Mae Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio cymwysterau, heblaw graddau, yng Nghymru. Rydym yn gorff statudol annibynnol ac rydyn ni'n atebol i bobl Cymru drwy Senedd Cymru. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r sefydliadau eraill sy'n ymwneud â chymwysterau, gan barchu ein rolau penodol.
Rydym yn gyfrifol am y rheolau mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu dilyn i gael eu cydnabod yng Nghymru.
Rheoleiddio
Mae cyrff dyfarnu yn gyfrifol am gyflawni eu cymwysterau. Ar ôl i ni gael ein cydnabod gennym am gyflwyno cymwysterau yng Nghymru, rhaid i'r corff dyfarnu gydymffurfio â'r rheolau a osodwyd gennym. Rydym yn gweithio'n agos gyda nhw i ddarparu fframwaith rheoleiddio sydd â'r bwriad o leihau methiannau a diogelu dysgwyr.
Fel rheoleiddiwr rydyn ni’n gosod y rheolau y mae'n rhaid i gyrff dyfarnu eu bodloni i gael eu cydnabod yma yng Nghymru. Bwriad y rheolau hynny yw sicrhau bod cymwysterau’n adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr yn gywir. Rydyn ni’n monitro eu gwaith yn erbyn y rheolau hyn, sy'n cwmpasu popeth o ddulliau asesu ac arferion graddio i ddarparu.
Cewch ragor o wybodaeth am ein gweithgareddau rheoleiddio isod.
Ymchwil ac Ystadegau
Caiff ein penderfyniadau eu llywio gan dystiolaeth a data. Mae ein tîm ymchwil ac ystadegau ein hunain yn cynhyrchu llawer o'r wybodaeth hon ac yn comisiynu ymchwil annibynnol. Rydyn ni’n rhannu gwybodaeth am gymwysterau yng Nghymru gydag unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd mae'r system yn gweithio ac yn perfformio.
Dysgwch ragor am yr ymchwil a’r ystadegau diweddaraf am gymwysterau yng Nghymru.