Os ydych chi'n ysgol, yn goleg, yn ddarparwr dysgu seiliedig ar waith, neu unrhyw fath arall o ddarparwr dysgu yng Nghymru, rydym yma i'ch cefnogi i gyflwyno'r arholiadau a'r asesiadau sydd eu hangen ar eich dysgwyr i symud ymlaen mewn bywyd, dysgu pellach a gwaith.

Y cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru

Cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed

Mae Cymwysterau Cenedlaethol yn cael eu cyflwyno ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed rhwng Medi 2025 a Medi 2027. Mae Cymwysterau Cenedlaethol yn cynnwys: 

Bydd nifer fach o gymwysterau dynodedig ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed sydd y tu allan i'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol cymeradwy. 

Gall canolfannau ddod o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i weithredu'r Cymwysterau Cenedlaethol yn ein canllaw pwrpasol i ganolfannau. Gall canolfannau ddod o hyd i wybodaeth a chymorth sy'n ymwneud â’r canlynol: 

  • asesu digidol a pharatoi i gyflwyno arholiadau digidol yn unig
  • asesiadau di-arholiad a rheoli llwyth gwaith dysgwyr
  • amserlenni a manylion ynghylch datblygu'r cymwysterau TAAU, Sylfaen a Chyfres Sgiliau newydd
  • amserlen i gefnogi canolfannau gyda'u paratoadau ar gyfer cymwysterau Ton 2 sy'n dod ym mis Medi 2026
Cymwysterau ar gyfer dysgwyr ôl-16
Cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru

Mae ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW) yn cynnwys manylion yr holl gymwysterau sydd wedi'u cymeradwyo neu eu dynodi i’w haddysgu yng Nghymru ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed - ac eithrio addysg uwch.

Mae'r wybodaeth a gedwir ar Cymwysterau yng Nghymru’n cynnwys teitlau cymwysterau, rhifau, dyddiadau dechrau a gorffen, manylion y cyrff dyfarnu a gwybodaeth bellach - megis mesurau perfformiad ac a yw'r cymhwyster yn cyfrif fel dewis ar gyfer llwybrau dysgu 14 i 19.

Cymwysterau cymeradwy a chymwysterau dynodedig

Mae dau fath o gymwysterau ar gael i ddysgwyr o dan 19 oed yng Nghymru: cymwysterau cymeradwy a chymwysterau dynodedig. 

Rhaid i gymwysterau cymeradwy ddilyn rheolau penodol i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru. Cymwysterau dynodedig yw'r rhai nad ydynt o reidrwydd wedi'u datblygu i ddiwallu anghenion penodol dysgwyr yng Nghymru, ac sydd yn aml wedi bod ar gael mewn gwledydd eraill  a gwahanol systemau cymwysterau yn y DU. 

Gweler ein Llawlyfr Dynodi am ragor o wybodaeth am ein proses ar gyfer dynodi cymwysterau.

Cyflwyno arholiadau ac asesiadau

Arholiadau ac asesiadau yn 2025-2026

Yn yr adran bwrpasol hon ar arholiadau ac asesiadau 2025-2026, fe welwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am y trefniadau ar gyfer arholiadau ac asesiadau'r flwyddyn academaidd hon. 

Canlyniadau haf 2025

Am yr holl wybodaeth sy'n ymwneud â chanlyniadau arholiadau'r llynedd, ewch i'n hadran bwroasol ar ganlyniadau haf 2025.

Goruchwylio arholiadau a diogelwch

Mae ysgolion a cholegau’n chwarae rhan allweddol wrth gynnal diogelwch papurau arholiadau ac mae'n bwysig bod eich staff yn dilyn y rheolau sydd wedi’u gosod gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) ar gyfer diogelwch papurau a chynnal arholiadau. Mae cyrff dyfarnu unigol hefyd yn rhoi arweiniad a chefnogaeth. 

Mynediad i gyfarwyddiadau JCQ ar gyfer cynnal arholiadau.

Rhaid i ganolfannau hefyd roi'r hyfforddiant cywir i'w goruchwylwyr. Rydym wedi creu cyfres o fideos canllaw i oruchwylio arholiadau i gefnogi swyddogion arholiadau i'w defnyddio fel rhan o'u sesiynau hyfforddi i oruchwylwyr.

Cynllunio wrth gefn

Mae'n bwysig cael cynlluniau wrth gefn ar waith i'ch galluogi i gynnal yr arholiadau'n ddidrafferth, beth bynnag fo'r heriau. 

Bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau penodol, paratoi ar gyfer y posibilrwydd o darfu ar arholiadau ac i fod yn ymwybodol o gyngor gan gyrff cyhoeddus perthnasol.   

Darllenwch ein canllawiau ar gyfer cynllunio wrth gefn.

Cymorth i ganolfannau

Arholiadau 360: eglurhad o’r system arholiadau

Mae pobl yn aml yn ein holi ni am y system arholiadau a sut mae’n gweithio, ac rydym yn siŵr bod yr un peth yn wir amdanoch chithau hefyd. Pethau fel, pwy sy’n ysgrifennu’r papur arholiad a sut mae graddau arholiadau’n cael eu gosod?

Ar Arholiadau 360, mae modd i chi ddod o hyd i’r atebion i’r cwestiynau hynny ac i ymholiadau cyffredin eraill sy’n gysylltiedig ag arholiadau, y gallai eich dysgwyr neu’ch ymarferwyr ofyn i chi.

Ein tîm ymgysylltu strategol

Mae ein tîm ymgysylltu strategol yn cynnal perthynas agos â swyddogion arholiadau, athrawon, darlithwyr ac uwch arweinwyr ym mhob ysgol a choleg yng Nghymru. Mae'r tîm yma i gefnogi dealltwriaeth a gwybodaeth canolfannau am gymwysterau a'r system arholi.

Mae ganddyn nhw rôl allweddol yn cefnogi swyddogion arholiadau i sicrhau bod arholiadau ac asesiadau a gaiff eu marcio'n allanol yn cael eu gweinyddu’n gywir, yn effeithlon ac yn ddiogel.

Mae'r tîm yn ymweld â chanolfannau’n rheolaidd - wyneb yn wyneb ac yn rhithwir - ac maen nhw’n gyfrifol am ddarparu gwybodaeth glir a chryno ac arweiniad a chyngor ymarferol wyneb yn wyneb.

Gallwch gysylltu â'r tîm yn uniongyrchol drwy SETeam@qualifications.wales.

Digwyddiadau a gweminarau

Byddwch yn gallu cwrdd a siarad ag aelodau o'n tîm yn rheolaidd mewn amryw o ddigwyddiadau addysgol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, Sgiliau Cymru, ColegauCymru a chynadleddau a digwyddiadau partner eraill, a mwy. 

Rydym hefyd yn cyflwyno ein digwyddiadau a'n gweminarau ein hunain ar gyfer addysgwyr a staff canolfannau, gan gynnwys Cynhadledd Swyddogion Arholiadau blynyddol a gynhelir bob mis Medi a sesiynau swyddogion arholiadau rheolaidd, ymhlith gweminarau eraill a gyflwynir ar bynciau penodol trwy gydol y flwyddyn.  

Gallwch ddod o hyd i'n holl ddigwyddiadau sydd i ddod a manylion ar sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiadau hyn ar ein tudalen digwyddiadau

Gohebiaeth

Mae'r holl lythyrau diweddar a anfonwyd at Swyddogion Cyfrifol, Penaethiaid Canolfannau a rhanddeiliaid eraill i'w gweld ar ein tudalen gohebiaeth.
 

Cymryd rhan

Rydym eisiau i ymarferwyr o bob rhan o addysg Cymru helpu i sicrhau ein bod yn creu system gymwysterau sy'n wirioneddol addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

Swyddi a chyfleoedd

O bryd i'w gilydd, rydym yn recriwtio unigolion i'n helpu gyda'r gwaith hwnnw - cadwch lygad ar ein hadran swyddi a chyfleoedd os oes gennych chi ddiddordeb a gwnewch yn siŵr bod eich staff a’ch llywodraethwyr yn cofrestru ar gyfer ein cylchlythyrau misol.

Dweud Eich Dweud

Rydym hefyd yn cynnal ymgynghoriadau, arolygon, a sesiynau cynnwys rheolaidd. Edrychwch ar ein safle Dweud Eich Dweud am ragor o fanylion ar sut gall eich canolfan chi gymryd rhan.

Hwb Swyddogion Arholiadau

Os ydych chi'n swyddog arholiadau mewn ysgol neu goleg yng Nghymru, yna gallwch ddod yn rhan o'n cymuned swyddogion arholiadau. Gallwch ofyn am fynediad i'n Hwb Swyddogion Arholiadau Cymru drwy e-bostio SETeam@qualifications.wales