Llinell amser Cymwysterau Cenedlaethol
Darllenwch am yr holl ymchwil, ymgynghoriadau a phenderfyniadau sy'n ymwneud â'r Cymwysterau Cenedlaethol yn ein llinell amser ar gyfer cyflawni'r project.
Mae'r Gyfres Sgiliau yn rhan annatod o'r cynnig Cymwysterau Cenedlaethol 14–16 newydd. Ar gael o Lefel Mynediad i Lefel 2, mae’r Gyfres Sgiliau yn galluogi dysgwyr i greu eu llwybr dysgu eu hunain o amrywiaeth o bynciau cynhwysol i ddatblygu sgiliau gwaith a bywyd effeithiol a pherthnasol.
Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu cyflwyno gan un neu fwy o'r cyrff dyfarnu canlynol, yn amodol ar gymeradwyaeth manyleb:
Bydd o leiaf 28 o bynciau Sgiliau Bywyd ac 19 o bynciau Sgiliau Gwaith, gan alluogi pob math o ddysgwyr i ddatblygu sgiliau mewn meysydd maen nhw wedi dweud wrthym yr hoffen nhw eu harchwilio. Yn ogystal â'r pynciau a restrir isod, bydd cyrff dyfarnu'n gallu cynnig uned ieithoedd rhyngwladol ar gyfer Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith, yn ogystal â hyd at dair uned ychwanegol o'u dewis.
Mae pob pwnc yn cael ei addysgu a'i asesu fel uned annibynnol, gryno, a gall dysgwyr ddewis a dethol unedau i greu llwybr dysgu sy'n addas i'w cryfder au, eu diddordebau a'u dyheadau o ran dilyniant. Gall dysgwyr ddilyn unedau’r Gyfres Sgiliau ochr yn ochr â'u TGAU, TAAU a/neu gymwysterau Sylfaen.
Gall dysgwyr hefyd ddatblygu eu sgiliau drwy archwilio pwnc maen nhw’n teimlo’n angerddol amdano gyda'r Project Personol.
Gall athrawon ac arweinwyr ysgolion ddod o hyd i restr o'r cymwysterau galwedigaethol a sgiliau na fydd ar gael mwyach o fis Medi 2027 yn ein llythyr i ganolfannau.
Mae’r 28 uned Sgiliau Bywyd yn ymdrin â phynciau sy’n caniatáu i bob dysgwr ddatblygu sgiliau a gwybodaeth mewn meysydd a fydd yn eu helpu mewn bywyd, a’u cefnogi i ddod yn unigolion iach a hapus.
| Sgiliau Bywyd | |
|
|
Mae’r 19 uned Sgiliau Gwaith yn ymdrin â phynciau a fydd yn helpu dysgwyr i drosglwyddo i gyflogaeth, ar ba bynnag bwynt maen nhw’n dewis symud ymlaen o addysg amser llawn.
| Sgiliau Gwaith | |
|
|
Yn olynydd i’r Dystysgrif Her Sgiliau, mae’r Project Personol yn brosiect ar ei ben ei hun a gwblheir yn annibynnol gan ddysgwyr ac ar bwnc o’u dewis. Ar ôl cwblhau eu project, bydd dysgwyr yn cael eu hasesu ar eu defnydd o bedwar sgil cyfannol fel yr amlinellir yn y Cwricwlwm i Gymru:
Bydd dysgwyr yn gallu dangos eu hyfedredd yn y sgiliau hyn trwy amrywiaeth eang o fathau o dystiolaeth.
Yn ogystal â galluogi dysgwyr i ddewis a dethol unedau i weddu i’w hanghenion, bydd y Gyfres Sgiliau hefyd:
Dyma fydd strwythur y graddau ar gyfer cymwysterau Sgiliau Bywyd, Sgiliau Gwaith a Sgiliau Bywyd a Gwaith:
| Lefel Mynediad | Lefel 1 | Lefel 2 |
|
Lefel Mynediad 1 Llwyddo |
Lefel 1 Llwyddo |
Lefel 2 Llwyddo |
|
Lefel Mynediad 2 Llwyddo |
||
|
Lefel Mynediad 3 Llwyddo |
Dyma fydd strwythur y graddau ar gyfer y Project Personol:
| Lefel Mynediad | Lefel 1 | Lefel 2 |
|
Lefel Mynediad 1 Llwyddo |
Lefel 1 Llwyddo |
Lefel 2 Llwyddo |
|
Lefel Mynediad 2 Llwyddo |
Lefel 1 Teilyngdod |
Lefel 2 Teilyngdod |
|
Lefel Mynediad 3 Llwyddo |
Lefel 1 Rhagoriaeth |
Lefel 2 Rhagoriaeth |
Gan fod y Gyfres Sgiliau ar gael ar Lefel Mynediad, Lefel 1 a Lefel 2, mae'r cymwysterau wedi'u cynllunio i weithio i bob dysgwr a gellir eu dilyn ochr yn ochr â TGAU, TAAU a/neu gymwysterau Sylfaen.
Felly, gall dysgwyr sy'n dilyn y cymwysterau hyn symud ymlaen i astudiaeth academaidd neu alwedigaethol ôl-16, naill ai yn yr ysgol, mewn sefydliad addysg bellach, yn y brifysgol neu fel rhan o'u dysgu seiliedig ar waith. Bydd rhai yn dewis mynd yn syth i gyflogaeth.
Bydd y Gyfres Sgiliau yn cael ei haddysgu mewn ysgolion am y tro cyntaf o fis Medi 2027. Mae nifer o gerrig milltir i fod yn ymwybodol ohonynt fel rhan o ddatblygiad y cymwysterau newydd hyn:
Rydyn ni wedi cyhoeddi meini prawf cymeradwyo (yr amodau y mae angen i gorff dyfarnu eu bodloni er mwyn i ni gymeradwyo eu cymwysterau) ar gyfer y Gyfres Sgiliau.
Darllenwch ein meini prawf cymeradwyo ar gyfer Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith
Darllenwch y meini prawf cymeradwyo ar gyfer y Project Personol
Bydd cyrff dyfarnu yn datblygu eu cymwysterau ar gyfer y Gyfres Sgiliau i ni eu cymeradwyo.
Darllenwch am yr holl ymchwil, ymgynghoriadau a phenderfyniadau sy'n ymwneud â'r Cymwysterau Cenedlaethol yn ein llinell amser ar gyfer cyflawni'r project.
Darllenwch am yr holl ymchwil, ymgynghoriadau a phenderfyniadau sy'n ymwneud â'r Cymwysterau Cenedlaethol yn ein llinell amser ar gyfer cyflawni'r project.