Y ‘Cynnig Llawn’ - ailystyried cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed yng Nghymru
Ar hyn o bryd rydyn ni’’n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar yr ystod o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru, ac rydych chi’n cael eich gwahodd i ddweud eich dweud.
Ar hyn o bryd rydyn ni’’n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar yr ystod o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru, ac rydych chi’n cael eich gwahodd i ddweud eich dweud. Mae Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Cymwysterau, Polisi a Diwygio, Cymwysterau Cymru, yn trafod cynigion ar gyfer y ‘Cynnig Llawn o Gymwysterau 14 i 16’ newydd a’r rhesymau y tu ôl i’r darn pwysig hwn o waith diwygio cymwysterau.
“Pan glywch chi’r gair ‘cymwysterau’, beth sy’n dod i’ch meddwl chi’n syth?
Ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed, mae'n debyg eich bod chi'n meddwl am gymwysterau TGAU. Ac eto, mewn gwirionedd mae cymaint â 1,200 o gymwysterau eraill heblaw TGAU y mae pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yn eu cymryd bob blwyddyn, sydd yn draddodiadol wedi cael eu hadnabod fel cymwysterau galwedigaethol.
Ar hyn o bryd, gyda chymorth ystod eang o randdeiliaid, mae Cymwysterau Cymru yn creu set newydd sbon o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru i helpu i wireddu uchelgeisiau’r Cwricwlwm i Gymru ac i fodloni gofynion dysgwyr y dyfodol. Eto i gyd, rydyn ni’n cydnabod na fydd cymwysterau TGAU yn unig yn bodloni anghenion pobl ifanc yng Nghymru yn llawn. Felly mae hynny’n codi’r cwestiwn – ‘Beth arall sydd ei angen yn y gofod hwn?’
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi siarad ag ysgolion, colegau, prifysgolion, cyrff dyfarnu, rhieni a gofalwyr, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a darparwyr addysg lleol, a mwy, i ddod o hyd i ateb i hyn.
Yn dilyn ein gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid, dechreuodd darlun ddod i’r amlwg a oedd yn awgrymu bod llawer o randdeiliaid yn gweld y cynnig presennol o gymwysterau 14-16 fel system dwy haen, gyda dewis clir rhwng cymwysterau TGAU a phopeth arall. Teimlai rhai rhanddeiliaid nad oedd cymwysterau heblaw TGAU ar gyfer pobl ifanc 14-16 oed yn cael eu gwerthfawrogi na’u cydnabod yn yr un modd â chymwysterau TGAU, ac roedd hynny’n peri tristwch mawr i mi.
Felly, pa bynnag gynnig o gymwysterau a ddaw nesaf, mae’n hanfodol ei fod yn gyson ac yn gydnaws â’r Cwricwlwm i Gymru, a’i fod hefyd yn paratoi’r rhai y tu allan i’r ffrwd TGAU ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith. Wedi’r cyfan, yn ogystal â pharatoi pobl ifanc ar gyfer Safon Uwch a phrifysgol, dylem hefyd addysgu am agweddau ar ein bywydau nad ydyn nhw’n cael eu cwmpasu gan bynciau a chymwysterau traddodiadol, fel sut i reoli arian personol a phrynu tŷ, sut mae’r gyfraith yn gweithio, a deall iechyd meddwl.
Ac mae hyn yn dod â mi at brosiect cyffrous y mae Cymwysterau Cymru yn ei alw ‘Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14 i 16’, sef ystod arfaethedig o gymwysterau newydd ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed sy’n cynnwys tri dimensiwn gwahanol, a fydd yn helpu dysgwyr i ddod yn gymwys ar gyfer y dyfodol.
Yn gyntaf, rydyn ni'n edrych ar Gyfres Sgiliau, sy’n cwmpasu sgiliau bywyd a gwaith mewn pob math o bynciau diddorol, fel iechyd meddwl, garddio, ymarfer corff er mwynhad, a llwybrau gyrfa yn y dyfodol. Bydd dysgwyr hefyd yn gallu cymryd cymhwyster Prosiect Sgiliau Cyfannol i ddangos sgiliau fel meddwl beirniadol a chreadigrwydd, mewn pwnc o'u dewis.
Yna, rydyn ni’n cynnig ystod o gymwysterau Cyn-alwedigaethol fydd yn canolbwyntio ar feysydd gwaith eang fel iechyd a gofal cymdeithasol, cadwraeth amgylcheddol, a'r cyfryngau creadigol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddysgu am feysydd gwaith a chael profiad o ddysgu ac asesu ymarferol.
Yn olaf, rydyn ni’n ystyried ystod o gymwysterau Sylfaen i ategu’r ystod o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru, ar gyfer dysgwyr a allai fod ar gam gwahanol yn eu dysgu i eraill.
Bydd y ‘Cynnig Llawn’ yn symlach, gan gynnig tua 100 o gymwysterau, yn hytrach na’r llu o opsiynau heblaw TGAU sy’n bodoli ar hyn o bryd. Rydyn ni’n credu y bydd yn galluogi pob dysgwr i wneud dewisiadau mwy gwybodus ac i ddatblygu sgiliau ar gyfer bywyd a’u gyrfaoedd yn y dyfodol. Ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yn fwy cynhwysol, yn cynnig mwy o amrywiaeth, ac yn ysbrydoli creadigrwydd ac arloesedd trwy gyflwyno sgiliau y bydd modd eu defnyddio mewn bywyd bob dydd. Bydd yn ystyried llwybrau gyrfa, yn ehangu gorwelion, yn gwella datblygiad personol, ac yn helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau. Yn gyffredinol, rydyn ni’n gobeithio y bydd yn sicrhau bod cymwysterau nad ydynt yn gymwysterau TGAU yn cael eu gwerthfawrogi oherwydd yr ehangder o sgiliau y gallan nhw eu cyflwyno i bob dysgwr.
Rydyn ni’n credu y bydd symleiddio’r dewis o gymwysterau yn creu mwy o ddiddordeb ymhlith canolfannau a darparwyr addysg. Bydd hygyrchedd, ystod a gwerth y cymwysterau hyn yn ysgogi ysgolion i’w cynnig nhw i ddysgwyr, gan gynnig mwy o gysondeb i ddysgwyr yng Nghymru.
Mae ein hymgynghoriad cyhoeddus ar ein cynigion ‘Cynnig Llawn’ yn rhedeg tan 14 Mehefin 2023 ac rydyn ni’n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â barn ar gymwysterau i ddysgwyr yng Nghymru. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i siarad â rhanddeiliaid pwysig fel cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant, ysgolion, colegau a chyrff dyfarnu hefyd.
I gael gwybod rhagor ac i ddweud eich dweud, ewch i dweudeichdweud.cymwysterau.cymru.”