Cymwysterau Cenedlaethol 14-16

Cyn bo hir, bydd pobl ifanc yng Nghymru yn gallu dewis o amrywiaeth o gymwysterau newydd cyffrous wrth wneud eu dewisiadau ar gyfer Blwyddyn 10. 

Mae'r Cymwysterau Cenedlaethol yn set gynhwysfawr a pherthnasol o gymwysterau, sy’n amrywio o gymwysterau TGAU Dyfarniad Unigol a Dwbl mewn pynciau fel Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, i'r TAAU newydd sy'n gysylltiedig â gwaith mewn pynciau fel gwasanaethau cyhoeddus a pheirianneg. Mae yna hefyd gyfres o gymwysterau Sylfaen, yn ogystal ag amrywiaeth o unedau Sgiliau Bywyd a Gwaith a Phrosiect Personol.  

Mae'r Cymwysterau Cenedlaethol yn cefnogi nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru.

Bydd canolfannau'n gallu cynnig cyfuniad pwrpasol o'r cymwysterau newydd hyn i gefnogi eu dysgwyr i gyflawni eu nodau unigol ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith. 

Yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ar draws ystod amrywiol o feysydd pwnc a sector, bydd y Cymwysterau Cenedlaethol hefyd:

    • yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol
    • yn darparu sgiliau y mae cyflogwyr Cymru yn galw amdanyn nhw
    • yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu ymarferol
    • yn cynnig cymysgedd ehangach o ddulliau asesu
    • yn werthfawr yng Nghymru a thu hwnt

Rydyn ni'n sicrhau y bydd pobl ifanc yng Nghymru yn dod yn gymwys ar gyfer y dyfodol.

Cymwysterau diwygiedig ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru

Lefelau dysgu

Bydd y Cymwysterau Cenedlaethol yn darparu cyfleoedd asesu ar Lefel Mynediad, Lefel 1 a Lefel 2.

Diagram fen yn esbonio pa gymwysterau sy'n perthyn i bob lefel o ddysgu. Mae'r testun yn esbonio bod cymwysterau Sylfaen ar gael ar Lefel Mynediad a Lefel 1, bod TGAU a TAAU ar gael ar Lefel 1 a Lefel 2, a bod y Gyfres Sgiliau ar gael ar bob un o'r tair lefel.

Creu cwrs astudio cydlynol

Mae'r Cymwysterau Cenedlaethol wedi'u cynllunio i gefnogi ehangder a dyfnder mewn dysgu a chynnydd.

Mae pob un o'r pedwar math o gymhwyster yn gwasanaethu pwrpasau gwahanol, ac yn aml pwrpasau lluosog. Caiff dysgwyr eu hannog i astudio'r cymwysterau hynny sydd ar gael yn eu canolfan a fydd yn rhoi'r profiad dysgu gorau iddyn nhw yn seiliedig ar eu cryfderau, eu diddordebau a'u dyheadau.

 

Amserlen ar gyfer gweithredu cymwysterau

Mae'r cymwysterau diwygiedig yn cael eu cyflwyno mewn ffordd hawdd ei reoli a chynaliadwy, mewn tair ton.

Cymwysterau ton 1

Addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025:

  • TGAU Almaeneg
  • TGAU Astudiaethau Crefyddol
  • TGAU Busnes
  • TGAU Bwyd a Maeth
  • TGAU Celf a Dylunio
  • TGAU Cerddoriaeth
  • TGAU Cyfrifiadureg
  • TGAU Cymraeg Craidd
  • TGAU Daearyddiaeth
  • TGAU Drama
  • TGAU Ffrangeg
  • TGAU Hanes
  • TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Gradd Unigol a Dwyradd*) 
  • TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Gradd Unigol a Dwyradd*)
  • TGAU Mathemateg a Rhifedd (Gradd Dwyradd)
  • TGAU Sbaeneg
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymraeg Craidd Ychwanegol
*Most appropriate programme of study for the majority of learners

Cymwysterau ton 2

Addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026:

  • TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd
  • TGAU Astudiaethau Cymdeithasol
  • TGAU Dawns
  • TGAU Dylunio a Thechnoleg
  • TGAU Ffilm a Chyfryngau Digidol
  • TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol)
  • TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
  • TGAU Technoleg Ddigidol
  • TGAU Y Gwyddorau (Gradd Dwyradd*)
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Mathemateg Ychwanegol
*Y rhaglen astudio fwyaf priodol ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr

Cymwysterau ton 3

Addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027:

  • TAAU Adfer Natur
  • TAAU Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth
  • TAAU Amgylchedd Adeiledig
  • TAAU Busnes, Cyfrifeg a Chyllid
  • TAAU Cynhyrchu Creadigol a’r Cyfryngau, a Thechnoleg
  • TAAU Cynnal a Chadw Cerbydau Modur
  • TAAU Chwaraeon a Hamdden
  • TAAU Gofal Anifeiliaid 
  • TAAU Gwallt a Harddwch
  • TAAU Gwasanaethau Cyhoeddus 
  • TAAU Lletygarwch ac Arlwyo
  • TAAU Manwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • TAAU Peirianneg 
  • TAAU Teithio a Thwristiaeth
  • TAAU Y Celfyddydau Perfformio
  • Adfer Natur Sylfaen
  • Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth Sylfaen  
  • Busnes, Cyfrifeg a Chyllid Sylfaen
  • Celfyddydau Mynegiannol Sylfaen
  • Cymraeg Craidd Sylfaen
  • Cymraeg Sylfaen
  • Cynhyrchu Creadigol a Chyfryngau, a Thechnoleg Sylfaen
  • Cynnal a Chadw Cerbydau Modur Sylfaen
  • Chwaraeon a Hamdden Sylfaen
  • Dylunio a Thechnoleg Sylfaen
  • Dyniaethau Sylfaen
  • Gofal Anifeiliaid Sylfaen
  • Gwallt a Harddwch Sylfaen
  • Gwasanaethau Cyhoeddus Sylfaen
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Sylfaen
  • Lletygarwch ac Arlwyo Sylfaen
  • Manwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid Sylfaen
  • Mathemateg a Rhifedd Sylfaen
  • Peirianneg Sylfaen
  • Saesneg Sylfaen
  • Technoleg Ddigidol Sylfaen
  • Teithio a Thwristiaeth Sylfaen
  • Y Gwyddorau Sylfaen
  • Yr Amgylchedd Adeiledig Sylfaen
  • Sgiliau Bywyd
  • Sgiliau Gwaith 
  • Sgiliau Bywyd a Gwaith 
  • Y Prosiect Personol 

 

Mwy am y Cwricwlwm i Gymru 

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn darparu fframwaith sy’n cefnogi pob canolfan i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain ac i ddewis y cymwysterau maen nhw’n eu cynnig.

Mae trefniadau ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ysgolion hefyd yn newid. Bydd perfformiad ysgol yn cael ei werthuso ar sail ystod eang a chytbwys o dystiolaeth, gyda llai o bwyslais ar ganlyniadau cymwysterau, gan roi mwy o ryddid i flaenoriaethu anghenion dysgwyr wrth ddylunio cymwysterau newydd.

Mae'r Cymwysterau Cenedlaethol wedi'u datblygu gyda'r cwricwlwm newydd mewn golwg.

Rhagor o wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru

https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/?gclid=CjwKCAiA7t6sBhAiEiwAsaieYl6eSLlu2HMOtsaXMPhen0KM0vKK0kqzc4yeNDvcCDzD5iM2QqRQPhoCwhEQAvD_BwE

 

Cymorth i ganolfannau 

Mae nifer o randdeiliaid yn gweithio gyda'i gilydd i wireddu uchelgais y Cwricwlwm i Gymru, a gallwch weld beth yw ein rolau a'n cyfrifoldebau isod.

Llun o dri chog lliwgar gyda logos Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru yn eu canol, gyda’r cog olaf yn dangos y geiriau ‘Cyrff Dyfarnu’.

  • Llywodraeth Cymru: yn gosod polisi addysg

Yn goruchwylio'r system addysg a rôl cymwysterau ynddi, gan bennu cyfeiriad polisi a rhoi arweiniad. 

  • Cymwysterau Cymru: rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau 14-19 a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.

Yn nodi'r gofynion dylunio ac yn cymeradwyo, monitro a gwerthuso cymwysterau i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. 

  • Cyrff dyfarnu: yn datblygu’r cymwysterau yn unol â gofynion dylunio Cymwysterau Cymru. 

Mae CBAC yn datblygu'r cymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig newydd, tra bydd amrywiaeth o gyrff dyfarnu yn datblygu'r cymwysterau TAAU, y cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau. 

 

Ein dull o ddatblygu cymwysterau 

Rydyn ni wedi cynnwys amrywiaeth o bartneriaid, athrawon, dysgwyr, cynghorwyr arbenigol, cyflogwyr, colegau, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion i helpu i lunio'r cymwysterau newydd.

Cyn i bob cymhwyster gael ei addysgu yn yr ystafell ddosbarth, rydyn ni’n mynd trwy broses helaeth o ymchwilio, ymgynghori a gweithio ar ddatblygu cymwysterau gyda chyrff dyfarnu.

