Medi 2015 - Adolygiad o'r Sector

Rhwng mis Medi 2015 a mis Mawrth 2016, gwnaeth Cymwysterau Cymru gynnal rhaglen cyfathrebu ac ymgynghori helaeth, gan gynnwys cyfweliadau a thrafodaethau gyda chyrff sector, darparwyr dysgu, cyflogwyr a dysgwyr, gan ofyn am eu sylwadau ar effeithiolrwydd y cymwysterau presennol a'r system gymwysterau yng Nghymru, a'u holi am fylchau ynddynt.

Cynhaliwyd dros 125 o gyfarfodydd gwahanol. Hefyd, cawsom dros 200 o ymatebion i'n hymgynghoriad ar-lein, a chlywsom farn mwy na 800 o ddysgwyr.

Gwnaethom gynnal dadansoddiad manwl o'r deg cymhwyster mwyaf poblogaidd a gaiff eu hastudio gan ddysgwyr yng Nghymru yn y sector hwn. Diben y dadansoddiad hwn oedd edrych ar fformat yr asesiadau, y systemau sicrhau ansawdd, y dystiolaeth roedd y dysgwyr yn ei darparu a'r ffordd yr oedd penderfyniadau asesu yn cael eu gwneud.

Gorffennaf 2016 - Adroddiad ar yr Adolygiad

Ym mis Gorffennaf 2016, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar ein canfyddiadau a'n dyfarniadau ynghylch effeithiolrwydd y cymwysterau presennol, a'r system gymwysterau, ar gyfer y sector yng Nghymru. 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o gynigion, gan gynnwys:

  • Datblygu cyfres newydd o gymwysterau i ddysgwyr yng Nghymru i leihau cymhlethdod a chodi ansawdd, ac wrth wneud hynny: 
    • Datblygu dulliau cyfannol a chreadigol o asesu cymhwysedd dysgwyr wrth iddynt ymgymryd â chymwysterau;
    • Darparu cyflwyniad i amrywiaeth eang o rolau yn y sector drwy ledu cwmpas y cymwysterau sydd ar gael i ddisgyblion rhwng 14 ac 16 oed;
    • Lleihau achosion o ddyblygu ac ailadrodd rhwng cymwysterau ar lefelau gwahanol;
    • Cymhwyso trefniadau sicrhau ansawdd yn gyson ac yn gadarn ledled Cymru;
    • Sicrhau bod pob agwedd ar y cymwysterau newydd ar gael yn ddwyieithog;
    • Cynyddu cynnwys pynciau allweddol, megis gofal dementia i'r rheini sy'n gweithio gyda phobl hŷn, neu chwarae i'r rheini sy'n darparu gofal plant. 
  • Gweithio gyda phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau bod gwybodaeth glir ar gael am rolau a chyfrifoldebau gwahanol pob corff o ran cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.

Medi 2016 - Ymgynghoriad

Yn dilyn yr adolygiad, gwnaethom lansio ymarfer ymgynghori i geisio barn ar gynigion i ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau, gan gynnwys y posibilrwydd o gyfyngu pob cymhwyster newydd i ddim ond un fersiwn i'w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir gan arian cyhoeddus yng Nghymru.

Cafodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2016, ac maent ar gael yma.

Tachwedd 2016 - Cyhoeddi cynnig i gyfyngu ar gymwysterau

Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, gwnaethom gyhoeddi ein bwriad i gyfyngu ar nifer o ddisgrifiadau o gymwysterau yn ymwneud ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.

Mae'r rhain ar gael yn ein Rhestr Cymwysterau Blaenoriaethol.

I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygu'r cymwysterau newydd ewch i'r tudalennau am ddatblygu cymwysterau galwedigaethol.

Adolygiad Cyflym o Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3: Adroddiad

Rhwng Mawrth ac Ebrill 2022, cynhaliwyd 'adolygiad cyflym' o gymwysterau lefel 3 newydd yn y sector hwn. Mae'r ddogfen hon yn crynhoi canfyddiadau'r adolygiad, gan gynnwys yr arfer da sydd wedi datblygu a'r heriau y mae canolfannau wedi eu profi wrth eu rhoi ar waith. Mae'r adroddiad hwn hefyd yn rhoi diweddariad ar y camau yr ydym yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r heriau.

Meini Prawf Cymeradwyo

Mae ein diwygiadau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant wedi arwain at gyflwyno 23 o gymwysterau newydd. Mae'r gyfres hon yn cynnwys cymwysterau ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau ysgol, addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.

Buom yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gynllunio meini prawf cymeradwyo ar gyfer y cymwysterau hyn, sy'n pennu cynnwys pwnc a gofynion asesu ar eu cyfer. Y meini prawf a ddatblygwyd gennym yw:

TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant

Safon Uwch ac UG Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant

Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd

Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer 

Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau

Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer 

Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori

Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)

Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau 

Lefel 4 Lleoli Oedolion/ Cysylltu Bywydau

Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli yn y Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Lefel 4 Eiriolaeth Annibynnol

Lefel 4 Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

Mai 2024 – Hysbysiad o gymwysterau ar ddiwedd y cyfyngiad

Yn dilyn ymarfer caffael cystadleuol, fe wnaethom ddyfarnu contract i CBAC a City & Guilds (y consortiwm) i ddatblygu a dyfarnu'r cymwysterau hyn. Cyflwynwyd y cymwysterau hyn rhwng Medi 2019 a Medi 2021. 

Disgwylir i gyfyngiad y cymwysterau canlynol ddod i ben ar 31 Awst 2024:

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

Mae CBAC a City & Guilds wedi cadarnhau y byddant yn parhau i gynnig y cymwysterau hyn ar ôl Awst 2024.

Mae diwedd y cyfyngiad yn golygu y gall cyrff dyfarnu eraill gyflwyno cymwysterau i'w cymeradwyo yn erbyn y meini prawf cymeradwyo cyhoeddedig, gan sicrhau bod y cymwysterau'n gwbl ddwyieithog yn ogystal ag ymgysylltu â Gofal Cymdeithasol Cymru i geisio cael eu cynnwys ar y Fframwaith Cymwysterau.

Os ydych yn bwriadu datblygu cymwysterau cymeradwy i fodloni'r meini prawf cymeradwyo cyhoeddedig, cysylltwch â Leanne.Hallett@qualifications.wales i drafod ymhellach. Mae sgwrs gynnar yn bwysig i gynorthwyo ein cynllunio o ran cymeradwyo, a chydlynu gydag anghenion busnes eraill.