Cymwysterau yng Nghymru

Cymwysterau cyn 16

Cymwysterau cyn 16 yw'r rhai a gymerir fel arfer gan ddysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11. Mae tri math gwahanol o gymwysterau ar gael. Cymwysterau cyffredinol (TGAU a chymwysterau Sylfaen), cymwysterau galwedigaethol (TAAU a chymwysterau Sylfaen cysylltiedig â gwaith), a chymwysterau sgiliau gan gynnwys Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith a'r Project Personol.


Cymwysterau ôl-16

Cymwysterau ôl-16 yw'r rhai a gymerir gan ddysgwyr yn y chweched dosbarth, coleg neu unrhyw leoliad addysg bellach neu leoliad dysgu seiliedig ar waith. Mae'r rhain hefyd yn cynnwys cymwysterau cyffredinol, galwedigaethol a sgiliau.


Diwygio cymwysterau

Ein nod yw llunio cymwysterau sydd wirioneddol wedi’u gwneud-i-Gymru sydd wedi'u cynllunio i fodloni anghenion penodol ein dysgwyr a'n heconomi ni.