Cyflwyniad
Mae Cymru yn genedl ddwyieithog a rydym yn falch o fod yn sefydliad sy’n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050 i gyrraedd miliwn o siaradwyr. I sicrhau bod dysgwyr yng Nghymru yn gallu sefyll arholiadau yn eu dewis iaith, rydym ni’n ymrwymedig i gynyddu ystod y cymwysterau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.
Dewis i Bawb
Gyda addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu o hyd, mae’n debygol y bydd nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg yn cynyddu i 70% erbyn 2050.
Mae ein strategaeth Dewis i Bawb yn nodi ein hymrwymiad i weithio gyda chyrff dyfarnu a phartneriaid eraill i gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar bedwar maes strategol:
Argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg ar QiW
Fel rhan o’n hymrwymiad i hyrwyddo ac i hwyluso’r defnydd o Gymraeg, rydym yn gofyn i gyrff dyfarnu ddarparu gwybodaeth am argaeledd cymwysterau, boed hynny’n rhannol neu’n gyfan gwbl trwy’r Gymraeg. Mae’r wybodaeth hon ar gael drwy ein cronfa ddata QiW.
Ers 1 Medi 2024, rydym ni’n gofyn i gyrff dyfarnu ddarparu rhagor o wybodaeth am y deunyddiau sydd ar gael yn Gymraeg i ddysgwyr lle mae cymhwyster wedi’i gofrestru ar QiW fel bod ar gael yn rhannol yn Gymraeg. Mae hyn yn helpu canolfannau i ddeall yn well pa agweddau ar gymhwyster sydd ar gael yn Gymraeg cyn cofrestru dysgwyr.
Gwaith targedu
Rhan graidd o’n strategaeth Dewis i Bawb yw ein gwaith targedu i gynyddu cymwysterau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr ôl-16 sydd ar gael. Trwy’r gwaith yma, mae gennym gyfle i greu effaith gadarnhaol ar ehangu dewis dysgwyr.
Mewn ymateb i adolygiad annibynnol Llywodraeth Cymru o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, rydym wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd ar ein dulliau i gynyddu argaeledd cymwysterau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg.
Rydym hefyd wedi nodi ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol wrth inni fynd ati i gyhoeddi ein strategaeth iaith Gymraeg newydd i ddisodli Dewis i Bawb yn 2025.
Cynnig Cymraeg
Fel rhan o’n gwaith i gryfhau’r cymorth i gyrff dyfarnu ac i wella’r wybodaeth sydd ar gael i ddysgwyr, ysgolion a cholegau am argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg, rydym wedi cynhyrchu pecyn o adnoddau rhyngweithiol i gefnogi’r holl gyrff dyfarnu i ddarparu’r Cynnig Cymraeg mewn modd rhagweithiol.
Mae’r pecyn yn annog cyrff dyfarnu i ddarparu gwybodaeth benodol i ddysgwyr am gymwysterau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac i hyrwyddo a hysbysebu cymwysterau cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr Cymru.
Grant cymorth i’r Gymraeg
Rydym hefyd yn cefnogi cyrff dyfarnu trwy gynnig grantiau i’w helpu i gynyddu nifer y cymwysterau ac asesiadau sydd ar gael yn Gymraeg.
Gall cyrff dyfarnu cydnabyddedig wneud cais i ni am gefnogaeth ariannol i helpu gyda chostau gwneud cymwysterau rheoleiddiedig ar gael i ddysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.
Aseswyr Cymraeg
Rydym hefyd yn cydnabod bod penodi a hyfforddi aseswyr Cymraeg o ansawdd uchel yn allweddol i sicrhau y gall cymwysterau dilys a dibynadwy gael eu dyfarnu i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg.
Dyma pam rydym yn cefnogi Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB) gyda’u gwaith o greu cronfa ddata o aseswyr Cymraeg.
Os ydych chi’n ymarferydd sydd â sgiliau Cymraeg hyderus a diddordeb mewn ymgymryd â rôl daledig fel aseswr Cymraeg, gallwch ymuno â’r gronfa ddata.
Os ydych chi’n gorff dyfarnu sy’n chwilio am aseswyr Cymraeg i’w penodi i rolau o fewn eich sefydliad, gallwch gysylltu â FAB.
Gofynion rheoleiddio
Mae Amod D9 o'n Hamodau Cydnabod Safonol yn amlinellu ein Hamodau a'n gofynion ar gyfer cyrff dyfarnu cydnabyddedig ynghylch cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Yn benodol, mae gofyn i gyrff dyfarnu:
- sicrhau bod cymwysterau Cymeradwy ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- sicrhau bod cymwysterau Dynodedig i ddysgwyr cyn-16 ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, yn unol â'n Polisi Dynodi, o fis Medi 2027 (neu unrhyw ddyddiad a gaiff ei osod gennym ni)
- cyhoeddi datganiad polisi sy'n nodi i ba raddau maen nhw’n sicrhau bod cymwysterau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- hyrwyddo argaeledd unrhyw gymwysterau cyfrwng Cymraeg y maen nhw’n eu cynnig a hwyluso mynediad i’r cymwysterau hyn.
I gefnogi cydymffurfiaeth â’r gofynion rheoleiddiol hyn, rydym wedi cyhoeddi Canllawiau i gyrff dyfarnu ar Amod D9: Cymwysterau cyfrwng Cymraeg.
Grwpiau ymgynghori
I gefnogi ein gwaith mewn perthynas â’r Gymraeg a chymwysterau cyfrwng Cymraeg, rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd â’n Grŵp Rhanddeiliaid Cymraeg. Pwrpas y grŵp hwn yw gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’, trwy ddarparu cyngor a chymorth ar ein gwaith. Rydym hefyd yn rhannu diweddariadau perthnasol gyda’r grŵp hwn ac yn ceisio eu hadborth lle bo’n briodol.
Rydym hefyd yn cynnal ein Grŵp Cefnogi Cyrff Dyfarnu gyda’r Gymraeg. Pwrpas y grŵp hwn yw cefnogi cyrff dyfarnu gyda datblygu, darparu a dyfarnu cymwysterau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Os ydych chi’n gorff dyfarnu â diddordeb mewn ymuno, cysylltwch â: grwpcymorthcymraeg@cymwysterau.cymru