yn dibynnu ar farn arbenigol yn erbyn meini prawf ysgrifenedig, gan ei wneud yn broses fwy ansoddol na chyfeirio at gyrhaeddiad. 
Er nad oes bwriad cyfredol i fabwysiadu’r dull hwn ar gyfer graddio cymwysterau TGAU, fe’i defnyddir mewn rhai cymwysterau eraill sy’n seiliedig ar gymhwysedd ac mae’n parhau i fod yn bwnc o ddiddordeb.

Mae’r ymchwil yn tynnu sylw at y ffaith y byddai symud i gyfeirio at feini prawf yn gymhleth, gan olygu bod angen penderfyniadau ar strwythurau graddau, manylion meini prawf, prosesau barnu, sicrhau ansawdd, a rôl tystiolaeth ystadegol. Byddai newid o’r fath yn creu goblygiadau sylweddol i athrawon, safonau graddio, a swyddogaethau cymdeithasol cymwysterau, gan gynnwys dilyniant a thrawsnewidiadau yn y farchnad lafur.

Mae’r gwaith hwn yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn wybodus ac yn barod ar gyfer trafodaethau polisi yn y dyfodol, wrth barhau i gryfhau dulliau graddio sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru.

TGAU Hanes

Mae cymhwyster newydd TGAU Hanes yn canolbwyntio’n fwy ar hanes Cymru ac yn ehangu’r ystod o gyfnodau a phynciau hanesyddol a gwmpesir, gan gynnwys hanes o’r tu allan i Ewrop a Gogledd America. Mae manyleb y cymhwyster a’r meini prawf cymeradwyo cysylltiedig yn cyd-fynd â disgwyliadau’r Cwricwlwm, sydd wedi cael eu llywio gan fewnbwn helaeth randdeiliaid megis athrawon ac arbenigwyr pwnc.

Cyhoeddodd CBAC y manylebau ar gyfer TGAU Hanes ym mis Medi 2024, a rhanwyd deunyddiau asesu sampl ym mis Rhagfyr 2024. Yn dilyn hynny, cododd nifer o randdeiliaid bryderon gyda Cymwysterau Cymru, Llywodraeth Cymru a CBAC fod graddfa sylweddol y newid i’r cynnwys a’r llwyth gwaith cysylltiedig ar gyfer athrawon hanes yn fwy na phynciau eraill.

Ar ôl gwrando’n ofalus ar y safbwyntiau a fynegwyd, fe wnaethon ni dderbyn ar y cyd fod  angen mwy o amser i alluogi athrawon i ymgyfarwyddo â’r fanyleb newydd ac i adnoddau dysgu ategol fod ar gael. Bydd hyn hefyd yn helpu rheoli disgwyliadau rhanddeiliaid ac amddiffyn dysgwyr. Mae hyn yn golygu y bydd TGAU Hanes bellach yn dechrau cael ei addysgu ym mis Medi 2026 fel rhan o ail don y cymwysterau TGAU Cenedlaethol. Bydd y flwyddyn ychwanegol yn rhoi mwy o amser i athrawon ymgyfarwyddo â’r cynnwys a’r adnoddau newydd. Bydd cynnwys y cymhwyster 
hwn yn parhau fel y’i hamlinellwyd ym mis Medi 2024.

Mae manyleb gyfredol TGAU Hanes wedi cael ei hymestyn am flwyddyn ac mae’n cael ei dysgu i ddysgwyr Blwyddyn 10 a ddechreuodd astudio eu cymwysterau TGAU ym mis Medi 2025.

Iaith Arwyddion Prydain

Mae Cymwysterau Cymru yn cydnabod y bydd astudio Iaith Arwyddion Prydain 
(BSL) rhwng 14 a 16 oed yn rhoi sgìl bywyd pwysig i ddysgwyr, sy’n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr ac aelodau o’r gymuned Fyddar.

