Dull wedi’i dargedu i gynyddu’r ystod o gymwysterau cyfrwng Cymraeg
Rheolwr Cymwysterau, Alex Lovell, yn rhoi diweddariad ar ein gwaith wedi’i dargedu i gynyddu’r ystod o gymwysterau galwedigaethol ôl-16 sydd ar gael yn Gymraeg.
Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn fy rôl gyda Cymwysterau Cymru, mae gweld ymrwymiad rhanddeiliaid i weithio gyda ni i gynyddu’r ystod o gymwysterau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael wedi gwneud argraff arnaf. Gyda’n gilydd, rydym yn cyfrannu at gyflawni’r uchelgais cenedlaethol o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, a thyfu’r gweithlu dwyieithog yng Nghymru.
Serch hynny, mae mwy y gallwn ei wneud o hyd. Mae cynyddu ystod y cymwysterau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn parhau i fod yn faes heriol ac mae angen ymrwymiad parhaus gan randdeiliaid ar draws y system gymwysterau yng Nghymru, wrth i ni ymdrechu i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.
Nod ein strategaeth Dewis i Bawb yw cefnogi’r uchelgais hwn drwy gynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg fel bod dysgwyr yn gallu cymryd cymwysterau yn eu dewis iaith – boed yn Gymraeg neu’n Saesneg. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi canolbwyntio ein gwaith ar bedwar maes strategol:
Drwy gynyddu’r cyfleoedd i ddysgwyr sy’n siarad Cymraeg ddatblygu eu sgiliau Cymraeg drwy’r system gymwysterau, mae ein gwaith Dewis i Bawb hefyd yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’i nod o greu ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gyrru ein gwaith ni yn y gofod galwedigaethol ôl-16 yn ei flaen drwy:
- datblygu a mireinio ein dulliau ni i dargedu cymwysterau mewn meysydd blaenoriaeth strategol
- canfod bylchau yn y cynnig galwedigaethol ôl-16 cyfrwng Cymraeg a chreu rhestr o gymwysterau i’w blaenoriaethu rhwng nawr a 2025
- cefnogi ein hadolygiad sector cam 2 ni o Fusnes, Gweinyddiaeth ac Manwerthu, gan archwilio argaeledd a galw am gymwysterau cyfrwng Cymraeg yn y sector
- adolygu’r Grant Cymorth i’r Gymraeg i sicrhau ei fod yn alinio â blaenoriaethau ein gwaith targedu ni
- cynnal cyfarfodydd gyda chyrff dyfarnu i drafod y Gymraeg yn benodol ac i’w hannog nhw i ymgeisio i’n Grant Cymorth i’r Gymraeg
- lansio ffurflen ymholi ynghylch cymwysterau cyfrwng Cymraeg er mwyn i ddarparwyr dysgu allu rhoi gwybod i ni am alw am gymhwyster yn Gymraeg
- cryfhau’r Grŵp Cefnogi Cyrff Dyfarnu gyda’r Gymraeg drwy annog aelodau newydd i ymuno a pharhau i gefnogi’r grŵp gyda mynd i’r afael â heriau a rhannu arfer da
Roedd hi’n galonogol gweld i’n dull wedi’i dargedu arwain at nifer uwch o geisiadau i’r Grant Cymorth i’r Gymraeg eleni. Yn 2023/24, caiff tros 80 o gymwysterau eu darparu yn Gymraeg yn sgil y grant, o’u cymharu â thros 40 o gymwysterau yn 2022/23 a thros 60 o gymwysterau yn 2021/22. Dyma ddechrau da ar y gwaith yma ac yn arwydd ein bod ni ar ein ffordd i gyflawni ein targed cychwynnol o sicrhau bod o leiaf 120 o gymwysterau ar gael yn Gymraeg erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2024/25.
Ond nid dyma ddiwedd y gwaith. Trwy gydol y hydref a’r gaeaf, byddwn ni’n:
- paratoi ar gyfer y flwyddyn grant newydd gan wneud rhagor o waith mapio data a mireinio ein rhestr dargedu ar gyfer 2024/25
- cynllunio cyfarfod nesaf ein Grŵp Cefnogi Cyrff Dyfarnu gyda’r Gymraeg am ganol mis Mawrth
- ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a CYDAG, sef y corff sy’n hyrwyddo a chefnogi tegwch ar gyfer darpariaeth addysg Gymraeg yng Nghymru, i geisio eu hadborth nhw ar ein rhestr dargedu, cyn i ni orffen ein trafodaethau am y Gymraeg gyda chyrff dyfarnu yn Ionawr 2024
Er mwyn rhoi hwb i’n gwaith yn y maes hwn, mae’n bwysig ein bod yn clywed gan ddarparwyr dysgu am fylchau yn y cynnig cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr galwedigaethol ôl-16. Mae hwn yn gyfle i chi gefnogi ein gwaith drwy roi gwybod i ni am alw neu angen am gymwysterau ac asesiadau i fod ar gael yn Gymraeg er lles eich dysgwyr.
Oes gyda chi alw am gymhwyster yn Gymraeg? Gadewch i ni wybod gan gwblhau ein ffurflen ymholi ynghylch cymwysterau cyfrwng Cymraeg neu drwy gysylltu’n uniongyrchol: galwedigaethol16.cymraeg@cymwysterau.cymru.