Cymwysterau Sylfaen

Mae cymwysterau Sylfaen yn rhan annatod o'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol, gan gynyddu dewis a hyblygrwydd i bobl ifanc 14 i 16 oed yng Nghymru.

Byddan nhw’n cael eu haddysgu am y tro cyntaf mewn ysgolion a cholegau o fis Medi 2027.

Ar gael mewn amrywiaeth o bynciau cyffredinol a phynciau cysylltiedig â gwaith, mae cymwysterau Sylfaen yn adeiladu ar y dysgu a'r profiadau a gyflawnwyd o dan y Cwricwlwm i Gymru. Maen nhw wedi'u dylunio ar gyfer y rhai nad ydyn nhw efallai’n teimlo'n barod ar gyfer astudio TGAU a TAAU.  

Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu cyflwyno gan un neu fwy o'r cyrff dyfarnu canlynol, yn amodol ar gymeradwyaeth manyleb:

  • Agored Cymru
  • Open Awards
  • TLM
  • VTCT Skills
  • CBAC

 

Pa bynciau Sylfaen fydd ar gael yng Nghymru?

Mae’r gyfres yn cynnwys naw pwnc cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r meysydd dysgu a phrofiad sy’n rhan o’r Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â 15 pwnc cysylltiedig â gwaith. 

Gall dysgwyr gymryd cyfuniad o gymwysterau Sylfaen cyffredinol a chysylltiedig â gwaith, a gallan nhw hefyd gymryd y cymwysterau hyn ochr yn ochr â TGAU, TAAU a'r Gyfres Sgiliau. 

Gallwch chi gael gafael ar fanylebau cyrff dyfarnu isod (bydd dolenni’n cael eu hychwanegu cyn gynted ag y bydd manylebau ar gael).

Athro yn eistedd wrth ddesg, yn darlunio gyda dau ddysgwr mewn gwisg ysgol

Pynciau cyffredinol

Pynciau cysylltiedig â gwaith

⁺Mae'r cymwysterau hyn yn dal i gael eu datblygu.

Cymwysterau eraill

Gan fod y gwaith o ddatblygu cymwysterau Sylfaen mewn rhai pynciau yn parhau, bydd nifer cyfyngedig o gymwysterau presennol yn parhau i fod ar gael i ddysgwyr cyn-16 yn ystod y cyfnod dros dro hwn. Dyma nhw:  

  • C00/0679/9 Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 mewn Adfer Afonydd
  • C00/0680/0 Agored Cymru Tystysgrif Lefel 1 mewn Adfer Afonydd

  • C00/0851/2 City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth
  • C00/0851/7 City & Guilds Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth
  • C00/3906/0 City & Guilds Dyfarniad Lefel 1 mewn Astudiaethau Tir 
  • C00/3927/4 City & Guilds Tystysgrif Lefel 1 mewn Astudiaethau Tir 
  • C00/3927/5 City & Guilds Diploma Lefel 1 mewn Astudiaethau Tir 
  • C00/0495/7 City & Guilds Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol
  • C00/0495/8 City & Guilds Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol

  • C00/5223/1 Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Gallu Ariannol a Datblygu Gyrfaoedd
  • Pearson BTEC Dyfarniad Cyntaf Lefel 1/Lefel 2 mewn Busnes 
  • C00/0505/3 Pearson BTEC Tystysgrif Gyntaf Lefel 1/Lefel 2 mewn Busnes 
  • C00/0505/4 Pearson BTEC Tystysgrif Estynedig Cyntaf Lefel 1/Lefel 2 mewn Busnes 
  • C00/0578/0 Pearson BTEC Diploma Cyntaf Lefel 1/Lefel 2 mewn Busnes 
  • C00/0786/7 Pearson BTEC Tystysgrif Ragarweiniol Lefel 1 mewn Busnes 
  • C00/0786/8 Pearson BTEC Diploma Rhagarweiniol Lefel 1 mewn Busnes 
  • C00/5008/9 TLM Tystysgrif Lefel 2 mewn Sylfeini Ariannol ar gyfer Llwyddiant mewn Bywyd a Gyrfa 

  • C00/0195/3 City & Guilds Diploma Lefel Mynediad mewn Cynnal a Chadw Systemau Cerbydau (Mynediad 3) 
  • C00/0199/6 City & Guilds Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw Systemau Cerbydau 
  • C00/0282/5 City & Guilds Tystysgrif Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw Systemau Cerbydau
  • C00/0282/6 City & Guilds Dyfarniad Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw Systemau Cerbydau 
  • C00/0432/4 Pearson BTEC Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Technoleg Cerbydau 
  • C00/0122/8 SEG Awards Tystysgrif Lefel 1 mewn Astudiaethau Cerbydau Modur

  • C00/0283/2 City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid 
  • C00/0283/3 City & Guilds Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid 

 

Gall athrawon gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cymwysterau sydd ar gael bob blwyddyn academaidd ar gyfer dysgwyr cyn-16 ar Cymwysterau yng Nghymru.

