Cymwysterau Cenedlaethol 14–16

Gall pobl ifanc yng Nghymru nawr ddechrau dewis o amrywiaeth o gymwysterau newydd cyffrous wrth wneud eu dewisiadau ar gyfer Blwyddyn 10.

Mae Cymwysterau Cenedlaethol yn gyfres gynhwysfawr a pherthnasol o gymwysterau, sy’n amrywio o gymwysterau TGAU gradd unigol a dwyradd mewn pynciau fel Cymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth, i'r TAAU newydd sy'n gysylltiedig â gwaith mewn pynciau fel gwasanaethau cyhoeddus a pheirianneg. Mae yna hefyd gyfres o gymwysterau Sylfaen, yn ogystal ag amrywiaeth o unedau Sgiliau Bywyd a Gwaith a Phroject Personol.  

Maen nhw wedi cael eu dylunio i gefnogi nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru.

Mae canolfannau'n gallu cynnig cyfuniad pwrpasol o'r cymwysterau newydd hyn i gefnogi eu dysgwyr i gyflawni eu nodau unigol ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith. 
Yn ogystal â chynnig cyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ar draws ystod amrywiol o feysydd pwnc a sector, mae’r Cymwysterau Cenedlaethol:

  • yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol
  • yn darparu sgiliau y mae cyflogwyr Cymru yn galw amdanyn nhw
  • yn cynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu ymarferol
  • yn cynnig cymysgedd ehangach o ddulliau asesu
  • yn werthfawr yng Nghymru a thu hwnt

Rydyn ni'n sicrhau y bydd pobl ifanc yng Nghymru yn dod yn gymwys ar gyfer y dyfodol.

 

Cipolwg ar y Cymwysterau Cenedlaethol


Rydyn ni wedi datblygu trosolwg defnyddiol o'r cymwysterau newydd i arbed amser i chi. 

Canllaw i ganolfannau


Mae'r canllaw wedi'i gynllunio i helpu gweithwyr addysg proffesiynol ddeall y newidiadau i'r ddarpariaeth cymwysterau ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed.


Cymwysterau diwygiedig ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed yng Nghymru

Cymwysterau Sylfaen TAAU
TGAU Y Gyfres Sgiliau


Lefelau dysgu

Bydd y Cymwysterau Cenedlaethol yn darparu cyfleoedd asesu ar lefel mynediad, lefel 1 a lefel 2.


Creu cwrs astudio cydlynol

Mae'r Cymwysterau Cenedlaethol wedi'u cynllunio i gefnogi ehangder a dyfnder mewn dysgu a chynnydd.

Mae pob un o'r pedwar math o gymhwyster yn gwasanaethu pwrpasau gwahanol, ac yn aml pwrpasau lluosog. Caiff dysgwyr eu hannog i astudio'r cymwysterau hynny sydd ar gael yn eu canolfan a fydd yn rhoi'r profiad dysgu gorau iddyn nhw yn seiliedig ar eu cryfderau, eu diddordebau a'u dyheadau.

Dyma rai enghreifftiau o sut y gallai dysgwyr gyfuno cymwysterau:

Pa bynciau sydd ar gael?

Pynciau cyffredinol
  • Cymraeg
  • Cymraeg Craidd
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Saesneg
  • Technoleg Ddigidol
  • Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Y Dyniaethau
  • Y Gwyddorau
Pynciau cysylltiedig â gwaith
  • Adfer Natur
  • Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth
  • Busnes, Cyfrifeg a Chyllid
  • Cynhyrchu Creadigol A’r Cyfryngau, a Thechnoleg
  • Cynnal a Chadw Cerbydau Modur
  • Chwaraeon a Hamdden
  • Gofal Anifeiliaid
  • Gwallt a Harddwch
  • Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Iechyd A Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Adwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • Peirianneg
  • Teithio a Thwristiaeth
  • Yr Amgylchedd Adeiledig

  • Addysg Gorfforol ac Iechyd
  • Almaeneg
  • Astudiaethau Crefyddol
  • Astudiaethau Cymdeithasol
  • Busnes
  • Bwyd a Maeth
  • Celf a Dylunio
  • Cerddoriaeth
  • Cyfrifiadureg
  • Cymraeg Craidd
  • Daearyddiaeth
  • Dawns
  • Drama
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Ffilm a Chyfryngau Digidol
  • Ffrangeg
  • Gwyddoniaeth Integredig (Gradd Unigol)
  • Hanes
  • Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg (Gradd Unigol a Dwyradd) 
  • Iaith a Llenyddiaeth Saesneg (Gradd Unigol a Dwyradd) 
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal plant
  • Mathemateg a Rhifedd (Dwyradd)
  • Sbaeneg 
  • Technoleg Ddigidol
  • Y Gwyddorau (Dwyradd)
Dyfarniad Lefel 2
  • Cymraeg Craidd Ychwanegol
  • Mathemateg Ychwanegol

  • Adfer Natur
  • Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Choedwigaeth
  • Amgylchedd Adeiledig
  • Busnes, Cyfrifeg a Chyllid
  • Cynhyrchu Creadigol a’r Cyfryngau, a Thechnoleg
  • Cynnal a Chadw Cerbydau Modur
  • Chwaraeon a Hamdden
  • Gofal Anifeiliaid 
  • Gwallt a Harddwch
  • Gwasanaethau Cyhoeddus 
  • Lletygarwch ac Arlwyo
  • Adwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • Peirianneg 
  • Teithio a Thwristiaeth
  • Y Celfyddydau Perfformio

  • Sgiliau Bywyd
  • Sgiliau Gwaith
  • Sgiliau Bywyd a Gwaith
  • Project Personol


Mwy am y Cwricwlwm i Gymru 

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn darparu fframwaith sy’n cefnogi pob canolfan i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain ac i ddewis y cymwysterau maen nhw’n eu cynnig.