Llinell amser cyflawni’r prosiect

2019

Fe wnaethon ni gynnal ein hymgynghoriad cyhoeddus cyntaf er mwyn sefydlu'r egwyddorion arweiniol amlinellol a ddylai lywio'r cymwysterau diwygiedig. Gofynnwyd yn benodol i randdeiliaid beth ddylai ddigwydd gyda chymwysterau TGAU a'r Dystysgrif Her Sgiliau. 
Darllenwch yr adroddiad penderfyniadau

Fe wnaethon ni gwblhau ymchwil i ganfyddiadau a phrofiadau athrawon a dysgwyr ynghylch asesiadau di-arholiad.
Darllenwch yr adroddiad ymchwil

Fe wnaethon ni gomisiynu ymchwil i systemau asesu addysgol rhyngwladol a sut maen nhw’n cynnwys athrawon yn y cylch asesu.  
Darllenwch yr adroddiad ymchwil


2021

Fe wnaethon ni gyflwyno ein hail ymgynghoriad cyhoeddus yn gofyn am farn ar y sgiliau cyfannol yn y Dystysgrif Her Sgiliau, yn ogystal â'r amrywiaeth o bynciau a ddylai fod ar gael ar gyfer TGAU.
Darllenwch yr adroddiad penderfyniadau

Fe wnaethom hefyd gyhoeddi ein penderfyniad ar gymwysterau Cymraeg TGAU.


2022

Fe wnaethon ni gyflwyno ein trydydd ymgynghoriad cyhoeddus yn ymwneud yn benodol â'n cynigion pwnc ar gyfer TGAU.
Darllenwch yr adroddiad penderfyniadau
Darllenwch grynodeb o’r adroddiad penderfyniadau
Darllenwch ganlyniadau'r ymgynghoriad fesul pwnc
Darllenwch fersiwn o’r adroddiad sy’n arbennig ar gyfer pobl ifanc

Cyhoeddom nifer o ddogfennau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r penderfyniadau yma:
Dull gweithredu rheoleiddiol
Gweledigaeth creu ar y cyd
Methodoleg ymgynghori Trawsgwricwlaidd
Gweithredu themâu trawsbynciol y Cwricwlwm i Gymru
Asesiad Effaith Integredig
Themâu ymgynghoriad
Dadansoddi amcanion dysgwyr mewn gwyddoniaeth


2023

Fe wnaethon ni gynnal nifer o weminarau i gyflwyno canlyniadau'r ymgynghoriad a phenderfyniadau ar lefel pwnc:

Fe wnaethon ni gyflwyno ein pedwerydd ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn sefydlu barn ar y cynnig cymwysterau galwedigaethol diwygiedig.
Darllenwch yr adroddiad penderfyniadau
Darllenwch grynodeb o’r adroddiad penderfyniadau
Darllenwch fersiwn o’r adroddiad sy’n arbennig ar gyfer pobl ifanc


2024

CBAC wedi cyhoeddi manylebau ar gyfer TGAU Ton 1.

Meini prawf cymeradwyo i'w cyhoeddi ar gyfer cymwysterau TAAU, cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau. 

Fe wnaethon ni gyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer pob TGAU diwygiedig.

Cyhoeddom Meini Prawf Cymeradwyo lefel cymhwyster ac Amodau a Gofynion diwygiedig ar gyfer cymwysterau TGAU Cenedlaethol.

Cyhoeddwyd ein Datganiad o Fwriad Polisi ar gyfer Cymwysterau Cenedlaethol 14-16


2025

Bydd cymwysterau TGAU Ton 1 yn cael eu haddysgu mewn ysgolion am y tro cyntaf.

CBAC i gyhoeddi manylebau ar gyfer cymwysterau TGAU Ton 2.

Cyrff dyfarnu i ddatblygu manylebau ar gyfer cymwysterau TAAU, cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau. 


2026

Bydd cymwysterau TGAU Ton 2 yn cael eu haddysgu mewn ysgolion am y tro cyntaf.

Cyrff dyfarnu i gyhoeddi manylebau ar gyfer cymwysterau TAAU, cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau. 


2027

Bydd cymwysterau TGAU Ton 1 yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf.

Bydd cymwysterau TAAU, cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau yn cael eu haddysgu mewn ysgolion am y tro cyntaf. 

Bydd dyfarnu'n dechrau ar gyfer rhai cymwysterau TAAU, cymwysterau Sylfaen a’r Gyfres Sgiliau. 


2028

Bydd cymwysterau TGAU Ton 2 yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf.


 

Meini Prawf Cymeradwyo lefel cymhwyster

Cadwch i fyny â'r newyddion diweddaraf, ymgynghoriadau agored ac adolygu gweithgareddau sydd wedi dod i ben ar ein platfform Dweud Eich Dweud. 

Gallwch hefyd ofyn unrhyw ymholiadau sydd gennych am ddiwygio cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed, a bydd ein Rheolwyr Cymwysterau yn cysylltu â chi'n uniongyrchol. 

Cynnwys cysylltiedig