Mae Iaith Arwyddion Prydain yn rhan o’r Cwricwlwm ac yn ein gwaith datblygu ar gyfer y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 fe wnaethon ni ystyried cyflwyno cymhwyster TGAU gwneud-i-Gymru mewn Iaith Arwyddion Prydain. Fodd bynnag, ar ôl cynnal gwaith cwmpasu manwl, ac ystyried yn ofalus yr heriau parhaus, penderfynwyd ym mis Hydref 2024 atal datblygu’r cymhwyster TGAU hwn nes i ni allu sefydlu mwy o wybodaeth am faint o ddiddordeb fyddai’n debygol yn y cymhwyster a’r risgiau o ran ei gyflwyno. Rydyn ni’n gweithio’n agos 

gyda rhanddeiliaid i gael mwy o wybodaeth 
am yr heriau rydyn ni wedi eu rhagweld.

Rydyn ni hefyd yn parhau i fonitro datblygiad posibl TGAU mewn Iaith Arwyddion Prydain yn Lloegr y gallem ei ddynodi ar gyfer cyllid cyhoeddus yng Nghymru. Yn y cyfamser, bydd cyfle gan ddysgwyr i astudio Iaith Arwyddion Prydain fel rhan o gymhwyster newydd Sgiliau Bywyd. 

Bydd yr ystod o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr Byddar ar hyn o bryd, a gynigir gan y corff dyfarnu Signature, yn parhau i gael eu dynodi i’w defnyddio yng Nghymru – gan gynnwys y cymwysterau hynny sy’n debyg i’r TGAU o ran maint a lefel. Bydd hyn yn sicrhau bod yr ychydig ddysgwyr sy’n dewis astudio’r cymwysterau hyn bob blwyddyn yn gallu parhau i wneud hynny.

Dynodi cymwysterau 14-16

Mae cymwysterau o fewn y gyfres Cymwysterau Cenedlaethol wedi cael eu curadu’n ofalus yn dilyn ymgynghoriad helaeth gydag arweinwyr ysgolion, athrawon, arbenigwyr pwnc, dysgwyr, cyrff dyfarnu, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill.

Fodd bynnag, mae Cymwysterau Cymru yn cydnabod efallai fod angen, mewn rhai amgylchiadau penodol, i ddysgwyr yng Nghymru astudio cymwysterau nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yng nghyfres y Cymwysterau Cenedlaethol. Ym mis Tachwedd 2024, fe gadarnhaon ni ein dull o ddynodi cymwysterau i gyd-fynd â’r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 cymeradwy.

O dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, dydyn ni ddim yn gallu dynodi cymhwyster sydd yr un fath â chymhwyster cymeradwy, neu’n debyg iddo. Felly, rydyn ni wedi cynnal adolygiad o’r holl gymwysterau dynodedig (gan gynnwys cymwysterau TGAU 9-1 wedi eu dylunio ar gyfer Lloegr) sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd i weld a ydyn nhw’r un fath neu’n debyg i’r Cymwysterau Cenedlaethol 14–16.

Yn dilyn yr adolygiadau hyn, rydyn ni wedi rhesymoli’r cynnig o dros 800 o gymwysterau dynodedig cyfredol i lai na 70 o gymwysterau dynodedig o fis Medi 2027. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW), sy’n cynnwys manylion yr holl gymwysterau sydd wedi cael eu cymeradwyo neu eu dynodi i’w haddysgu i ddysgwyr o dan 19 oed yng Nghymru.

Mae ein dull yn sicrhau, lle bynnag y bo modd, bod cymwysterau dynodedig ar gyfer dysgwyr 14-16 oed yn bodloni ein tair egwyddor arweiniol:

• Dylai cymwysterau fod yn berthnasol i nodau a dibenion y Cwricwlwm newydd i Gymru a’u cefnogi.
• Dylai cymwysterau fod ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. 
• Dylai cymwysterau gyfrannu at gynnig cydlynol a chynhwysol. 

Gallwch chi ddarllen ein Hadroddiad Penderfyniadau Dynodi Cymwysterau 14-16, ynghyd â chrynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.

Er mwyn lleihau’r risg o ddileu unrhyw gymwysterau sy’n diwallu anghenion lleiafrif bach o ddysgwyr, rydyn ni wedi rhoi cyfle i gyrff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau nad ydyn nhw’r un fath ag un o’r Cymwysterau Cenedlaethol cymeradwy, neu’n debyg iddyn nhw, wneud cais am eithriad i’n hegwyddorion arweiniol ar y sail bod y cymhwyster yn gallu bodloni un maen prawf o gyfres gyfyngedig o feini prawf.

