Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer Cymwysterau Cenedlaethol 2027
Gall cyrff dyfarnu ddechrau datblygu'r drydedd don o Gymwysterau Cenedlaethol, y don olaf, ers cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo.
Rydym ni’n credu y dylai pob disgybl rhwng 14–16 oed gael dewis o bynciau mwy galwedigaethol ac ymarferol i gyd-fynd â TGAU, a hynny er mwyn eu paratoi ar gyfer bywyd, addysg, a’r byd gwaith o oedran ifanc.
Mae cymwysterau TAAU, Sylfaen, a’r Gyfres Sgiliau yn bodloni nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru, gan roi pwyslais ar ddulliau ymarferol, ar ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau, ac ar hyrwyddo profiadau dysgu cadarnhaol. Gyda chyflwyniad y cymwysterau newydd hyn, caiff dysgwyr Cymru gynnig cynhwysol, eang a chytbwys sy’n caniatáu gwahanol ffyrdd o ddysgu ac o ddatblygu sgiliau.
Cyhoeddiad y meini prawf cymeradwyo yw’r datblygiad cyffrous diweddaraf ar y daith o gyflwyno’r Cymwysterau Cenedlaethol. Mae'r dogfennau hyn yn amlinellu'r gofynion y mae'n rhaid i gorff dyfarnu eu bodloni er mwyn i Cymwysterau Cymru gymeradwyo cymhwyster .
Mae pump o wahanol feini prawf cymeradwyo wedi'u cyhoeddi:
- meini prawf cymeradwyo TAAU
- meini prawf cymeradwyo cyffredinol ar gyfer cymwysterau Sylfaen
- meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymwysterau Sylfaen cysylltiedig â gwaith
- meini prawf cymeradwyo ar gyfer Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith, a Sgiliau Bywyd a Gwaith
- meini prawf cymeradwyo ar gyfer y Prosiect Personol
Mae pob dogfen yn manylu ar bwrpas, nodau, cynnwys, a phrofiadau’r cymwysterau; y gwaith asesu, graddio, ac adrodd y bydd arnynt eu hangen; yn ogystal â sut i’w henwi, eu maint, a’u strwythur. Mae'r meini prawf cymeradwyo hefyd yn amlinellu’r ffyrdd y mae'n rhaid i'r cymwysterau hyn gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru.
Bydd TAAU, cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau (Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith, Sgiliau Bywyd a Gwaith, a'r Prosiect Personol) yn cael eu haddysgu mewn ysgolion o fis Medi 2027, yn dilyn cyflwyniad TGAU newydd ym mis Medi 2025 a Medi 2026. Yn wahanol i TGAU, sy'n cael eu datblygu gan CBAC, gall unrhyw gorff dyfarnu ddatblygu cymwysterau sy’n bodloni ein meini prawf cydnabod .
Os ydych eisiau dysgu mwy, darllenwch yr adroddiad penderfyniadau yn ei gyfanrwydd yma.
Ein Gweledigaeth ar gyfer Cymwysterau Cenedlaethol
Er mwyn cefnogi datblygiad y Cymwysterau Cenedlaethol, rydym wedi llunio dogfen sy’n nodi ein gweledigaeth, gan fanylu ar rai agweddau penodol ar y meini prawf cymeradwyo, ar gynwysoldeb yn y gyfres gymwysterau newydd, ac ar eu perthynas â'r Cwricwlwm i Gymru.
Gallwch ddarllen ein Gweledigaeth ar gyfer y Cymwysterau Cenedlaethol yma.
Ceisiadau am adolygwyr cymwysterau yn agor yn gynnar y flwyddyn nesaf
Wrth i ni barhau i lunio'r ystod newydd gyffrous hon o gymwysterau ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 16 oed, byddwn yn recriwtio adolygwyr cymwysterau gwybodus a phrofiadol i weithio ochr yn ochr â ni i gymeradwyo'r cymwysterau TAAU, Sylfaen a’r Gyfres Sgiliau newydd.
Bydd hysbysebion yn fyw ar GwerthwchiGymru, porth contractio Llywodraeth Cymru, ym mis Ionawr, a gallwch gofrestru i dderbyn negeseuon pan fo cyfleoedd sy'n berthnasol i’ch proffil yn ymddangos.