Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: Haf 2025

YSTADEGAU

Dyddiad rhyddhau:

25.09.25

Cyfnod dan sylw:

Cyfres haf 2025

Diweddariad nesaf:

Medi 2026 (Dros Dro)

DYSGWYR
ADDYSGWYR
CYRFF DYFARNU
RHANDDEILIAID
CYFLOGWYR
CANOLFANNAU

Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: Haf 2025

Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno ystadegau ar y newidiadau yn y canlyniadau TGAU, UG a safon uwch cyffredinol a welwyd gan ysgolion a gynhelir.

Pwyntiau Allweddol

Yn haf 2025, cynyddodd canlyniadau ysgolion ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch ar gyfartaledd o'i gymharu â 2024. Mae hyn yn gyson â newidiadau mewn canlyniadau cenedlaethol. Fodd bynnag, gwelodd rhai ysgolion ostyngiad mewn canlyniadau o'i gymharu â 2024 ac roedd amrywiad sylweddol mewn newidiadau ar draws ysgolion.

Ar draws TGAU, UG a Safon Uwch, roedd ysgolion a welodd ostyngiad mwy yn 2024 yn tueddu i weld cynnydd yn 2025, ac i'r gwrthwyneb. Roedd cryfder y patrwm hwn yn gymedrol ar gyfer pob math o gymhwyster.

Ar gyfer TGAU, roedd y cydberthyniad rhwng newidiadau yng nghanlyniadau ysgolion yn 2025 o'i gymharu â'r newidiadau yn 2024 yn amrywio rhwng -0.33 a -0.45.  Ar lefel UG roedd y cydberthyniad yn amrywio rhwng -0.33 a -0.46 tra bod y cydberthyniad ar gyfer Safon Uwch yn amrywio rhwng -0.44 a -0.56.

Mae rhai o'r ystadegau yn y datganiad hwn yn cael eu cyflwyno fel plotiau blwch. Mae rhagor o wybodaeth am sut i ddehongli'r siartiau hyn i'w chael yn y nodiadau cefndir ar gyfer y datganiad hwn. Gellir dod o hyd i'r data sylfaenol ar gyfer pob plot blwch yn y tablau data a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r datganiad hwn.

Datganiadau blaenorol
Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: 2024 | Cymwysterau Cymru

Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: 2023 | Cymwysterau Cymru

Amrywiad yng nghanlyniadau cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch: 2022 | Cymwysterau Cymru

Cysylltu
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysterau.cymru

Ymholiadau gan y cyfryngau
Ffôn: 01633 373 222
E-bost: cyfryngau@cymwysterau.cymru