Y meini prawf eithrio hynny yw :
• lle byddai peidio â dynodi cymhwyster yn effeithio’n anghymesur ar ddysgwyr â nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
• bod cymwysterau ar lefel 3 neu uwch ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru yn gallu cael eu heithrio os oes galw profedig gan ddysgwyr cyn-16 yng Nghymru
• bod cymwysterau iaith ryngwladol TGAU yn gallu cael eu heithrio os nad yw’r iaith yn cael ei chynnig yn y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 cymeradwy
• bod cymwysterau cerddoriaeth raddedig yn gallu cael eu heithrio os nad ydyn nhw ar gael yn y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 cymeradwy
• bod cymwysterau technegol neu alwedigaethol a fwriadwyd ar gyfer dysgwyr 14-16 oed mewn colegau addysg bellach yn gallu cael eu heithrio

Adolygu cymwysterau UG a Safon Uwch

Yn sgil cyflwyno’r Cymwysterau Cenedlaethol 14-16, rydyn ni wedi amlinellu ein dull o adolygu’r cymwysterau UG a Safon Uwch cyfredol. Bydd cyfle gan ddysgwyr sy’n astudio cymwysterau cyn-16 newydd i ddewis symud ymlaen i gyrsiau UG a Safon Uwch o fis Medi 2027 ymlaen.

Rydyn ni wedi gofyn i CBAC gynnal adolygiad wedi ei dargedu o gymwysterau UG a Safon Uwch cymeradwy i nodi unrhyw anghysondebau neu fylchau yn y cymwysterau TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig. Lle bo’n briodol, bydd CBAC wedyn yn diwygio’r cymwysterau UG a Safon Uwch presennol.

O ystyried bod y gyfres bresennol o gymwysterau UG a Safon Uwch wedi cael eu cymeradwyo a’u cyflawni ers rhai blynyddoedd, mae hefyd yn amserol i CBAC ystyried a oes agweddau ar y cymwysterau hyn y dylid eu diweddaru fel eu bod yn parhau i fod yn addas at y diben.


Rydyn ni o’r farn bod dull wedi’i dargedu yn fwy priodol na rhaglen ddiwygio fwy sylweddol ar hyn o bryd. Bydd yn cefnogi hydrinedd i athrawon, canolfannau a CBAC ar adeg pan fyddan nhw’n paratoi ac yn rheoli gweithrediad y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16.

Os yw CBAC yn bwriadu newid ei gynnig presennol ar gyfer cymwysterau UG a Safon Uwch, byddwn ni’n gofyn iddo gyflwyno rhesymeg glir dros unrhyw benderfyniadau. Yna byddwn ni’n adolygu’r cyflwyniad ac yn ystyried effaith debygol unrhyw newidiadau posibl i’r cynnig presennol, cyn penderfynu ar y camau nesaf.

Bydd unrhyw fanylebau diwygiedig sy’n ymwneud â’r don gyntaf o gymwysterau TGAU newydd yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2026 – flwyddyn cyn iddyn nhw gael eu haddysgu am y tro cyntaf. Bydd unrhyw newidiadau a weithredir ar gyfer cymwysterau UG a Safon Uwch sy’n ymwneud ag ail don o gymwysterau TGAU yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2027.

Cymwysterau UG a Safon Uwch mewn Cymraeg

Wrth ystyried ein dull o adolygu cymwysterau UG a Safon Uwch, roedd hi’n amlwg y byddai angen llwybr ar wahân ar gyfer y cymwysterau UG a Safon Uwch cyfredol mewn Cymraeg (Cymraeg iaith gyntaf a Cymraeg ail iaith). Roedd hyn oherwydd amcanion polisi ehangach ar gyfer y Gymraeg a datblygiadau sy’n digwydd yn sgil Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 newydd.

