Roedd yr Adolygiad yn helaeth ac yn cynnwys cyfweliadau manwl gyda thros 100 o randdeiliaid, trafodaethau â ffocws gyda thros 350 o ddysgwyr, adolygiad technegol o gymwysterau, astudiaeth gymharu ryngwladol ac arolwg ar-lein. Roedd y wybodaeth a'r dystiolaeth o’r holl elfennau hyn o’r Adolygiad yn sail i'r canfyddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad.

 

 

Pwysigrwydd Peirianneg – Flwyddyn yn ddiweddarach

Mae bellach yn flwyddyn ers inni gyhoeddi ein hadolygiad sector o gymwysterau a’r system gymwysterau ym maes Peirianneg, Gweithgynhyrchu Uwch ac Ynni: Pwysigrwydd Peirianneg. 

Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio gyda chyrff dyfarnu a rhanddeiliaid ehangach i weithredu'r camau a gynlluniwyd i fynd i'r afael â'r materion a godwyd gan yr Adolygiad. 

Mae'r tabl canlynol yn crynhoi'r cynnydd rydym wedi'i wneud hyd yma yn erbyn rhai o'r prif gamau gweithredu:

Gweithred

Cynnydd

Byddwn yn argymell i'r IMI a City & Guilds eu bod yn diweddaru cynnwys eu cymwysterau cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn lefel dau a thri i sicrhau fod ganddynt gynnwys cyfredol a pherthnasol.

Yn dilyn cyhoeddi'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol wedi'u diweddaru ar gyfer cerbydau trydan a modurol yn gynharach eleni, mae IMI a City & Guilds wedi adolygu eu cymwysterau cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn gyfredol. 

Mae IMI yn bwriadu cyflwyno cymwysterau cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn newydd sy'n adlewyrchu'r safonau wedi'u diweddaru mewn pryd i'w haddysgu gyntaf ym mis Medi 2022. 

Bydd City & Guilds yn gwneud eu cymwysterau cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn newydd ar gael i ganolfannau o fis Ionawr 2022. Bydd gan ddarparwyr dysgu tan fis Mai 2022 i symud o’r hen gymwysterau i’r cymwysterau newydd. 

Bydd gweithgareddau paratoi a chynefino er mwyn cael canolfannau'n barod i gyflwyno'r cymwysterau newydd yn cael eu cynnal yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22. 

Ar ôl gwneud cais llwyddiannus am ein Grant Cymorth Iaith Gymraeg eleni, bydd City & Guilds yn sicrhau bod sawl rhan o'u cymhwyster cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn newydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys llawlyfrau cymwysterau, pecynnau asesu ac adnoddau dysgu.

Byddwn yn argymell i EAL a City & Guilds eu bod yn adolygu cynnwys y cymhwyster Diploma Estynedig NVQ Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrennau i sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol i awyrennau masnachol.

Mae Enginuity, y corff sector Peirianneg, wedi adolygu a chyhoeddi Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Peirianneg Awyrennau. Mae EAL wedi mapio eu darpariaeth cymhwyster Peirianneg Awyrennol NVQ i'r safonau newydd ac yn bwriadu lansio Diploma Estynedig Lefel 3 wedi'i ddiweddaru ym mis Rhagfyr 2021.

Byddwn yn:

• argymell i EAL eu bod yn newid ystod oedran y cymhwyster Diploma NVQ Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (Lefel 2 PEO) fel ei fod ar gael i ddysgwyr dros 16 oed yn unig; ac

• annog EAL a chyrff dyfarnu eraill i sicrhau bod cymhwyster ymarferol priodol ar gael ar gyfer ysgolion uwchradd sydd ar hyn o bryd yn cynnig y PEO Lefel 2 i ddysgwyr dan 16 oed.

Mae EAL wedi ymgysylltu'n helaeth â chanolfannau yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau bod cynlluniau i ddatblygu cymhwyster lefel 2 ymarferol cyn-16 yn diwallu anghenion rhanddeiliaid. Teitl y cymhwyster newydd fydd Diploma Lefel 2 EAL mewn Peirianneg Ymarferol a bydd ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2022.

