Yn yr adran hon...
Ein rôl ni
Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio pob cymhwyster, oni bai am raddau, yng Nghymru.
Rydyn ni’n sicrhau bod cymwysterau:
- yn diwallu anghenion dysgwyr
- o ansawdd uchel
- yn cael eu dyfarnu'n deg
- yn cael eu parchu gan ysgolion, colegau, prifysgolion a chyflogwyr
Rydyn ni’n rheoleiddio'r cyrff dyfarnu sy'n dylunio ac yn darparu cymwysterau megis:
- TGAU
- UG a Safon Uwch
- cymwysterau galwedigaethol
- y Dystysgrif Her Sgiliau
- Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
- cymwysterau sylfaen
- TAAU
- y Gyfres Sgiliau
Mae dysgwyr wrth galon popeth rydyn ni'n ei wneud - rydyn ni eisiau iddyn nhw fod yn hyderus bod eu cymwysterau'n cael eu dyfarnu'n deg ac eisiau rhoi iddyn nhw gofnod gwerthfawr o'u gwybodaeth a'u sgiliau.
Diwygio cymwysterau
Yn ogystal â rheoleiddio cymwysterau, rydyn ni hefyd yn dylunio llawer o'r cymwysterau sy’n cael eu hastudio yng Nghymru.
Mae cymwysterau ar gyfer dysgwyr 14–16 oed yn newid i adlewyrchu’r Cwricwlwm i Gymru. Mae Cymwysterau Cenedlaethol newydd yn cael eu cyflwyno mewn camau:
- O fis Medi 2025 – cymwysterau TGAU newydd yn dechrau cael eu haddysgu am y tro cyntaf.
- O fis Medi 2026 – cyflwyno mwy o gymwysterau TGAU newydd.
- O fis Medi 2027 – cyflwyno cymwysterau TAAU newydd, cymwysterau sylfaen newydd a’r Gyfres Sgiliau newydd yn cael eu cyflwyno.
Y nod yw cynnig cymwysterau sy'n cyd-fynd â'r hyn mae pobl ifanc yn ei ddysgu a’u cefnogi yn eu camau nesaf.
Arholiadau ac asesiadau
Mae ein hadran Arholiadau ac Asesiadau yn esbonio'r holl drefniadau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, gan gynnwys dyddiadau allweddol a chanllawiau.
Canllaw i arholiadau ac asesiadau
Mae ein canllaw i arholiadau ac asesiadau yn esbonio sut mae cymwysterau'n cael eu hasesu, sut mae graddau’n cael eu gosod, yn nodi dyddiadau pwysig, ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth i ddysgwyr.
Mae cyngor ar adolygu a llesiant hefyd ar gael ar hwb Lefel Nesa.
Arholiadau 360
Dysga sut mae'r system arholiadau'n gweithio, gan gynnwys pwy sy'n paratoi papurau arholiad a sut mae ffiniau graddau'n cael eu gosod: Arholiadau 360
Canlyniadau haf 2025
Cer i adran canlyniadau haf 2025 i ddysgu am ganlyniadau'r llynedd.
Cymryd rhan
Llysgenhadon dysgwyr
Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda dysgwyr i helpu siapio’r system gymwysterau. Yn 2021, fe wnaethon ni sefydlu ein panel cyntaf ar gyfer llysgenhadon dysgwyr i glywed eu barn nhw a chynnwys ei safbwyntiau yn ein gwaith.
Mae llysgenhadon dysgwyr yn:
- rhannu eu profiadau
- ein helpu ni i ddeall beth maen nhw ei angen gennyn ni a'r sector addysg ehangach
- ein helpu ni i wella cymwysterau
- ennill sgiliau a hyder ar gyfer eu camau nesaf
Dysga fwy am sut gelli di ymuno â'n panel dysgwyr.
Fforwm i rieni a gofalwyr
Rydyn ni eisiau clywed gan rieni a gofalwyr o bob cwr o Gymru, i ddeall eu profiad nhw o gymwysterau. Mae ein fforwm i rieni a gofalwyr yn cynnig cyfleoedd i rannu eich barn ar y canlynol:
- cymwysterau newydd
- dewisiadau o ran cymwysterau
- lles disgyblion
- anghenion dysgu ychwanegol
- arholiadau ac asesiadau
Dysgwch fwy a chofrestrwch eich diddordeb mewn ymuno â'n fforwm i Rieni a Gofalwyr.
Cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru
Cymwysterau ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed
Mae Cymwysterau Cenedlaethol newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed rhwng Medi 2025 a Medi 2027. Mae Cymwysterau Cenedlaethol yn cynnwys:
Cymwysterau ar gyfer dysgwyr ôl-16
- UG a Safon Uwch
- Cymwysterau galwedigaethol ôl-16
- Sgiliau Hanfodol Cymru
- Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Lefelau cymwysterau
Mae'r rhan fwyaf o gymwysterau yn y DU yn ffitio i naw lefel (12 yn yr Alban). Po uchaf yw'r lefel, y mwyaf datblygedig yw'r cymhwyster. Gall dau gymhwyster ar yr un lefel amrywio o ran maint a chynnwys.
Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru yn esbonio sut mae cymwysterau'n cyd-fynd â'i gilydd.
Teithiau Dysgwyr
Os wyt ti'n ystyried pa gymwysterau rwyt ti eisiau eu hastudio mewn maes penodol, neu'n cefnogi rhywun sydd, mae teithiau dysgwyr yma i helpu.
Dogfennau un dudalen ydyn nhw sy'n dangos yr holl wahanol opsiynau a llwybrau cymhwyso sydd ar gael ym mhob sector. Maen nhw ar gael i gefnogi dysgwyr a rhieni wrth iddyn nhw edrych ar y dewisiadau sydd ar gael mewn maes galwedigaethol.