Rydyn ni eisiau sicrhau bod y cymwysterau y mae dysgwyr yn eu hastudio yn y dyfodol yn cyd-fynd â nodau polisi ac yn cefnogi dysgwyr i ddod yn ddefnyddwyr hyderus o’r Gymraeg. Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd addysg ôl-orfodol, gan gynnwys cymwysterau UG a Safon Uwch, wrth gyfrannu at y nodau hyn.

O fis Medi 2025, mae pob canolfan ledled y wlad yn dilyn cymwysterau newydd Cymraeg 14-16. Mae TGAU Iaith a llenyddiaeth Gymraeg yn cael ei addysgu mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a TGAU Cymraeg Craidd yn cael ei ddilyn mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, gyda’r opsiwn bod rhai dysgwyr hefyd yn gallu astudio Lefel 2 Cymraeg Craidd Ychwanegol.

Am y rhesymau hyn, fe wnaethon ni ymrwymo i gynnal adolygiad mwy cynhwysfawr o gymwysterau UG a Safon Uwch mewn Cymraeg a Cymraeg Craidd, gyda’r bwriad o roi’r diwygiadau ar waith fel bod y cymwysterau newydd yn barod i’w haddysgu o fis Medi 2027. Bydd hyn yn sicrhau y bydd y cymwysterau UG a 
Safon Uwch newydd ar gael i’r garfan 
gyntaf o ddysgwyr sydd wedi astudio’r cymwysterau TGAU Cenedlaethol newydd mewn Cymraeg.

I gyrraedd y nodau hyn, fe wnaethon ni lansio ymgynghoriad llawn ar ofynion dylunio arfaethedig y cymwysterau newydd a chyhoeddi ein penderfyniadau ym mis Tachwedd 2025. Ein bwriad yw cymeradwyo’r cymwysterau newydd erbyn mis Medi 2026, fel y byddan nhw ar gael i ganolfannau flwyddyn cyn iddyn nhw gael eu haddysgu am y tro cyntaf yn 2027.

Adolygu cymwysterau galwedigaethol

Ym mis Medi 2023, cyhoeddwyd adroddiad terfynol yr Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol yng Nghymru, a gomisiynwyd yn annibynnol. Gweithredodd Cymwysterau Cymru fel cynghorwr annibynnol i’r grŵp llywio, a chroesawon ni gyhoeddiad yr adroddiad a’i argymhellion.

Ers hynny, rydyn ni wedi bod yn gweithio i fynd i’r afael â’r argymhellion hynny a oedd yn cyfeirio’n uniongyrchol at Cymwysterau Cymru, neu sy’n enwi Cymwysterau Cymru ynddyn nhw. Mae rhai o’r argymhellion eisoes wedi cael eu cyflawni. Bydd gwaith ar weithredu’r rhai eraill yn cael eu cyflwyno’n raddol dros gyfnod hirach, yn enwedig y rhai sy’n ddibynnol ar gydweithio â phartneriaid. Cyhoeddwyd adroddiad cynnydd ar ein camau gweithredu ym mis Tachwedd 2024.

Mae Cymwysterau Cymru bellach yn rhan o grŵp cyfeirio rhanddeiliaid newydd Llywodraeth Cymru sydd â’r dasg o siapio strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol newydd. Mae’r grŵp, sy’n cynnwys Medr, Estyn, ColegauCymru a Gyrfaoedd Cymru, eisoes wedi nodi materion strategol a thrawsbynciol allweddol.

Cymwysterau galwedigaethol ôl-16

Cymwysterau galwedigaethol yw mwyafrif y cymwysterau ôl-16 rheoleiddiedig sydd ar gael yng Nghymru ac maen nhw’n adlewyrchu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr. Er mwyn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr, darparwyr, canolfannau a chyrff cynrychioliadol mae gennym 13 o grŵpiau cymwysterau sector sefydledig. Mae’r grwpiau hyn yn cwmpasu ystod lawn o sectorau ac fe’u defnyddir i rannu gwybodaeth, nodi bylchau yn y ddarpariaeth a, lle bo’n briodol, datrys problemau.

