Cyflwyniad
Mae ein Llysgenhadon Dysgwyr yn griw ysbrydoledig o bobl a chanddynt ystod amrywiol ac eang o brofiadau.
Maent yn ein helpu i siapio cymwysterau a system gymwysterau Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer heddiw a'r dyfodol, ac maent yn sicrhau y caiff lleisiau dysgwyr eu cynnwys ym mhob agwedd ar ein gwaith.
Rôl
Mae ein grŵp yn ein helpu i siarad â dysgwyr a deall yr hyn y maent ei angen gennym ni a’r sector addysg yn fwy cyffredinol. Mae’r aelodau’n mynd ati i’n herio, yn ogystal â’n cynorthwyo yn ein gwaith, er mwyn ein helpu i gyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â chymwysterau i ddysgwyr.
Mae cynnwys, adnoddau a thrafodaethau’r cyfarfodydd yn gyfrinachol ac ni fydd meddyliau na safbwyntiau’r aelodau’n cael eu rhannu oni bai y bydd yr aelodau’n rhoi caniatâd i hynny ddigwydd.
Mae aelodau’r grŵp yn onest ac maent yn mynegi eu barn yn blaen ynglŷn â’r materion sy’n effeithio ar gymwysterau a dysgwyr yng Nghymru.
Aelodaeth
Ar hyn o bryd, mae’r grŵp yn cynnwys 18-25 o ddysgwyr. Ond rydym wrthi’n recriwtio aelodau newydd i ymestyn y grŵp er mwyn sicrhau y bydd gennym lysgenhadon o bob sir yng Nghymru. Fel arfer, mae ein Llysgenhadon yn aros gyda’r grŵp am ddwy flynedd a hefyd:
- maent rhwng 14 a 21 oed
- maent yn astudio am gymwysterau yng Nghymru – naill ai mewn ysgol, mewn coleg neu mewn lleoliad arall, yn cynnwys addysg yn y cartref
- maent mewn addysg ac maent yn astudio amrywiaeth o gymwysterau, yn cynnwys cymwysterau galwedigaethol, TGAU, Safon Uwch Gyfrannol ac Uwch a Bagloriaeth Cymru
- maent yn dod o gefndiroedd gwahanol a lleoliadau addysg gwahanol (yn cynnwys colegau, ysgolion, ymgeiswyr preifat), a cheir gwahanol fathau o ddysgwyr (yn cynnwys dysgwyr cyfrwng Cymraeg a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol).
Dod yn Llysgennad Dysgwyr
Rolau gwirfoddol ydynt, ond mae’r manteision yn amhrisiadwy:
- Profiad unigryw y gallwch ei nodi ar eich CV neu eich cais UCAS.
- Cyfle i wella sgiliau, er enghraifft cyfathrebu, gwerthuso a gweithio mewn tîm.
- Cynorthwyo i ddatblygu cymwysterau Gwneud-i-Gymru.
- Sicrhau bod lleisiau dysgwyr yn cael eu clywed.
- Cyfleoedd i’n cynorthwyo i hyrwyddo ein gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar sianeli cyfryngau (er enghraifft, cyfweliadau ar y teledu a’r radio).
Ymrwymiad o ran amser
Cynhelir hyd at chwech o gyfarfodydd Llysgenhadon Dysgwyr bob blwyddyn. Caiff dyddiadau’r cyfarfodydd eu trefnu ymlaen llaw a byddant yn cael eu cynnal unwaith bob hanner tymor, fel arfer ar ddydd Mawrth rhwng 1700 a 1830.
O dro i dro, byddwn yn trefnu cyfarfodydd ychwanegol os bydd angen rhagor o amser i drafod gweithgareddau. Cyfarfodydd dewisol yw’r rhain, ond rydym yn eich annog i ymuno â nhw er mwyn sicrhau y byddwch yn cael eich cynnwys mewn gwaith newydd ac yn cael cyfle i sgwrsio â’r aelodau eraill.
Gwneud cais i ymuno
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Llysgennad Dysgwyr neu os ydych eisiau enwebu dysgwr, anfonwch e-bost atom: learnergroup@qualifications.wales
Byddwn yn gofyn am yr wybodaeth ganlynol:
- eich enw
- eich oedran
- enw’r ganolfan
- pam rydych yn gwneud cais i ymuno â’r grŵp (hyd at 100 o eiriau)
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.