Cyflwyniad

Os ydych chi’n athro mewn ysgol, yn ddarlithydd mewn lleoliad addysg bellach neu’n hyfforddwr mewn lleoliad seiliedig ar waith neu leoliad dysgu arall, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi a’ch dysgwyr wrth iddyn nhw geisio ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen.

Cynllunio wrth gefn

O ystyried digwyddiadau’r blynyddoedd diwethaf, rydyn ni’n gwybod bod siawns fach y gallai fod angen trefniadau amgen eto yn y dyfodol.

Felly, dylai ymarferwyr sy'n addysgu TGAU, UG a Safon Uwch baratoi ar gyfer y posibilrwydd o roi trefniadau wrth gefn ar waith, drwy gynllunio pa asesiadau y byddan nhw’n eu defnyddio i gyfrannu at raddau wedi’u pennu gan y ganolfan, pe bai eu hangen.

Rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar gynllunio ar gyfer argyfyngau.

Cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru

Mae ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW) yn cynnwys manylion yr holl gymwysterau sy'n cael eu cymeradwyo neu eu dynodi ar gyfer eu haddysgu yng Nghymru ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed - ac eithrio addysg uwch.

Mae'r wybodaeth sy’n cael ei chadw ar QiW yn cynnwys teitlau cymwysterau, niferoedd, dyddiadau dechrau a gorffen, manylion cyrff dyfarnu a gwybodaeth bellach - fel mesurau perfformiad ac a yw'r cymhwyster yn cyfrif fel dewis ar gyfer llwybrau dysgu 14-19.

Lefel Nesa

Rydym yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ar Lefel Nesa, i ddarparu adnoddau i helpu'ch dysgwyr i baratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau.

Arholiadau 360 - egluro’r system arholiadau

Mae pobl yn aml yn ein holi ni am y system arholiadau a sut mae’n gweithio, ac rydyn ni’n siŵr bod yr un peth yn wir amdanoch chithau hefyd. Pethau fel, pwy sy’n ysgrifennu’r papur arholiad a sut mae graddau arholiadau’n cael eu gosod?

Ar Arholiadau 360, mae modd i chi ddod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau hynny ac i ymholiadau cyffredin eraill sy’n gysylltiedig ag arholiadau, y gallai eich dysgwyr ofyn i chi.

Cymwysterau Cenedlaethol 14-16

Fel rydych yn gwybod, rydym yn diwygio’r holl gymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed yng Nghymru.  

Mae'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd yn cynnwys TGAU wedi diwygio, y cymhwyster TAAU  newydd, cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau, a fydd yn cymryd lle y Dystysgrif Her Sgiliau gyfredol. 

Gallwch gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ac anfon eich ymholiadau atom drwy ein platfform ymgysylltu pwrpasol, Dweud Eich Dweud. 

Canlyniadau Haf 2024

Cer i'n hadran sydd wedi’i neilltuo’n arbennig ar gyfer Canlyniadau Haf 2024

Addysg Uwch

Mae Cymwysterau Cymru’n cadw mewn cysylltiad rheolaidd â sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a ledled y DU.

Rydyn ni hefyd yn cydweithio’n agos ag UCAS ac eraill, i wneud yn siŵr bod prifysgolion yn cael diweddariadau cyson am unrhyw ddatblygiadau sy’n ymwneud â chymwysterau a’r system gymwysterau yng Nghymru.

Cymryd rhan

Mae Cymwysterau Cymru eisiau i ymarferwyr o bob rhan o addysg Cymru helpu i sicrhau ein bod ni’n creu system gymwysterau sy’n wirioneddol addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

O bryd i'w gilydd, rydyn ni’n recriwtio unigolion i'n helpu gyda'r gwaith hwnnw -cadwch lygad ar ein hadran swyddi a chyfleoedd os oes gennych chi ddiddordeb a gwnewch yn siŵr bod eich staff a’ch llywodraethwyr yn cofrestru ar gyfer ein cylchlythyrau misol.

Rydyn ni hefyd yn cynnal ymgynghoriadau, arolygon, a sesiynau cynnwys rheolaidd. Edrychwch ar ein safle Dweud Eich Dweud am ragor o fanylion am sut gall eich canolfan chi gymryd rhan.

Cydnabod dysgu blaenorol

Mae Cydnabod dysgu blaenorol (CDB) yn disgrifio proses lle mae tystiolaeth o ddysgu a/neu gyflawniad blaenorol dysgwr yn cael ei asesu a gellir ei ddefnyddio i eithrio’r dysgwr o ran o gymhwyster neu gymhwyster cyfan.  

Mae angen i'r dysgwr ddangos, trwy wybodaeth, dealltwriaeth neu sgiliau sydd ganddynt eisoes, nad oes angen iddynt ailadrodd y cwrs na chwblhau gweithgaredd asesu ychwanegol. Bydd asesydd yn adolygu a yw'r dystiolaeth yn ddigon i ddangos bod dysgwr wedi bodloni'r gofynion asesu ar gyfer cymhwyster cyfredol neu ran o gymhwyster. 

Yn Cymwysterau Cymru, rydym yn cydnabod bod cydnabod dysgu blaenorol yn cynnig llawer o fanteision.  

Am fwy o wybodaeth am CDB a'n polisi, ewch i'n hadran cydnabod dysgu blaenorol pwrpasol.