Cyflwyniad
Mae cymorth rhieni yn cael effaith gadarnhaol ar berfformiad pobl ifanc mewn arholiadau ac asesiadau. Mae deall y system gymwysterau yn rhan bwysig o'ch helpu i roi cymorth iddyn nhw.
Os nad wyt ti wedi clywed am Gymwysterau Cymru o'r blaen, rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac eraill, i wneud yn siŵr bod cymwysterau yn bodloni'ch anghenion, ac yn hybu hyder yn y system gymwysterau. .
Rydym yn rheoleiddio cyrff dyfarnu sy'n datblygu ac yn darparu'r cymwysterau canlynol yng Nghymru:
Lefelau cymwysterau
Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio pob cymhwyster yng Nghymru a gynigir gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig, ar wahân i raddau. Mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod pa lefel yw unrhyw gymwysterau, er mwyn i chi allu deall sut gallwch chi helpu eich plentyn gyda'i gamau nesaf i mewn i'r gwaith, neu astudiaethau ymhellach.
Ar draws y DU, mae'r rhan fwyaf o gymwysterau a gymerir yn yr ysgol, coleg addysg bellach, gwaith neu brifysgol yn ffitio i un o naw lefel (12 yn yr Alban). Yr uchaf yw'r lefel, yr anoddaf yw'r cymhwyster. Gall cymwysterau ar yr un lefel fod yn wahanol iawn o ran cynnwys a'r amser maen nhw'n ei gymryd i'w gwblhau.
Mae Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru'n darparu un ffordd gyffredin o fesur yr hyn a gyflawnir wrth ddysgu, gan ddysgwyr o bob oedran a gallu. Mae fframweithiau tebyg ym mhob un o wledydd y DU.
Trefniadau arholiadau 2022-23
Yn ystod 2022-23, roedd y daith yn ôl i drefniadau cymwysterau cyn y pandemig yn parhau. Cafodd arholiadau eu cynnal unwaith eto yn ystod mis Mai a mis Mehefin, a chafodd asesiadau di-arholiad eu cwblhau mewn llawer o bynciau hefyd.
Cafodd rhai newidiadau eu gwneud er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i ddysgwyr oedd yn sefyll arholiadau ffurfiol, ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw, ynghyd â dull graddio cefnogol.
Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, mae ein rôl yn cynnwys goruchwylio CBAC a chyrff dyfarnu eraill wrth iddyn nhw ddyfarnu graddau dysgwyr. Yn ystod y pandemig, roedd y canlyniadau'n wahanol i flynyddoedd blaenorol. Felly, rydyn ni wedi gweithredu dull ychydig yn wahanol yr haf yma wrth i ni weithio tuag at ddychwelyd i drefniadau cyn y pandemig.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer trefniadau arholiadau 22/23.
Canlyniadau Haf 2023
Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau yng Nghymru, un o’n prif weithgareddau yw goruchwylio’r broses o ddyfarnu cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, Tystysgrifau Her Sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.
Yn yr adran hon sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer canlyniadau haf 2023, fe weli di fanylion am sut y cafodd cymwysterau yng Nghymru eu dyfarnu eleni, golwg cyffredinol ar y broses apelio, yn ogystal â chymorth a chefnogaeth i ddysgwyr sy'n ystyried eu camau nesaf. Ar ddiwrnodau'r canlyniadau, byddwn ni hefyd yn cyhoeddi ein hadroddiadau Adolygu Cyfres Arholiadau Haf 2023 a chanllawiau Canlyniadau Haf 2023.
I gael rhagor o wybodaeth, cer i'n hadran sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer Canlyniadau Haf 2023.
Canllaw ar gyfer arholiadau ac asesiadau
Mae paratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau yn gallu bod yn amser prysur, ac efallai bod gennych gwestiynau ynghylch y trefniadau ar gyfer cymwysterau eich plentyn eleni.
Dyna pam rydyn ni wedi creu canllaw i arholiadau ac asesiadau wedi’i ddiweddaru ar gyfer cymwysterau yn 2022/2023.
Lefel Nesa
Mae Cymwysterau Cymru’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ar Lefel Nesa, sy’n cynnwys awgrymiadau a gwybodaeth i’th helpu yn ystod tymor arholiadau ac asesiadau 2022/23 ac ar gyfer y cam nesaf yn dy fywyd.
Arholiadau 360
Mae pobl yn aml yn ein holi ni am y system arholiadau a sut mae’n gweithio. Pethau fel, pwy sy’n ysgrifennu fy mhapur arholiad a sut mae graddau arholiadau’n cael eu gosod?
Ar Arholiadau 360, mae modd i ti ddod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau hynny ac i ymholiadau cyffredin eraill sy’n gysylltiedig ag arholiadau.
TGAU Gwneud-i-Gymru
Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar gyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau eraill Gwneud-i-Gymru a fydd yn gwireddu uchelgais y Cwricwlwm i Gymru ac yn bodloni anghenion dysgwyr. Rydyn ni wedi bod yn ymgynghori ar gyfres lawn o gynigion dylunio ar gyfer pob pwnc a fydd ar gael o 2025.
Mae barn dysgwyr presennol o bob oed yn rhan bwysig o'r gwaith yma. Wrth baratoi ar gyfer yr ymgynghoriad, fe wnaethom ni gynnal cyfres o weithdai a siarad â dysgwyr ym mhob rhan o’r wlad – mae modd cael gwybod rhagor yn ein Hadroddiad Llais y Dysgwr.
Anogwch eich plentyn i ymuno â'n Grŵp Dysgwyr
Anogwch eich plentyn i ymuno ag un o’n grwpiau dysgwyr.
Mae llunio cymwysterau sy’n bodloni anghenion y dyfodol yn faes pwysig o’n gwaith. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, rydym wedi sefydlu dau grŵp i ddysgwyr, er mwyn i ni allu clywed eu barn nhw am ein gwaith.
Mae aelodau'r ddau grŵp yn bobl ysbrydoledig sydd ag ystod amrywiol ac eang o brofiadau, ac wrth i rai ohonyn nhw adael byd addysg eleni, rydyn ni’n chwilio am ddysgwyr newydd i ymuno â'r grwpiau.
Mae ymuno ag un o’n grwpiau dysgwyr yn gyfle gwych i’ch plentyn fagu hyder, dweud eu dweud ar gymwysterau yng Nghymru, a rhoi profiad gwerthfawr iddyn nhw i’w cefnogi wrth iddyn nhw gymryd y camau nesaf ar eu taith ddysgu neu waith.