Gall manylion ynghylch argaeledd cymwysterau newid dros amser. Cynghorir ysgolion yn gryf i wirio statws cymwysterau ar gyfer dysgwyr cyn-16 drwy safle Cymwysterau yng Nghymru wrth gynllunio eu cwricwlwm.

Beth yw prif fanteision y cymwysterau Sylfaen?


Yn ogystal â rhoi cefndir cadarn i ddysgwyr mewn amrywiaeth o bynciau cyffredinol a phynciau cysylltiedig â gwaith, mae cymwysterau Sylfaen: 

  • ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • yn bodloni nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru
  • yn hyrwyddo profiadau dysgu cadarnhaol
  • yn adlewyrchu amrywiaeth y dysgwyr a'r byd maen nhw'n byw ynddo
  • yn cefnogi iechyd meddwl a lles cadarnhaol
  • yn cynnig amrywiaeth o fathau o asesiadau
  • yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen i hyfforddiant neu ddysgu ôl-16 a, lle bo'n briodol, TGAU a TAAU
  • i gael eu cyflwyno o fewn yr adnoddau rhesymol sydd ar gael i ysgolion (ond heb fod yn gyfyngedig i ysgolion)
  • â system raddio gyson

Strwythur graddio Sylfaen

Y strwythur graddio ar gyfer cymwysterau Sylfaen yw:

  • Lefel 1: Llwyddo
  • Lefel Mynediad 3: Llwyddo
  • Lefel Mynediad 2: Llwyddo
  • Lefel Mynediad 1: Llwyddo

Yr eithriad i hyn yw’r graddio ar gyfer Cymraeg Sylfaen a Cymraeg Craidd Sylfaen, sydd ar gael ar lefel mynediad ond nid lefel 1.

Llwybrau cynnydd o astudiaeth Sylfaen

Bydd cymwysterau Sylfaen yn cael eu cydnabod yn eu rhinwedd eu hunain, a gall rhai dysgwyr ddewis astudio pynciau Sylfaen ochr yn ochr â’u TGAU a/neu TAAU ar lefel 1 a lefel 2.

Gall eraill, nad ydyn nhw efallai’n teimlo’n barod i astudio TGAU a TAAU, ddewis astudio cymwysterau Sylfaen i ddechrau a symud ymlaen i hyfforddiant neu ddysgu ôl-16. Efallai y bydd rhai yn dewis symud ymlaen yn syth i gyflogaeth.

Cymorth ac adnoddau

Mae deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael gan bob corff dyfarnu sy'n darparu cymwysterau Sylfaen. 

Bydd cyrff dyfarnu yn aml yn darparu adnoddau ac arweiniad ychwanegol, megis cynlluniau gwaith a thaflenni gwaith, ac efallai y bydd ganddyn nhw hefyd ddysgu proffesiynol wyneb yn wyneb ac ar-lein ar gael ar gyfer athrawon. 

Bydd adnoddau a hyfforddiant ychwanegol ar gael gan Adnodd a Dysgu maes o law.

Gwefan Adnodd
Gwefan Dysgu

Brwshys paent a phaent wedi'u gosod yn barod ar gyfer addurno globau papier mâché

 

 

Dysgwch fwy am y Cymwysterau Cenedlaethol yma

 

Mae'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol hefyd yn cynnwys cymwysterau TGAU, TAAU a'r Gyfres Sgiliau, y mae modd eu hastudio ochr yn ochr â chymwysterau Sylfaen. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynnig llawn o gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed ar y dudalen Cymwysterau Cenedlaethol. 

Gallwch hefyd ddarllen am yr holl ymchwil, ymgynghoriadau a phenderfyniadau yn ymwneud â'r Cymwysterau Cenedlaethol yn llinell amser ein project.