Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi canfyddiadau ei adolygiad sector wedi ei dargedu o gymwysterau a’r system gymwysterau mewn celf, y creadigol a’r cyfryngau.

Mae’r adolygiad yn cadarnhau bod cymwysterau yn y maes hwn yn hygyrch, yn bodloni anghenion dysgwyr, ac ar gael yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Roedd yr adolygiad sector hwn yn ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys y celfyddydau perfformio, y cyfryngau a chyfathrebu, crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, a chyhoeddi a gwybodaeth.

Caiff canfyddiadau ein hadolygiad eu llywio gan ymchwil desg, sy’n dadansoddi’r detholiad presennol o gymwysterau, yn ogystal â 50 o gyfweliadau â rhanddeiliaid ac arolwg dysgwyr ar-lein, a dderbyniodd 194 o ymatebion.