Fel y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru, rydyn ni yma i gynnal hyder bod cymwysterau'n deg, yn ddibynadwy ac yn werthfawr.
Dydyn ni ddim yn gosod na marcio papurau arholiad nac yn penderfynu ar ffiniau gradd nac yn cyhoeddi canlyniadau. Cyrff dyfarnu, fel Agored, AQA, City and Guilds, Pearson Edexcel, VTCT neu CBAC sy’n gwneud y pethau hynny. Ein rôl ni yw gosod gofynion a monitro'r broses gyfan yn agos, gan helpu i gynnal hyder yn y system gymwysterau yng Nghymru.