Cyflwyniad
Mae cymwysterau galwedigaethol yn cyfrif am dros 90% o'r cymwysterau rheoleiddiedig sydd ar gael yng Nghymru a dylent adlewyrchu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr. Adolygiadau sector yw asgwrn cefn ein gwaith gyda chymwysterau galwedigaethol, gan ganiatáu inni ganolbwyntio ar gymwysterau o fewn sectorau cyflogaeth.
Gyda phob adolygiad sector rydyn ni’n ei gynnal, ein nod yw:
- deall y dirwedd cymwysterau
- clywed barn rhanddeiliaid am y cymwysterau a'r system gymwysterau
- penderfynu a ddylen ni gymryd camau (neu argymell bod eraill yn eu cymryd) i wella cymwysterau neu'r system.
Ar gyfer rhai sectorau mwy, rydyn ni hefyd yn anelu at:
- ystyried a yw'r cymwysterau a'r system ehangach yn dechnegol effeithiol ac yn addas i'r diben
- dysgu gwersi o systemau cymwysterau gwledydd eraill
Mae pob adolygiad sector yn wahanol; nid yw canlyniadau un adolygiad o reidrwydd yr un fath â chanlyniadau'r adolygiad nesaf.
Y broses adolygu
Wrth gynnal pob un o'r adolygiadau, fel arfer byddwn yn:
- cyfweld ag ystod eang o randdeiliaid - gan gynnwys cyflogwyr, cyrff sector, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, sefydliadau addysg bellach ac ysgolion
- sefydlu paneli rhanddeiliaid i'n cynorthwyo a'n cynghori
- annog unigolion i rannu eu barn gyda ni drwy arolygon
- cynnal adolygiadau technegol o gymwysterau - gan gynnwys edrych ar waith dysgwyr
- cynnal astudiaethau cymharu rhyngwladol pen desg.
Adolygiadau Cam 2
Gwnaeth ein hadolygiadau sector cychwynnol amlygu rhai themâu trawsbynciol, ac rydyn ni wedi defnyddio’r rhain fel ffocws ar gyfer yr hyn a alwn yn adolygiadau Cam 2.
Mae adolygiadau sector Cam 2 yn fyrrach na’n hadolygiadau llawn – fel arfer yn cymryd hyd at 12 mis – ac yn canolbwyntio ar:
- asesu argaeledd cyfredol ac argaeledd tebygol yn y dyfodol o gymwysterau mewn sectorau allweddol - i’w defnyddio mewn cyrsiau addysg bellach ôl-16 llawn amser, ysgolion chweched dosbarth a phrentisiaethau
- nodi'r angen am gymwysterau galwedigaethol cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod cymaint â phosibl ohonynt ar gael.
Rhaglen adolygu
I ddod cyn hir:
- Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo
- Peirianneg, Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni
- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
- Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid (Cam 2)
- Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus (Cam 2)
- Busnes, Gweinyddu a Manwerthu - gan gynnwys Y Gyfraith a Chyfrifyddiaeth (Cam 2)
- Sgiliau Hanfodol Cymru
Adolygiadau’r dyfodol:
Gwallt a Harddwch (Cam 2).