Ar hyn o bryd mae EAL yn cynnal gwiriadau ansawdd terfynol ar y cymhwyster a bydd yr holl ddeunyddiau gan gynnwys pecynnau dysgwyr a phecynnau cyflwyno ar gael i ganolfannau ar ddiwedd 2021. Yn ogystal, bydd yr holl ddeunyddiau gan gynnwys y llawlyfr cymhwyster, y pecynnau cyflwyno a'r pecynnau dysgwyr, a chynnwys yr uned ar gael yn Gymraeg yng Ngwanwyn 2022.

Yn yr ymgynghoriad nesaf Cymwys ar gyfer y Dyfodol, byddwn yn:

• cynnwys cynnig i gynnwys TGAU newydd mewn Peirianneg a Gweithgynhyrchu yn yr ystod o gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 16 oed yng Nghymru yn y dyfodol. 

Fel rhan o'n rhaglen waith Cymwys ar gyfer y Dyfodol, byddwn yn:

• adolygu’r ystod o gymwysterau cysylltiedig â pheirianneg ar gyfer pobl ifanc 16 oed i gefnogi'r Cwricwlwm newydd i Gymru

Ar 14 Hydref, gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad penderfyniadau Cymwys ar gyfer y Dyfodol: Y dewis cywir i Gymru sy'n nodi'r ystod o gymwysterau TGAU y byddwn yn eu datblygu i gefnogi'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Cadarnhaodd hyn ein cynlluniau i ddatblygu TGAU newydd mewn Peirianneg a Gweithgynhyrchu. Mae'r penderfyniad hwn yn seiliedig ar ymgynghori helaeth â dysgwyr, rhieni, athrawon, darlithwyr a chyflogwyr yng Nghymru lle'r oedd 66% yn cefnogi ein cynnig i ddatblygu cymhwyster TGAU newydd yn y pwnc hwn. 

 Byddwn yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid dros y flwyddyn nesaf i ddatblygu gofynion sylfaenol ar gyfer y cymhwyster TGAU newydd hwn a byddwn yn rhannu rhagor o fanylion pan fyddant ar gael.

Byddwn yn cyflwyno dull cryfach o adolygu unrhyw gymwysterau cysylltiedig â pheirianneg ym maes pwnc sector 4 y mae cyrff dyfarnu yn eu cyflwyno ar gyfer dynodiad newydd neu estynedig

Ym mis Mai 2021, cyflwynwyd proses Ddynodi gryfach ar gyfer cymwysterau ym maes pwnc sector 4 (peirianneg a thechnolegau gweithgynhyrchu). Rhaid i gyrff dyfarnu sy'n dymuno sicrhau bod cymwysterau newydd neu wedi'u diweddaru ar gael yn y maes hwn gyflwyno tystiolaeth ychwanegol i ddangos:

  • bod cynnwys y pwnc yn gyfoes,
  • bod y cymhwyster yn diwallu anghenion dysgwyr a diwydiant yng Nghymru a,
  • bod yr asesiad yn cydbwyso'r gofynion ar gyfer dilysrwydd, dibynadwyedd a hydrinedd. 

I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion hyn, gweler ein canllaw-corff-dyfarnu-i-ddynodi.pdf (cymwysteraucymru.org)

Byddwn yn parhau i flaenoriaethu, ar gyfer ein Grant Cymorth i’r Gymraeg, gymwysterau mewn rhaglenni dysgu amser llawn ar gyfer dysgwyr 14-19 oed a phrentisiaethau, a byddwn yn parhau i annog cyrff dyfarnu sy'n datblygu cymwysterau newydd sbon neu gymwysterau i gymryd lle rhai eraill yn y sector i wneud cais am y grant hwn.

Rydym wedi gweithio gyda'r cyrff dyfarnu sy'n gysylltiedig â chamau gweithredu'r adolygiad ac roeddem yn falch o dderbyn ceisiadau am arian grant i gyfieithu'r gyfres newydd o gymwysterau cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau ysgafn a gynigir gan City & Guilds a'r Diploma Lefel 2 newydd mewn Peirianneg Ymarferol a gynigir gan EAL. 

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â chyrff dyfarnu i'w hybu a'u hannog ymhellach i wneud cais am gyllid i sicrhau bod eu cymwysterau ar gael yn ddwyieithog i ddysgwyr yng Nghymru.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein gwaith yn y maes hwn, cysylltwch â ymholiadau@cymwysteraucymru.org.