Mae trefniadau ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ysgolion hefyd yn newid. Bydd perfformiad ysgol yn cael ei werthuso ar sail ystod eang a chytbwys o dystiolaeth, gyda llai o bwyslais ar ganlyniadau cymwysterau, gan roi mwy o ryddid i flaenoriaethu anghenion dysgwyr wrth ddylunio cymwysterau newydd.

Mae'r Cymwysterau Cenedlaethol wedi'u datblygu gyda'r cwricwlwm newydd mewn golwg.

 

Rhagor o wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru

 

https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/?gclid=CjwKCAiA7t6sBhAiEiwAsaieYl6eSLlu2HMOtsaXMPhen0KM0vKK0kqzc4yeNDvcCDzD5iM2QqRQPhoCwhEQAvD_BwE


Cymorth i ganolfannau 

Mae nifer o randdeiliaid yn gweithio gyda'i gilydd i wireddu uchelgais y Cwricwlwm i Gymru, a gallwch weld beth yw ein rolau a'n cyfrifoldebau isod.

Llun o dri chog lliwgar gyda logos Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru yn eu canol, gyda’r cog olaf yn dangos y geiriau ‘Cyrff Dyfarnu’.

  • Llywodraeth Cymru: yn gosod polisi addysg.

Yn goruchwylio'r system addysg a rôl cymwysterau ynddi, gan bennu cyfeiriad polisi a rhoi arweiniad. 

  • Cymwysterau Cymru: rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau 14-19 a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.

Yn nodi'r gofynion dylunio ac yn cymeradwyo, monitro a gwerthuso cymwysterau i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. 

  • Cyrff dyfarnu: yn datblygu’r cymwysterau yn unol â gofynion dylunio Cymwysterau Cymru. 

Mae CBAC yn datblygu'r cymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig newydd, tra bydd amrywiaeth o gyrff dyfarnu yn datblygu'r cymwysterau TAAU, y cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau. 


Ein dull o ddatblygu cymwysterau 

Rydyn ni wedi cynnwys amrywiaeth o bartneriaid, athrawon, dysgwyr, cynghorwyr arbenigol, cyflogwyr, colegau, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion i helpu i lunio'r cymwysterau newydd.

Cyn i bob cymhwyster gael ei addysgu yn yr ystafell ddosbarth, rydyn ni’n mynd trwy broses helaeth o ymchwilio, ymgynghori a gweithio ar ddatblygu cymwysterau gyda chyrff dyfarnu.


Llinell amser cyflawni’r project

  • Fe wnaethon ni gynnal ein hymgynghoriad cyhoeddus cyntaf er mwyn sefydlu'r egwyddorion arweiniol amlinellol a ddylai lywio'r cymwysterau diwygiedig. Gofynnwyd yn benodol i randdeiliaid beth ddylai ddigwydd gyda chymwysterau TGAU a'r Dystysgrif Her Sgiliau. 
  • Fe wnaethon ni gwblhau ymchwil i ganfyddiadau a phrofiadau athrawon a dysgwyr ynghylch asesiadau di-arholiad.
  • Fe wnaethon ni gomisiynu ymchwil i systemau asesu addysgol rhyngwladol a sut maen nhw’n cynnwys athrawon yn y cylch asesu.  

  • Fe wnaethon ni gyflwyno ein hail ymgynghoriad cyhoeddus yn gofyn am farn ar y sgiliau cyfannol yn y Dystysgrif Her Sgiliau, yn ogystal â'r amrywiaeth o bynciau a ddylai fod ar gael ar gyfer TGAU.
  • Fe wnaethom hefyd gyhoeddi ein penderfyniad ar gymwysterau Cymraeg TGAU.

  • Bydd cymwysterau TGAU Ton 1 yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf.

  • Bydd cymwysterau TAAU, cymwysterau Sylfaen a'r Gyfres Sgiliau yn cael eu haddysgu mewn ysgolion am y tro cyntaf. 

  • Bydd cymwysterau TGAU Ton 2 yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf.

Meini Prawf Cymeradwyo lefel cymhwyster


Cadwch i fyny â'r newyddion diweddaraf, ymgynghoriadau agored ac adolygu gweithgareddau sydd wedi dod i ben ar ein platfform Dweud Eich Dweud. Gallwch hefyd ofyn unrhyw ymholiadau sydd gennych am ddiwygio cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed, a bydd ein Rheolwyr Cymwysterau yn cysylltu â chi'n uniongyrchol. 


Cynnwys cysylltiedig

Asesu digidol
Gohebiaeth