Yn ystod y flwyddyn, cwblhawyd adolygiad o gymwysterau galwedigaethol ôl-16 mewn gwallt a harddwch. Mae hyn yn rhan o raglen o adolygiadau ffocws, sy’n cwmpasu ystod o sectorau galwedigaethol, sydd wedi eu cynllunio i nodi themâu allweddol a chryfhau’r ddarpariaeth i gefnogi dysgwyr, darparwyr a chyflogwyr. Roedd yr adolygiad yn cynnwys cyfweliadau manwl â darparwyr dysgu, cyflogwyr a chyrff proffesiynol – cynhaliwyd holiadur i ddysgwyr hefyd.

Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol Llwyddo mewn Steil ym mis Hydref 2025. Canfu fod yr ystod o gymwysterau ar lefelau 1, 2 a 3 yn gyffredinol ddigonol i ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr. Tynnodd sylw hefyd at rai meysydd sydd angen sylw – gan gynnwys datblygu sgiliau wrth drin gwallt gweadog a’r posibilrwydd o ddynodi cymwysterau esthetig lefel 4.

Fe wnaeth ein hadolygiad o gymwysterau lletygarwch ac arlwyo, a theithio a thwristiaeth nodi nifer o argymhellion, gan gynnwys sefydlu cyfres newydd symlach o gymwysterau gwneud-i-Gymru ar lefelau 1, 2 a 3 ar gyfer colegau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. 

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chyrff dyfarnu i sicrhau cyfres newydd o gymwysterau ym mhob un o’r sectorau hyn. Mae datblygu cymwysterau newydd gan gyrff dyfarnu yn mynd rhagddo’n dda, a bydd manylebau ar gael i ganolfannau yn hydref 2026 ar gyfer cynllunio a pharatoi, ar gyfer eu haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027.

Mae gan lawer o’r cymwysterau presennol ôl-16 lefel 2 a lefel 3 sy’n ymwneud â’r tir ddyddiadau gorffen i’w dynodi ym mis Awst 2027. Mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn gweithio gyda sawl corff dyfarnu i sicrhau cyfres o gymwysterau galwedigaethol ôl-16 dynodedig sy’n ymwneud â’r tir i’w defnyddio mewn colegau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Bydd y rhan fwyaf o’r cymwysterau newydd hyn ar gael o fis Medi 2026, gydag ychydig mwy yn lansio ym mis Medi 2027.

Parhaon ni i ymgysylltu’n agos â darparwyr dysgu sy’n cynnig y cymwysterau gwneud-i-Gymru mewn adeiladu a gwasanaethau adeiladu. Ar ddechrau 2025, gofynnwyd i ddarparwyr fyfyrio ar eu profiadau hyd yn hyn o’r cymwysterau lefel 3 newydd, a fe wnaethon ni nodi ystod o gamau y gellid eu cymryd i gefnogi darparwyr dysgu ymhellach. Mae camau gweithredu bellach yn cael eu datblygu gan Cymwysterau Cymru, EAL, City & Guilds a Medr, ac rydyn ni’n cydlynu diweddariadau rheolaidd i ddarparwyr dysgu.

Fe wnaethon ni hefyd gydweithio â phartneriaid yn Llywodraeth Cymru a Medr i ystyried yr ystod o lwybrau sydd ar gael i ddysgwyr seiliedig ar waith yn y gyfres genedlaethol o gymwysterau adeiladu a gwasanaethau adeiladu, ac i archwilio cyfleoedd posibl i wella cynhwysiant y llwybrau hyn, sydd wedi llywio ein gwaith parhaus.

Sgiliau Hanfodol Cymru

Mae cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos y sgiliau cyffredinol sydd eu hangen i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd dewisol. Maen nhw’n cwmpasu meysydd cymhwyso rhif, cyfathrebu, llythrennedd digidol a chyflogadwyedd, ac wedi cael eu cynllunio i’w defnyddio mewn cyrsiau ôl-16 mewn addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, a dysgu cymunedol oedolion.

Ar ddechrau blwyddyn academaidd 2024-25, cyhoeddon ni y byddai cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu diwygio. Dilynodd hyn adolygiad dwy flynedd manwl lle buon ni’n ymgynghori â dysgwyr, cyflogwyr, a darparwyr dysgu.

Mae’r diwygiadau’n digwydd mewn tri o’r pedwar maes pwnc:
• cymhwyso rhif
• llythrennedd digidol
• cyfathrebu

Ers cyhoeddi ein bwriad i ddiwygio, rydyn ni wedi ymgysylltu â phartneriaid ar gynigion sy’n ymwneud â:
• phwrpas a nodau’r cymwysterau
• cynnwys (gwybodaeth a sgiliau)
• dull asesu
• teitlau’r cymwysterau

Wedi hynny, fe lansion ni ymgynghoriad ar ofynion dylunio ar gyfer y cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru newydd ym mis Tachwedd 2025. Yn dilyn hyn, bydd y cymwysterau newydd ar gael i’w defnyddio mewn canolfannau o fis Medi 2028.

“Roedden ni wir yn teimlo bod ein hadborth yn bwysig, ac rydyn ni’n gyffrous i fod yn rhan o beth sy’n dod nesaf”

Tracey Spiller, ACT

 

 

Strategaeth y Gymraeg

Lansiwyd ein Strategaeth y Gymraeg 2025–2030 newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym mis Awst 2025, gan gyrraedd carreg filltir sylweddol yn ein hymrwymiad i ymgorffori’r Gymraeg a dwyieithrwydd wrth wraidd y system gymwysterau. Mae’r strategaeth yn dwyn ynghyd ein holl uchelgeisiau sy’n gysylltiedig â’r iaith Gymraeg o dan un fframwaith cydlynol.

Wrth ddatblygu’r strategaeth hon, ymgysylltodd ein gweithgor Cymraeg gydag ystod o bartneriaid, gan gynnal sgyrsiau pwysig i sicrhau bod hon yn strategaeth fyw sy’n adlewyrchu ein hamcanion a’n hymrwymiadau cyffredin i’r Gymraeg. Fe wnaethon ni hefyd ymgysylltu â’n staff ein hunain, gan wneud yn siŵr eu bod nhw’n deall eu rôl wrth gyflawni amcanion y strategaeth.

Yn ei hanfod, mae gan ein Strategaeth y Gymraeg bum piler strategol:
• diwygio a rheoleiddio cymwysterau cyfrwng Cymraeg
• ymgorffori’r Gymraeg wrth gyfathrebu ac ymgysylltu
• integreiddio’r Gymraeg i ddiwylliant a gweithrediadau sefydliadol
• defnyddio ymchwil, data a thechnoleg i gefnogi’r iaith
• monitro a gwerthuso cynnydd gyda thryloywder ac atebolrwydd

Mae’n datblygu ar waith y strategaeth flaenorol Dewis i Bawb ac yn adlewyrchu rôl esblygol y sefydliad fel rheoleiddiwr a diwygiwr cymwysterau mewn cenedl ddwyieithog. 

Rydyn ni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth strategol gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y tair blynedd diwethaf. Nod ein partneriaeth fu cyd-fynd â datblygiad darpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ochr yn ochr â chymwysterau dwyieithog addas ar gyfer dysgwyr sy’n astudio’r cyrsiau hynny.

Rydyn ni’n parhau i wneud cynnydd sylweddol gyda’n dull o ddarparu cymorth wedi ei dargedu drwy’r grant cyfrwng Cymraeg. Yn y flwyddyn ariannol 2024-25, dyfarnwyd £200,486 o gyllid grant i gefnogi naw corff dyfarnu i wneud mwy na 110 o gymwysterau ar gael yn y Gymraeg ar draws ystod o sectorau. 

Rydyn ni hefyd yn parhau i gefnogi Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu i hyrwyddo cronfa ddata o aseswyr sy’n siarad Cymraeg. Nod y fenter hon yw cefnogi cyrff dyfarnu trwy ddod o hyd i ymarferwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn hyderus ac sydd â diddordeb mewn ymgymryd â rolau asesu cyflogedig.

“Rydym yn falch … fod Cymwysterau Cymru yn awyddus i arwain drwy esiampl ac edrychwn ymlaen at weld hyn yn cael ei wireddu a’i gyflawni yn ystod y blynyddoedd a gwmpesir gan y strategaeth newydd.”

Undeb athrawon UCAC

Darllenwch ran nesaf yr adroddiad